Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â Threffynnon

Mae’r enw Treffynnon yn tarddu o brif nodwedd y dref, Ffynnon hanesyddol Gwenffrewi; un o Saith o Ryfeddodau Cymru. Adeilad rhestredig gradd 1 a heneb rhestredig a adeiladwyd ar ddechrau’r 16eg ganrif, mae’r adeilad hardd a soffistigedig hwn yn drysor o bensaernïaeth perpendicwlar ac mae’n unigryw yn y byd. Mae’r ffynnon wedi bod yn safle o bererindod barhaus am dros 1300 o flynyddoedd.

Mae Parc Gwledig a Threftadaeth Dyffryn Maes Glas yn barc unionlin milltir a hanner o hyd yn dilyn cwrs Nant Treffynnon rhwng y dref ac aber Afon Dyfrdwy ac roedd rheilffordd safonol confensiynol wedi’i raddio’r mwyaf serth yn y DU yn arfer rhedeg drwy’r parc.

https://www.northeastwales.wales/wp-content/uploads/2018/02/Greenfield-Heritage-Park-1.jpg
Madison Aldridge and Bernard Aldridge race around the abbey at Greenfield Heritage Park. Flintshire . Wales Routes To the Sea project Images by Craig Colville photographer Copyright held by Denbighshire County council

Yma, yn ogystal â Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing o’r 12fed ganrif, mae gweddillion nifer o adeiladau blawd hanesyddol, llawer ohonynt erfyn hyn yn henebion rhestredig.
Yn fwy diweddar, mae bythynnod, ffermdai a hyd yn oed ysgol Fictoraidd wedi eu symud yma fesul carreg o leoliadau eraill a’u hailadeiladu yn ofalus a’u dodrefnu fel y byddent ganrifoedd yn ôl. Mae’r parc hefyd yn cynnwys amgueddfa fferm.

Mae ymwelwyr hefyd yn gallu mwynhau nifer o deithiau drwy’r coed, mae’n cynnwys pump llyn bach gan gynnwys llyn pysgota i gyd yn cynnwys bywyd gwyllt.

Mae Llwybr Pererindod Gogledd Cymru wedi’i farcio, gan gysylltu eglwysi hynafol ymroddedig i seintiau’r 6ed ganrif sydd â’u ffydd dawel, wedi’i blethu gyda naws hyfrydwch a rhyfeddod natur yn parhau hyd heddiw. Mae Abaty Dinas Basing yn fan cychwyn Llwybr Pererindod Gogledd Cymru. Mae’r llwybr yn mynd drwy goetir a dros afonydd, i fyny mynyddoedd ac ar hyd llwybrau’r arfordir, drwy ddiffeithwch ac i bentrefi. Mae’n dathlu treftadaeth y seintiau Celtaidd a’u straeon mewn amser ond â’u cof yn atseinio mewn eglwysi hynafol a’r ffynhonnau sanctaidd ar hyd y ffordd.

St Winefride’s Well, Holywell
St Winefride’s Well, Holywell

Mae tref Treffynnon yn cynnwys harddwch anhygoel o Fynydd Helygain i’r Aber Afon Dyfrdwy gyda golygfeydd drosodd i Gilgwri a Lerpwl. Mae’r dref unigryw hon llawn hanes yn rhan o dirlun godidog.

Mae’r dref ei hun yn cynnwys ardal i gerddwyr gyda nifer o siopau, caffis, bwytai a thafarndai yn ei wneud yn le perffaith i gymdeithasu. Mae’n cynnwys marchnad stryd draddodiadol ar ddydd Iau yn y dref sydd ag amrywiaeth o fasnachwyr ac mae Treffynnon yn cynnal nifer o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn.

Mae yna gwrs golff bendigedig yn Nhreffynnon a leolir ar dir comin Brynffordd, milltir i fyny’r allt o dref Treffynnon – a adnabyddir yn aml fel “Lourdes Cymru” – mae’r cwrs golff hwn yn brawf teg ar gyfer golffwyr o bob gallu. Hwn yw un o’r cyrsiau uchaf yng Nghymru ac 800 troedfedd uwchben lefel y môr, mae’r awyr iach (a’r awel gref!) yn gwella ansawdd y profiad.

Ychwanegwch y croeso cynnes – bydd yn rhaid i chi deithio’n bell i ddod o hyd i glwb mwy cyfeillgar – golygfeydd godidog Bryniau Clwyd ac Eryri, y ffioedd cystadleuol, y gwasanaeth proffesiynol rhagorol, y bwyd ardderchog a’i agosrwydd at yr A55 ac mae gennych rywbeth i’w fwynhau.

Yna, wrth gwrs mae cyfareddiad y cwrs ei hun. Sefydlwyd dros gan mlynedd yn ôl, mae meddalwch y glaswellt a’r isbridd carreg galch yn cyfuno i ddarparu arena na fyddwch byth yn blino arno. Nid oes yna dyllau ar i fyny blinedig, er bod y cwrs yn gryno, mae’n llwyddo i ddarparu 18 twll o her golffio gwirioneddol.

Am fwy o wybodaeth ar Dreffynnon gallwch ymweld â Chyrchfan Treffynnon.
Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru ei ap llwybr ymroddedig ei hun, am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

#TheNorthWalesWay #Northeastwales #Flintshire
#Adventure #Golf #Landscape #Walking #Heritage #FoodandDrink