Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â Phenarlâg

Mewn lleoliad llonydd yn y Porth i Gymru, ac yn edrych dros Swydd Gaer, mae’r pentref godidog hwn yn cynnig canolfan ddelfrydol i archwilio mynyddoedd anhygoel, coedwig a morlin tywodlyd Gogledd Cymru.

Mae treftadaeth unigryw Penarlâg, topograffi a’i hanes wedi creu amgylchedd amrywiol a diddorol i’r ymwelydd â’r gofynion uchaf. Wedi’i leoli ar y ffin ar bentir amddiffynnol naturiol, roedd ei gaer cyn-Rufeinig o bwys strategol, milwrol a gwleidyddol. O dan bwerau Cymru a Lloegr bob yn ail, roedd y rhan a chwaraeodd yn nwylo’r Seneddwyr yn ystod y Rhyfel Cartref wedi selio ei ffawd. Heddiw, mae gweddillion y castell yn y parcdir braf yn dyst i amseroedd llai tawel. `

Fodd bynnag, mae digwyddiadau hanesyddol llawer mwy diweddar wedi sicrhau lle Penarlâg ar y map. Yn 1852 roedd yn gartref i’r Prif Weinidog W E Gladstone a oedd yn briod â Catherine Glynne. Roedd eu cartref, Neuadd Broadlane yn gastell ‘newydd’ Penarlâg a heddiw mae’n parhau’n breswylfa preifat i’r teulu Gladstone.

Mae rhannau o’r cyswllt hanesyddol hwn yn rhan o’r pentref a bydd y sawl â diddordeb mewn olrhain y thema hon yn darganfod llawer o dystiolaeth o garedigrwydd William a Catherine Gladstone. Eglwys Plwyf Sant Deiniol, o darddiad y 13eg ganrif a’i adfer yn 1857 yn dilyn tân, yn gartref i lawer o henebion y teulu, sy’n cynnwys y ffenestr goffa fendigedig, gwaith Burne-Jones, oedd yn enwog cyn-Raphaelite.

Mae Llyfrgell Gladstone, strwythur neo-Gothig bendigedig, yn ymyl yr Eglwys yn cynnwys casgliad personol Gladstone o 30,000 o lyfrau, cymynrodd barhaol o’i haelioni i’r gymuned. Yn ogystal â’i adeiladau mwy amlwg – yn eu plith, adeilad hanner coediog Sant Deiniol o’r 16eg ganrif – mae rhesi tai carreg, oedd yn arfer bod yn gartrefi i’r crefftwyr ac o’r golwg mewn lleoliadau annisgwyl mae bythynnod prydferth gyda gerddi taclus.

Yn dref marchnad oedd yn ffynnu ar un adeg, yn y 18fed a 19eg ganrif, roedd glo, haearn a brics yn ffynnu, a lle roedd ei blant enwog Emma Hamilton a John Boydell, Arglwydd Faer Llundain wedi treulio eu blynyddoedd cynnar. Mae Penarlâg wedi cadw holl gymeriad hanfodol y gorffennol, tra’n cadw tawelwch ac adlewyrchiad.

I’r cerddwr, gellir archwilio llwybrau gan gynnwys pentrefi cyfagos Mancot, Aston ac Ewlo ac arwain ar hyd llwybrau glaswellt, heibio tir oedd yn arfer cynnwys sŵn diwydiant, drwy gefn gwlad coediog.

Gellir gweld gweddillion Melin Flawd Penarlâg, wnaeth roi’r gorau i gynhyrchu yn y 1940au yn Bilberry Wood, gyda mynediad ar y llwybr troed cyhoeddus o Faes Parcio Cyhoeddus Tinkersdale. Y Carchardy – Cafodd hwn ei adeiladu yng nghanol y deunawfed ganrif ar gyfer carcharorion cyn eu treial neu eu symud i garchar y sir yn y Fflint. Cafodd ei ddylunio gan Joseph Turner, y pensaer ac mae’n cynnwys ardal islawr.

Mae Castell Ewlo, a adeiladwyd yn 1257 gan Dywysog Cymru, Llywelyn Ap Gruffydd, wedi’i leoli tua dwy filltir o ganol Penarlâg ym mhentref cyfagos Ewlo. Gellir cael mynediad i’r castell drwy hawl dramwy gyhoeddus yn arwain o’r cilfan gyntaf ar yr ochr dde wrth deithio o Ewlo i Northop Hall.
Bwyd a Diod.

Ym mhentref Penarlâg a’r ardaloedd cyfagos mae yna lawer o dafarndai lleol, bwytai a chaffis ar gyfer byrbryd sydyn neu bryd o fwyd mwy ffurfiol. Beth am fwynhau harddwch a diwylliant llyfrgell Gladstone tra’n mwynhau cinio neu Chocs Away ym Maes Awyr Penarlâg gyda golygfa o awyrennau yn glanio o flaen tirlun Clwyd.

Hefyd ym Mhenarlâg ac yn werth ymweliad mae Siop Fferm Penarlâg lle gallwch gasglu eich ffrwythau eich hun yn ystod tymhorau penodol neu ymlacio a dal i fyny yn y siop goffi gyda dewis bendigedig o goffi a byrbrydau.

Mae cwrs golff Penarlâg, cwrs deunaw twll bendigedig wedi’i leoli yng nghanol y pentref. Sefydlwyd yn 1911, mae Penarlâg yn glwb golff sefydledig gyda chyfoeth o hanes. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.hawardengolfclub.co.uk neu beth am gael Tocyn Golff Porth i Gymru a mwynhau Cyrsiau Golff eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru ei ap llwybr ymroddedig ei hun, am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

#TheNorthWalesWay #Northeastwales #Flintshire
#Adventure #Golf #Landscape #Walking #Heritage #FoodandDrink