Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â’r Fflint

Mae Y Fflint yn cynnwys ystod o atyniadau ar gyfer amrywiaeth o ymwelwyr.
Gallwch grwydro adfeilion Castell Y Fflint, y cyntaf o gestyll Edward y Cyntaf ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Gallwch ei ddychmygu yn ei anterth pan oedd yn gwasanaethu i fynnu ei awdurdod ar draws yr ardal gyfagos.

Flint Castle, Flint
Flint Castle, Flint

Gallwch fyfyrio ger Arfordir y Fflint. Roedd y porthladd ac amddiffynfa milwrol yma yn ardal glan môr a diwydiannol prysur. Bellach, mae’n dawel eto, yn bwysig yn rhyngwladol am ei fywyd gwyllt ac yn le braf i gerdded. Mwynhewch y golygfeydd dros y môr, y gorwel diwydiannol dramatig i’r dwyrain, sŵn adar y môr, gwyrddni’r cors halen a blas gwynt y môr.

Gallwch archwilio’r arfordir yn defnyddio’r Llwybr Arfordir Cymru newydd a ddatblygwyd, naill ai parcio yn un o’r meysydd parcio ger y castell, cerdded o’r dref ar hyd y Swinchiard Brook, neu o’r orsaf drên. Mae Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir/40km o Gaer i Gronant.

Mae canolfan hamdden y Fflint wedi’i henwi ar ôl Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd sydd o’r dref ac mae’n cynnwys lle bowlio yn ogystal â phwll nofio. Mae chwaraeon yn boblogaidd yn y dref gyda chlwb pêl-droed a rygbi ar hyd yr arfordir ger y castell.

Mae yna gwrs golff fforddiadwy bach yn y Fflint hefyd gyda golygfa fendigedig, golff heriol a lletygarwch gwych. Mae yna gwrs golff naw twll wedi ei leoli yn y coetiroedd prydferth o amgylch Neuadd Cornist.

Mae Aber Afon Dyfrdwy yn lleoliad arbennig llawn lle bo’r hen ddiwydiannau a’r newydd yn bodoli wrth ymyl trysorau hanesyddol fel Castell y Fflint, a bywyd gwyllt sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Mae nodau llwybr ar hyd y llwybr ac mae digon o lefydd i gael gorffwys ar y daith. Mae gan nifer o’r golygfannau baneli gwybodaeth yn adrodd hanes yr arfordir a’r rhai a’i luniodd. Ar hyd aber Afon Dyfrdwy gallwch weld Cilgwri a’r ochr arall gallwch weld tirlun Mynydd Helygain. Taith gerdded fendigedig o’r ddau olygfan. Gallwch ddarganfod morlin Sir y Fflint yma.

A dog walker along the Coastal Path, Flintshire,Wales
A dog walker along the Coastal Path, Flintshire,Wales Routes To the Sea project Images by Craig Colville photographer Copyright held by Denbighshire County council

#TheNorthWalesWay #Northeastwales #Flintshire
#Adventure #Golf #Landscape #Walking #Heritage #FoodandDrink

(Fideos wedi’u creu gan Dextra Visual)