Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Archwilio glan y môr

Mae pethau da angen eu diogelu. Mae’r Rhyl wedi bod yn gyrchfan glan môr enwog ers y cyfnod Fictoraidd. Mae dal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i’w draethau hyfryd ac atyniadau bywiog gan gynnwys y parc dŵr SC2.

Ond yn sgil newid hinsawdd ac amddiffynfeydd môr sy’n heneiddio, mae’r dref yn agored i lifogydd. Bellach mae cynllun amddiffyn arfordir aml-filiwn ar y gweill. Bydd yn gwella golygfeydd o’r môr, yn ei gwneud yn haws i gyrraedd y traethau euraidd a gwneud promenâd ysblennydd y Rhyl yn fwy dramatig nag erioed.

Ac yn well fyth, bydd yn cadw’r dref yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n dasg enfawr ac mae’n golygu y bydd rhannau o’r promenâd ar gau am gyfnod. Ond gallwch dal gyrraedd y traethau – ac mae’r atyniadau gwych a llefydd i fwyta ar lan y môr yn agored ac yn croesawu ymwelwyr.

Beth yn union sy’n digwydd?

Mae Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Canol y Rhyl yn cwmpasu tua 2km o hyd o Splash Point i’r gorllewin i du draw’r cwrs Crazy Golf gyferbyn â John Street.

Mae wedi ei rannu i ddwy ran:

  • Rhan ddwyreiniol o Splash Point i’r Arena Digwyddiadau.the Events Arena Yma fydd clogfeini mawr yn diogelu’r amddiffynfeydd presennol, sydd wedi eu claddu o dan lefel y traeth presennol, gyda llwybrau cerdded drwy’r cerrig at y tywod. Dylai fod wedi’i gwblhau erbyn tua mis Mawrth 2024.
  • Y rhan orllewinol yr Arena Digwyddiadau gyferbyn â John Street. Bydd hyn yn cynnwys wal gynnal a wal môr newydd. Bydd y promenâd yn cael ei godi a’i lledu, a bydd mynediad gwell i’r traeth drwy risiau a ramp. Dylai’r cyfan fod yn barod erbyn mis Hydref 2025.

Lle fydd y promenâd ar gau?

Ar hyn o bryd mae’r promenâd ar gau ar y rhan ddwyreiniol rhwng Old Golf Road a Maes Parcio’r Pafiliwn.

Ar yr ochr orllewinol, mae wedi cau rhwng Butterton Road a’r Arena Digwyddiadau.

Bydd y rhan o’r promenâd sydd wedi’i gau rhwng maes parcio’r Pafiliwn ag Old Golf Road er mwyn cwblhau’r gwaith i amddiffyn yr arfordir bellach yn agor ar benwythnosau wedi i gatiau diogelwch newydd gael eu gosod.

Bydd hyn yn caniatáu mynediad di-dor i feicwyr a cherddwyr rhwng Splash Point a’r Arena Digwyddiadau.

Bydd angen mynediad i’r prom ar gyfer peiriannau trwm o hyd yn ystod yr wythnos waith, gan gynnwys oriau gwaith llanw, felly bydd y gatiau ar gau o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gellir cyrraedd y traeth o orllewin Butterton Road a thu ôl i’r arena digwyddiadau.

Mae llawer o arwyddion i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd. Efallai bydd arnoch angen mynd ar ddargyfeiriad gwahanol ond mae’n ffordd dda o ddod o hyd i atyniadau gwahanol a llefydd i fwyta ar hyd Rhodfa’r Dwyrain, Rhodfa’r Gorllewin ac i mewn i ganol dref.

Beth am y traethau?

Bydd contractwyr Balfour Beatty yn gweithio ar y traethau pan fydd y llanw a thrai yn caniatáu, Bydd eu tîm o farsaliaid yn diogelu pawb a sicrhau bod y rhan fwyaf o’r traeth yn parhau yn hygyrch i bawb.