Y Gymraeg
Does dim rhaid i chi deithio ymhell yn Sir Ddinbych i glywed rhythmau hyfryd y Gymraeg. Mae’n rhan arbennig o’r profiad cyffredinol i’ch ymwelwyr.
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr. Efallai nad oes yn rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl yn eich rôl, ond bydd ambell i ymadrodd ac agwedd gadarnhaol yn helpu’n fawr i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Ymunwch â’r filiwn o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u cynllunio erbyn 2050 trwy roi cynnig ar Duolingo sy’n ddifyr a gafaelgar, neu edrychwch ar wefan Dysgu Cymraeg. Mae eu cwrs ar-lein Cymraeg Gwaith wedi’i deilwra ar gyfer y sector twristiaeth – ac mae’n rhad ac am ddim.
Mae gwefan Say Something in Welsh yn ffordd wych o roi cynnig arni. Mae’n addo addysgu un frawddeg i chi yn Gymraeg mewn ffordd a fydd yn agor eich llygaid i allu anhygoel eich ymennydd.
Gall gwefan Helo Blod Llywodraeth Cymru eich helpu chi i ddysgu ambell i air Cymraeg hefyd a dechrau hyrwyddo eich busnes yn ddwyieithog. Bydd yn cyfieithu hyd at 500 gair o Gymraeg bob mis hyd yn oed – yn rhad ac am ddim.