Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â’r Wyddgrug

Mae gan dref Yr Wyddgrug a’r ardal gyfagos lawer i’w gynnig i ystod o ymwelwyr. Ar gyfer yr ymwelwyr anturus, mae’r Wyddgrug wrth droed Bryniau Clwyd sy’n berffaith ar gyfer crwydro a cherdded drwy gefn gwlad. Mae Moel Famau hefyd ar gyrion Yr Wyddgrug gyda golygfeydd godidog o dirlun ar draws Bryniau Clwyd – “y porth i Gymru” ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae’r dref yn cynnwys clwb golff llwyddiannus sy’n gorwedd yng nghysgod Moel Famau; cwrs heriol gyda golygfeydd godidog. Beth am brynu Tocyn Golff Porth Cymru a mwynhau Cyrsiau Golff eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru?.

Mae’r Wyddgrug yn dref farchnad hanesyddol gyda dros gant o siopau annibynnol a chasgliad da o siopau stryd fawr poblogaidd. Mae’n dref masnach deg gyda nifer o siopau a chaffis yn gwerthu cynnyrch Masnach Deg. Dewch i fwynhau bwrlwm Marchnad yr Wyddgrug – y dref farchnad fwyaf a’r orau yng Ngogledd Cymru. Cynhelir marchnadoedd stryd bob dydd Mercher a dydd Sadwrn gyda dros 70 o stondinau yn gwerthu ffrwythau a llysiau ffres, caws, cig, crochenwaith, dillad a phlanhigion. Mae marchnad dan do yno hefyd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gyda marchnad ffermwyr ar y dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd dydd Sadwrn yn y mis. Cyfle gwych i flasu bwyd a diod lleol cyn i chi eu prynu. Mae’r Wyddgrug yn adnabyddus am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gwyliau a gaiff eu cynnal yno drwy gydol y flwyddyn, mae yna bob amser rywbeth yn digwydd yn yr Wyddgrug.

Ymwelwch ag amgueddfa’r Wyddgrug i weld copi o Fantell Aur Oes Efydd y daethpwyd o hyd iddi yn yr Wyddgrug, mae’r Fantell Aur bellach yn cael ei chadw yn Amgueddfa Prydain ac yn un o’r enghreifftiau gorau o waith dalenni aur cynhanesyddol ac yn hynod o unigryw o ran ei chynllun a’i ffurf. Mae Bryn y Beili; a oedd unwaith yn domen gladdu hanesyddol a lleoliad castell Normanaidd a godwyd yn oddeutu 1072, i’w weld uwchlaw’r Stryd Fawr yn goruchwylio’r dref, mae’r safle hanesyddol bellach yn lle gwych i gael picnic neu fynd am dro o amgylch y safle o harddwch naturiol. Mae gwaith ailwampio gwerth £1miliwn bellach yn mynd rhagddo ym Mryn y Beili, a fydd yn cynnwys canolfan groeso ac ardal berfformio. Roedd ymsefydlwyr Normanaidd yn arfer bod yn y castell, a chredir eu bod wedi cael eu henw o ‘mont-haut’ sy’n golygu gallt uchel gafodd ei lygru dros y blynyddoedd nes iddo fod yn Yr Wyddgrug, felly mae’n bosibl bod Bryn y Beili wedi rhoi’r enw i’r dref. Brwydrwyd dros y castell sawl gwaith ac o ystyried ei gefndir treisiol, mae’n eironig ei fod wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden bellach ers sawl blwyddyn.

Mae’r Wyddgrug hefyd yn gartref i Theatr Clwyd sy’n adnabyddus am eu dramâu, cerddoriaeth, sinema a gweithgareddau cymunedol arbennig. Yma, gallwch fwynhau nifer o berfformiadau sydd wedi ymddangos yn y West End yn Llundain a dinasoedd mawr eraill, yn ogystal â pherfformiadau sy’n dathlu diwylliant Cymreig.

Ers 1976 mae Theatr Clwyd wedi bod yn bwerdy theatraidd ac yn gartref i’r gymuned. Bellach, o dan arweiniad Tîm Gweithredol Tamara Harvey a Liam Evans-Ford, mae’n mynd o nerth i nerth yn cynhyrchu theatr o’r radd flaenaf, o ddramâu newydd i adfywiad y clasuron.

Theatr Clwyd
Theatr Clwyd

Mae yna dri gofod theatr, sinema, caffi, bar ac orielau celf ac ynghyd â’i sioeau ei hun, mae’n cynnig rhaglen amrywiol a chyfoethog o’r celfyddydau gweledol, ffilm, theatr, cerddoriaeth, dawns a chomedi. Mae Theatr Clwyd yn gwneud llawer o waith gyda’r gymuned leol, ysgolion a cholegau ac mae’n creu gwaith sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer, gyda a gan bobl ifanc. Yn 2016/17 roedd dros 420,000 o bobl wedi gweld cynhyrchiad Theatr Clwyd, yn yr adeilad ac ar draws y DU.

Mae’r dref ei hun yn cynnig llety i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol, Carnifal y dref (sef y fwyaf yn y Sir), gwyliau cerddoriaeth megis Live on the Square, M-Fest, Gŵyl Blws a Soul Gogledd Cymru, a llawer iawn mwy.

Mae’r dref yn cynnwys clwb golff llwyddiannus sy’n gorwedd yng nghysgod Moel Famau; cwrs heriol gyda golygfeydd godidog. Beth am brynu Tocyn Golff Porth Cymru a mwynhau Cyrsiau Golff eraill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

#TheNorthWalesWay #Northeastwales #Flintshire #MoldTown #TotallyMold
#Adventure #Golf #Landscape #Walking #Heritage #FoodandDrink #LiveMusic #Theatre

I gael mwy o wybodaeth gallwch weld Canllaw Tref Yr Wyddgrug.