Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Teithio Cyfrifol

Teithio Cynaliadwy

Mae teithio cynaliadwy’n golygu symud o gwmpas mewn ffordd sydd ddim yn difrodi’r amgylchedd, yr hinsawdd na chymunedau lleol.

Ceisiwch annog eich ymwelwyr i adael eu ceir a dewis opsiwn mwy cynaliadwy. Mae’n debyg y byddan nhw’n mwynhau eu diwrnod hyd yn oed yn fwy. Mae’n gyfle i ymlacio a mwynhau’r olygfa heb straen ychwanegol o ddelio â thraffig a pharcio.

Rheilffyrdd, bysiau, cychod a gaiff eu tynnu gan geffylau neu gychod modur… mae dewis diddiwedd o gludiant cynaliadwy sy’n cysylltu â llwybrau troed, llwybrau ceffylau a llwybrau beicio.

Mae llawer o ymwelwyr yn hoffi cymysgu dulliau teithio – mynd ar gwch cul tua Rhaeadr y Bedol a cherdded yn ôl ar hyd llwybr y gamlas, er enghraifft, neu ddal bws yn ôl ar ôl crwydro traws gwlad.

Mae gwefan Beicio Gogledd Cymru yn cynnwys canllaw cyflawn i feicio a beicio mynydd yn y rhanbarth ac mae’n cynnwys mapiau a chardiau llwybrau y mae modd eu lawrlwytho, a rhestrau o siopau beics, digwyddiadau mawr a llefydd aros.

Horse drawn boat rides, Llangollen Wharf

Dyma ychydig o syniadau teithio cynaliadwy i chi:

Dewiswch un neu ddau o wyliau hirach yn y DU yn hytrach na hedfan i ddinas yn rhywle am benwythnos. Cymerwch wyliau arafach a mwy ystyriol. Bydd yn eich helpu chi i ymlacio ac arbed arian ar danwydd.

Ewch yn ddyfnach, nid ehangach – (gweld llai o bethau, ond treulio mwy o amser) mae’n arbed arian ac yn rhoi profiadau gwell i chi. Wrth archwilio’r DU ystyriwch ddefnyddio arweinwyr teithiau lleol i ychwanegu ychydig o ddyfnder i’ch ymweliad. Gwnewch ychydig o ymchwil neu holwch bobl leol am drysorau cudd, yn enwedig mewn llefydd poblogaidd lle mae twristiaeth wedi effeithio ar y dirwedd a’r isadeiledd. Ystyriwch ymweld ag atyniadau ar adegau tawel neu lai prysur.

Dewiswch brofiadau, nid pethau. Pa bethau na fedrwch chi eu gwneud ac eithrio yn y lleoliad penodol yma? Dewiswch ddigwyddiad lleol fel anrheg i chi’ch hun, er enghraifft cyngerdd, sgwrs neu ddosbarth coginio. Mae’n stori well ac yn arwain at atgofion melys iawn.

Bwytewch fwydydd lleol – mae’n gynaliadwy, traddodiadol ac yn aml iawn yn well na bwyta mewn sefydliadau bwyd cyflym cadwyn. Dewiswch gaffis neu fwytai gydag ethos cynaliadwy, fel defnyddio cynhwysion tymhorol a lleol, lleihau gwastraff a rhoi bwydydd sy’n weddill. Bwytewch lai o gig a rhowch gynnig ar fwyty llysieuol neu figan.

Defnyddiwch botel ddŵr / cynhwysydd amldro. Mae llawer o lefydd yn gadael i chi ail-lenwi am ddim. Gall ymwelwyr lawrlwytho’r ap Refill o’r App Store neu Google Play i’w cysylltu nhw â lleoedd i fwyta, yfed a siopa gyda llai o wastraff. Nod Cymru ydi bod yn Genedl Ail-lenwi gyntaf y byd. Mae Loggerheads, Llangollen a Rhuthun wedi cofrestru, sy’n golygu bod siopau, tafarndai, caffis a gwestai sy’n cymryd rhan i gyd yn croesawu’r cyhoedd i ail-lenwi cynwysyddion dŵr ar eu heiddo. Mae cynlluniau yn y Rhyl a Phrestatyn hefyd, ac fel rhan o’r rhwydwaith o orsafoedd ail-lenwi ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Gyda help Surfers Against Sewage, mae Llangollen, Rhuthun a Phrestatyn yn Gymunedau Di-Blastig ardystiedig ac mae’r Rhyl a Dinbych yn gweithio tuag at hyn. Gyda’n gilydd, rydym yn mynd i’r afael â phlastig untro y gellir ei osgoi, o’r traeth yr holl ffordd yn ôl at y brandiau a’r busnesau sy’n ei greu.