Eglwys San Silyn yn ail-lansio Dringo’r Tŵr poblogaidd
2 funud o waith darllen
Bydd Eglwys ganoloesol Plwyf San Silyn yn ail-lansio tymor newydd o’u dringo’r tŵr poblogaidd.
Mae’r dringfeydd, sef cyfanswm o 135 troedfedd neu 149 o risiau – yn cynnig golygfeydd godidog i’r cyhoedd o ganol y dref, Bryniau’r Berwyn, gwastadedd Swydd Caer, a hyd yn oed cyn belled ag Eryri ac eglwysi cadeiriol Lerpwl (ar ddiwrnod da!), yn cael eu cynnal am 11.00am a 12.00pm, ddydd Sadwrn cyntaf bob mis.

Uwchben; Ar ben Eglwys Blwyf San Silyn (Llun; @Thisiswrexham)
Mae tŵr Eglwys Blwyf San Silyn yn cael ei gydnabod fel un o ‘saith rhyfeddod Cymru’, ac mae’n cynnal seinio’r 10 cloch, a glywir dros y dref bob dydd. Bydd gan y sawl sy’n cymryd rhan yn y ddringfa gyfle i weld ystafell seinio’r clychau, a mynd i mewn i ystafell y cloc, a siambr y clychau i weld y clychau yn bersonol!
Wedi’u castio’n wreiddiol yng Nghaerloyw yn 1726, cafodd y clychau eu hwylio i fyny’r Afon Hafren i San Silyn gyda cheffyl a chert. Mae sut y cawsant eu codi i mewn i’w safle presennol yn parhau i fod yn gampwaith peirianyddol, ond byddwch yn canfod sut ar y daith.

Above; one of the westerly views from the top of St Giles Parish Church (Pic; @Thisiswrexham)
Dyddiau 2025 i’w harchebu ymlaen llaw
- Dydd Sadwrn 7 Mehefin
- Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf
- Dydd Sadwrn 2 Awst
- Dydd Sadwrn 6 Medi