Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Traethau

Mae saith milltir o dywod yn ymestyn yr holl ffordd o’r Rhyl i Brestatyn – ac mae gan y Rhyl bedwar traeth ar ben ei hun. Dyma bopeth y byddwch angen gwybod amdano i’w cyrraedd a’r cyfleusterau hanfodol gerllaw.

Gorllewin y Rhyl

Yn ymestyn o Harbwr y Rhyl i Bentref y Plant. Gyda cherrynt cyflym a llongau yn llywio i mewn ac allan, nid dyma’r lle i nofio. Ond mae’n ddelfrydol ar gyfer gwneud cestyll tywod, padlo a thorheulo (gyda digon o eli haul).

Mynediad: gyferbyn â Palace Avneur neu i’r gorllewin o Butterton Road.
Maes parcio agosaf: Y Tŵr Awyr, LL18 1HF
Toiledau cyhoeddus agosaf: Pentref y Plant, LL18 1HL.

Canol y Rhyl

Gyferbyn â phen y Stryd Fawr, dyma draeth prysuraf y Rhyl lle byddwn yn annog nofio – ond arhoswch rhwng y baneri coch a melyn.

Yn ystod tymor yr haf mae achubwyr bywyd gerllaw i gadw pawb yn ddiogel a chynnig sesiynau pêl-foli a phêl-droed am ddim:

27 Mai – 4 Mehefin
7 diwrnod yr wythnos
10am-6pm

10-25 Mehefin
Penwythnosau yn unig
10am-6pm

1 Gorffennaf – 3 Medi
7 diwrnod yr wythnos
10am-6pm

Ewch ar dudalennau gwe achubwyr bywyd ar y traeth i gael rhagor o wybodaeth.

Mynediad: yn Arena Digwyddiadau’r Rhyl
Maes parcio agosaf: Canolog LL18 1HD:
Toiledau cyhoeddus agosaf: Pentref y Plant LL18 1HL neu Arena Digwyddiadau LL18 3AF.

Dwyrain y Rhyl

Mae’r traeth hwn rhwng yr orsaf bad achub ac Old Golf Road gydag ardal ar gyfer chwaraeon megis barcudfyrddio, hwylfyrddio a caiacio. Yn PKS Watersports ger y Kite Surf Café, gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fwynhau hwyl y traeth drwy hurio cadair olwyn sy’n addas i dywod – mae’n wych i symud ar y tywod a cherrig.

Mynediad: unrhyw le rhwng gorsaf y bad achub a Theatr y Pafiliwn. Mynediad i gadair olwyn yn Pro-Kite Surfing.
Maes parcio agosaf: Rhodfa’r Dwyrain LL18 3SG
Toiledau cyhoeddus agosaf: Arena Digwyddiadau LL18 3AF.

Splash Point

Dyma’r traeth i gerddwyr cŵn yn y Rhyl, lle gallent ymarfer unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae waliau’r môr yn eithaf uchel gyda phwyntiau mynediad dynodedig ar gyfer y traeth.

Mynediad: 200 medr i’r dwyrain o Old Golf Road
Maes parcio agosaf: Pafiliwn LL18 3AQ
Toiledau cyhoeddus agosaf: Old Golf Road LL18 3PB.

Cadw’n ddiogel

Cŵn ar y traeth

Rydym yn caru ein cŵn a chânt fynd unrhyw le ar y tywod rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill. Yn ystod misoedd prysur rhwng 1 Mai a 30 Medi, mae cyfyngiadau mewn lle – ond maent dal yn cael croeso o’r Kite Surf Café yr holl ffordd i’r dwyrain at Erddi Gŵyl Ffrith, Prestatyn.