Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Darganfod y Rhyl: Taith Trwy Hanes ar Lwybr y Dref

Os ydych chi erioed wedi crwydro trwy’r Rhyl a meddwl, “Pa straeon all y strydoedd hyn eu hadrodd?” – yna mae Llwybr Tref y Rhyl yn berffaith i chi. Nid taith gerdded yn unig ydyw, ond siwrnai trwy amser, lle mae hanes a threftadaeth yn dod yn fyw yng nghornel mwyaf syfrdanol y dref lan y môr.

Llwybr i Bawb

Un o’r pethau braf am Lwybr Tref y Rhyl yw ei fod yn hygyrch. Os ydych chi’n drigolyn lleol ers oes, yn deulu sy’n chwilio am brynhawn o antur, neu’n ymwelydd sydd eisiau gwybod mwy am y dref tu hwnt i’r traethau, mae’r llwybr yn ffordd hawdd o grwydro ar eich cyflymder eich hun. Mae am ddim, hunan-dywysedig ac mae byrddau gwybodaeth clir wedi’u gosod i rannu cipolwg rhyfeddol ar y gorffennol.

Cerdded Trwy’r Gorffennol

Mae’r Rhyl yn aml yn cael ei ystyried yn gyrchfan gwyliau glan y môr bywiog, ond mae gan y dref hanes sy’n dyddio’n ôl ymhellach na’r arcedau a’r candi fflos. Ar y llwybr, byddwch yn darganfod:

  • Gwreiddiau’r Rhyl – o bentref pysgota fechan i gyrchfan Fictoraidd fywiog.
  • Trysorau Pensaernïol – Adeiladau Fictoraidd ac Edwardaidd sy’n adrodd hanes y Rhyl yn ei anterth.
  • Hanes cudd – straeon y bobl a siapiodd y dref, o’r entrepreneuriaid i’r diddanwyr.

Mae pob stop yn rhoi synnwyr i chi o’r ffordd mae’r Rhyl wedi esblygu, gan blethu’r hen a’r newydd mewn ffordd sy’n gwneud i chi weld y dref mewn ffordd wahanol.

Crwydro gyda’r Teulu

Mae plant wrth eu boddau â’r llwybr hefyd! Mae gan nifer o’r byrddau ffeithiau difyr sy’n ysgogi’r dychymyg – fel straeon o drenau stêm yn dod ag ymwelwyr cyffrous i’r arfordir, neu’r theatrau crand a oedd yn goleuo’r lan y môr. Mae’n debyg i helfa drysor a gwybodaeth yw’r wobr (ac efallai hufen iâ ar y ffordd hefyd!).

Pam y byddwch wrth eich boddau

Nid yw Llwybr Tref y Rhyl yn daith hir – mae’n daith cerdded ysgafn sy’n eich galluogi chi i fwynhau cymeriad y dref. Byddwch wedi ystwytho eich coesau gyda gwerthfawrogiad newydd am orffennol a presennol y Rhyl. Hefyd, mae’n esgus perffaith i alw heibio un o’r caffis neu siopau sglodion ar hyd y ffordd.

Rhyl to Pensarn route

Barod i Ddechrau’r Daith

Os ydych chi’n bwriadu ymweld â’r Rhyl, neu os ydych yn byw gerllaw a heb roi cynnig arni eto, mae Llwybr y Dref yn ffordd wych o dreulio awr neu ddwy. Ewch i nôl y daflen wybodaeth o’r ganolfan groeso leol, lle fydd y staff cyfeilgar yn gallu helpu hefon eich ymweliad neu chwiliwch am y byrddau sydd wedi’u gosod o amgylch y dref, a gadewch i chwilfrydedd eich tywys chi.

Canolfan Croeso y Rhyl

Felly tro nesa y byddwch yn y Rhyl, peidiwch â mynd yn syth i’r traeth. Ewch ar Lwybr y Dref, a gadewch i’r dref adrodd ei hanes i chi. Efallai byddwch yn disgyn mewn cariad â’r Rhyl unwaith eto. Mae gynnym hefyd llwybr sain sy’n rhoi bywyd i Rhyl mewn stereo disglair.

Argymhelliad – Cofiwch alw heibio Marchnad y Frenhines sydd newydd agor, hwb bywiog newydd ar gyfer y gymuned gyda bwyd a diod amrywiol a blasus yn ogystal â pharth hwyl i’r teulu a gofod perfformio dynameg ar gyfer cynnal digwyddiadau comedi a theatr a cherddoriaeth fyw. Dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol yma.