Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Yr holl bethau ymarferol sydd angen eu gwybod wrth grwydro glan y môr y Rhyl. Sut i gyrraedd, lle i barcio neu ddod o hyd i doiled, y llefydd gorau i siopa – hyd yn oed sut i archebu gwely am y noson.

Parcio
Toiledau Cyhoeddus
Cludiant cyhoeddus
Tacsis
Hygyrchedd i bawb
Gwybodaeth i Dwristiaid
Siopa

Parcio

Mae digonedd o leoedd parcio ar hyd y promenâd yn y Rhyl ac ynghanol y dref. Gallwch ddefnyddio’r peiriannau tocynnau i dalu neu defnyddiwch PayByPhone.

Meysydd parcio ar y promenâd:

Canol

Y Rhyl LL18 1HD

Maes parcio tanddaearol. 413 o leoedd, 31 o leoedd i’r anabl. 19 o leoedd am ddim am awr, 2 o leoedd i’r anabl am ddim am ddwy awr.

Ar agor: 1 Ebrill-30 Medi 7am-9pm, 1 Hydref-21 Mawrth 7am-7pm.
Tâl (8am-5pm): Mawrth-Hydref 1 awr £1, 4 awr £3, drwy’r dydd £4.50. Tachwedd-Chwefror 1 awr 50c, 4 awr £1, drwy’r dydd £2.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Rhodfa’r Dwyrain

Rhodfa’r Dwyrain (wrth ymyl y Kite Surf Café)
Y Rhyl LL18 3SG

48 o leoedd parcio, 9 o leoedd parcio i’r anabl. Mae’r fynedfa rhwng Travelodge a Theatr y Pafiliwn.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-5pm): Mawrth-Hydref 1 awr £1, 4 awr £3, drwy’r dydd £4.50. Tachwedd-Chwefror 1 awr 50c, 4 awr £1, drwy’r dydd £2.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Y Pafiliwn

Theatr y Pafiliwn
Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl LL18 3AQ

82 o leoedd i barcio a 10 o leoedd parcio i’r anabl yn ogystal â maes parcio gorlif â 158 o leoedd.

Ar agor: 7am-hanner nos.
Tâl (8am-5pm): Mawrth-Hydref 1 awr £1, 4 awr £3, drwy’r dydd £4.50. Tachwedd-Chwefror 1 awr 50c, 4 awr £1, drwy’r dydd £2.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Rhodfa’r Gorllewin / Dwyrain

Y Promenâd
Rhodfa’r Gorllewin / Dwyrain
Y Rhyl LL18

Parcio ar y stryd. 219 o leoedd.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-6pm): Mawrth-Hydref 1 awr £1, 4 awr £3, drwy’r dydd £4.50. Tachwedd-Chwefror 1 awr 50c, 4 awr £1, drwy’r dydd £2.
Deiliaid bathodynnau glas: am ddim.

Y Tŵr Awyr

Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl LL18 1HF

95 o leoedd, 16 o leoedd i’r anabl, 4 i feiciau modur.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-hanner nos): Mawrth-Hydref 1 awr £1, 4 awr £3, drwy’r dydd £4.50,
Tachwedd-Chwefror 1 awr 50c, 4 awr £1, drwy’r dydd £3.50.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Parcio Bysus

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl LL18 3SG

Lle i 6 o fysus barcio am ddim ar Rodfa’r Dwyrain / Marine Drive gerllaw Theatr y Pafiliwn.

Meysydd parcio eraill yn y Rhyl:

Marine Lake

Y Rhyl LL18 1LN

39 o leoedd, 3 o leoedd i’r anabl.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl: rhad ac am ddim.

Llyfrgell y Rhyl

Stryd yr Eglwys
Y Rhyl LL18 3AH

14 o leoedd i’r anabl yn unig.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-5pm): 30 munud 30c, 1 awr £1, 3 awr £2, drwy’r dydd £7.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Ffordd Morley

Y Rhyl LL18 3HG

119 o leoedd, 13 o leoedd i’r anabl, 9 o leoedd am ddim am awr, 2 o leoedd i’r anabl am ddim am awr.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-5pm): 30 munud 30c, 1 awr £1, 3 awr £2, drwy’r dydd £7.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Yr Orsaf Reilffordd

Y Rhyl LL18 1BU

22 o leoedd, 5 o leoedd i’r anabl.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-5pm): 30 munud 30c, 1 awr £1, 3 awr £2, drwy’r dydd £7. Os prynwch chi docyn parcio ar yr un pryd â thocyn trên, mae’r tâl am barcio drwy’r dydd yn gostwng i £3.50.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Neuadd y Dref

Stryd y Dŵr
Y Rhyl LL18 1SW

27 o leoedd, 3 o leoedd i’r anabl, 1 lle i feic modur, 2 o leoedd i wefru cerbydau trydan.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (10.30am-5pm): 30 munud 30c, 1 awr £1, 3 awr £2, drwy’r dydd £7.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Gorllewin Stryd Cinmel

Y Rhyl LL18 1DA

66 o leoedd, 10 o leoedd i’r anabl, 8 o leoedd am ddim am awr, 2 o leoedd i’r anabl am ddim am ddwy awr. Mae yno 36 o leoedd i wefru cerbydau trydan yn y maes parcio hwn – nodir y pris ar y peiriannau.

Ar agor: 24 awr y dydd.
Tâl (8am-5pm): 30 munud 30c, 1 awr £1, 3 awr £1.50, drwy’r dydd £3.50.
Deiliaid Bathodynnau Glas: rhaid talu, ond ceir awr yn ychwanegol o barcio am ddim.

Toiledau Cyhoeddus

Mae cyfleusterau i bobl anabl yn ein holl doiledau cyhoeddus yn y Rhyl a’r rhan fwyaf ohonynt â chloeon RADAR. Mae lle i newid clytiau babanod ymhob un o’r toiledau cyhoeddus yn y Rhyl.

Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych i weld yr holl fanylion am oriau agor ac unrhyw dâl a godir.

Toiledau ar y promenâd:

Pentref y Plant

Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl LL18 1HL

Pod neillryw a thoiledau dynion a merched.

Tâl: 30c.
Clo RADAR: nac oes.
Ar agor: pod neillryw 23 Mai-26 Medi, 7am-11am a 5pm-9pm, 27 Medi-22 Mai 7am-9pm; toiledau dynion a merched 6-26 Medi 11am-5pm, 27 Medi-9 Ebrill ar gau, 10-23 Ebrill 11am-5pm, 24 Ebrill-22 Mai 10am-4pm.

Arena Ddigwyddiadau

Rhodfa’r Dwyrain
Y Rhyl LL18 3AF

Pod neillryw a thoiledau dynion a merched.

Tâl: 30c (am ddim i blant dan 10 gydag oedolyn sy’n talu)
Clo RADAR: oes, yn hygyrch pan mae’r toiledau dynion a merched ar agor.
Ar agor: pod neillryw 26 Mai-26 Medi, 7am-10am a 4pm-9pm, 27 Medi-25 Mai 7am-9pm; toiledau dynion a merched 6-26 Medi 11am-5pm, 27 Medi-25 Mai ar gau.

Old Golf Road

Y Rhyl LL18 3PB

Toiledau dynion a merched.

Tâl: am ddim.
Clo RADAR: oes.
Ar agor: 10am-6pm gydol y flwyddyn.

Toiledau eraill yn y Rhyl:

Gorsaf Fysus

Stryd Bodfor
Y Rhyl LL18 1AT

Pod neillryw.

Tâl: 30c.
Clo RADAR: nac oes.
Ar agor: 26 Mai-30 Medi 7am tan 9pm, 1 Hydref-25 Mai 7am-6pm.

Neuadd y Dref

Ffordd Wellington
Y Rhyl LL18 1AB

Toiledau dynion a merched.

Tâl: 30c.
Clo RADAR: oes.
Ar agor: 10am-4pm gydol y flwyddyn.

Cludiant cyhoeddus

Mae gan y Rhyl a Phrestatyn eu gorsafoedd rheilffyrdd eu hunain. Mae’r amserlen ar wefan National Rail ac ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael amserau trenau a manylion Tocynnau Rover neu Ranger sy’n eich galluogi i deithio’n ddiderfyn ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru.

Mae gan y Rhyl gysylltiadau da â’r rhwydwaith bysus hefyd. Ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych neu Traveline Cymru i weld yr amserlenni bws diweddaraf. Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws yn gadael i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled gogledd Cymru, felly gallwch deithio o gwmpas yn hawdd heb orfod poeni pa fws i’w ddal.

I deithio’n hyblyg o amgylch Prestatyn a’r cyffiniau, rhowch gynnig ar y gwasanaeth bws Fflecsi. Mae’r bysus arloesol hyn yn rhedeg ar fatris ac yn mynd yn ôl y galw. Lawrlwythwch yr ap Fflecsi neu ffoniwch 0300 234 0300 i drefnu taith.

Tacsis

A&J Taxis 01745 344444
Busy Bee 01745 331330
Coastal Taxis 01745 35555
Coastline 01745 366666
Horizon 01745 355202
Jane’s Taxis 01745 342345

Hygyrchedd i bawb

Dymunwn i bawb, beth bynnag eu gallu neu’u hanabledd, fedru mwynhau promenâd a thraethau bendigedig y Rhyl. Ar ôl inni weithredu ein cynlluniau newydd, uchelgeisiol ar gyfer amddiffyn yr arfordir bydd y traeth yn fwy hygyrch a’r promenâd yn uwch ac yn lletach, a bydd ramp yn mynd i lawr at y tywod ar yr ochr orllewinol.

Gall pobl sy’n defnyddio cadair olwyn logi cadair arbennig ar gyfer y tywod o PKS Watersports y drws nesaf i’r Kite Surf Café. Mae hwn yn un o blith nifer o leoedd o gwmpas glan y môr sy’n rhoi pwyslais ar fod yn hygyrch i bawb.

Dyma rai enghreifftiau:

Yn SC2 mae yno ddwy o ystafelloedd newid arbennig i bobl anabl yn ogystal â 17 o giwbiclau newid sy’n addas i bobl sydd angen mwy o le, neu sydd eisiau newid fel teulu. Yn y parc dŵr mae grisiau i fynd i mewn ac allan o’r rhannau dyfnaf o’r pwll ac mae teclyn codi ar gael ar gais, yn ogystal â ramp i fynd i mewn i’r Pad Sblasio y tu allan. Mae SC2 yn cynnal sesiynau addas i blant a phobl ifanc awtistig yn gyson, gyda llai o sŵn yn y cefndir, llai o gyhoeddiadau dros yr uchelseinydd a llai o bobl yn y pwll.

Mae yno doiledau hygyrch ar bob llawr yn Theatr y Pafiliwn a bar/bwyty 1891 – mae lle i hyd at wyth o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ymysg y seddi yn y theatr a system dolen sain i bobl sy’n drwm eu clyw.

Mae sinema Vue yn y Rhyl yn darparu mynediad i gadeiriau olwyn i bob rhan o’r adeilad a phob sgrin. Mae’r drws yn agor yn awtomatig ac mae’r prif gyntedd a phob sgrin i gyd ar yr un llawr. Ceir mynediad heb risiau i’r mannau ar gyfer cadair olwyn ac mae toiled hygyrch gerllaw’r prif gyntedd. Mae dolenni sain wrth bob cownter. Mae Vue y Rhyl yn dangos ffilmiau ag isdeitlau bob wythnos ac yn cynnig disgrifiadau sain ar gyfer rhai ffilmiau penodol – mae gan rai o’r sgriniau dechnoleg isgoch sy’n helpu pobl i glywed. Cynhelir sesiynau ffilm i bobl awtistig yn rheolaidd gan bylu’r goleuadau, troi’r sain i lawr a pheidio â dangos hysbysebion na rhagflas o ffilmiau eraill.

Mae Rheilffordd Fach y Rhyl wedi addasu un o’i gerbydau fel y gall ymwelwyr mewn cadeiriau olwyn fwynhau taith ar y trên – gyda ramp sy’n estyn i lawr at y platfform. Yn yr Orsaf Ganolog mae yno amgueddfa gyda sgriniau cyffwrdd sy’n cydymffurfio â’r holl safonau diweddaraf ar gyfer hygyrchedd. Mae dolenni sain gydol yr adeilad ynghyd â chwyddwr sain ger y ddesg docynnau, a thoiled hygyrch.

Gwybodaeth i Dwristiaid

Saif Canolfan Croeso’r Rhyl dafliad carreg o lan y môr. Bydd y staff cyfeillgar yn gwneud popeth y gallant i’ch helpu i gynllunio’ch amser yma a gwneud y gorau o’ch gwyliau – gallant hyd yn oed archebu lle ichi aros am y noson. Os ydych chi eisoes yn byw yn y Rhyl, mae’n werth i chi alw heibio i gael gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.

Canolfan Croeso’r Rhyl

The Village
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl LL18 1HZ

01745 344515
Amseroedd Agor

Siopa

Ar ôl gêm o bêl foli ar y traeth neu sesiwn egnïol ym mharc dŵr SC2, gallwch ymlacio drwy wneud rhywfaint o siopa. Nid nepell o lan y môr, mae Stryd Fawr y Rhyl a’r strydoedd cyfagos yn llawn dop o siopau adnabyddus a siopau annibynnol unigryw. Mae yma hefyd ddwy ganolfan siopa fawr lle gallwch fynd i’ch hoff siopau i gyd dan yr un to.

Parc Siopa Cei Marina

Ffordd Wellington
Y Rhyl LL18 1LQ

Parc Siopa gerllaw Marine Lake a glan y môr gyda siopau adnabyddus fel Aldi, Farmfoods, Greggs, Costa Coffee, B&M a The Range.

Canolfan White Rose

Stryd Fawr
Y Rhyl LL18 1EW

Porwch drwy’r brandiau mawr a pharcio yn y maes parcio mawr, diogel ar y safle – mae’r fynedfa ar Stryd yr Eglwys nid nepell o’r promenâd.

01745 339140
www.whiterosecentre.com