Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

< Canllaw i ymwelwyr i’r Rhyl

Cerdded a beicio

Mae promenâd y Rhyl yn uchafbwynt i ddau lwybr arwyddocaol – un i feicwyr ac un i gerddwyr. Bydd y dargyfeiriad yn ychwanegu ychydig o fedrau i’r daith ond ni fydd yn amharu ar y profiad o gwbl.

Beicio a Llwybr Cenedlaethol 5

Mae’r llwybr 336 milltir hwn yn mynd drwy gefn gwlad a threfi a dinasoedd hanesyddol ar daith epig o Reading i Ogledd Cymru. Mae’n dod i mewn i’r Rhyl at yr harbwr, lle gallwch brynu, trwsio neu hurio beic yn The Bike Hub. Yna mae’n croesi Pont y Ddraig ac yn mynd ar hyd y promenaâd tuag at Brestatyn.

Oherwydd y gwaith Amddiffyn yr Arfordir bydd rhaid gwyro rhywfaint oddi ar y llwybr, gan ymuno ar y briffordd ac osgoi’r Pentref Plant prysur. Dilynwch arwyddion Llwybr 5 i ddod o hyd i’ch ffordd.

Oddi ar y promenâd, tu ôl i Marine Lake mae Marsh Tracks yn y Rhyl yn arena feicio bwrpasol sydd wedi ennill gwobrau am ei thrac beicio ffordd 1.3km, trac BMX safon genedlaethol gyda giât ddechrau Bensink a thrac beicio mynydd cyffrous.

Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr cerdded cyntaf yn y byd i ddilyn arfordir gwlad gyfan – 870 milltir ohono. Dyma ffordd ddelfrydol o weld arfordir arbennig Sir Ddinbych, a gweld y saith milltir o dywod sydd rhwng y Rhyl a Phrestatyn ac ymlaen at dwyni Gronant sy’n llawn bywyd gwyllt.

Ar hyn o bryd mae dau wyriad byr oddi ar bromenâd y Rhyl yn eich tywys ar hyd Rhodfa’r Dwyrain a Rhodfa’r Gorllewin – sy’n berffaith er mwyn gweld atyniadau megis y parc dŵr SC2, Pentref y Plant a Theatr y Pafiliwn.

Teithiau hygyrch

Nid teithiau hir yn unig ydi’r rhain. Mae digon o lwybrau hygyrch haws i bobl gyda gwahanol lefelau o symudedd – gyda theithiau o amgylch Marine Lake (LL18 1AQ) a thrwy’r warchodfa natur yn Brickfields Pond (LL18 2RN), a llwybr i bob gallu ar hyd glannau aber Clwyd yn Glan Morfa (LL18 2AD). Rhowch gynnig ar lwybr tref poblogaidd y Rhyl, sef taith gylchol 2.5 milltir sydd yn cynnwys y mwyafrif o brif atyniadau’r dref.

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Ym Mhrestatyn, mae Llwybr Arfordir Cymru’n uno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa i fynd o amgylch Cymru gyfan – cyfanswm o 1,030 milltir. Yn ymestyn o fôr i fôr, mae Llwybr Clawdd Offa yn croesi ffin Cymru a Lloegr 27 o weithiau, a Phrestatyn yw’r lleoliad terfynol i nifer o gerddwyr.