Calan Gaeaf Llawn Hwyl a Bwci Bos yn Sir Ddinbych: Beth sydd ymlaen, beth i’w wneud a ble i fynd

Gyda thymor yr hydref wedi cyrraedd a’r dydd yn byrhau, mae Sir Ddinbych yn paratoi am dymor llawn hwyl ac arswyd cyfeillgar i deuluoedd. P’un a ydych yn chwilio am lwybr Calan Gaeaf addas i blant, taith arswydus ar y trên, neu rywbeth mwy anturus – mae digon i’ch cadw’n brysur ar draws y sir. Dyma rai o’r digwyddiadau gorau i’w nodi yn y dyddiadur, yn ogystal â syniadau i wneud y mwyaf o’r Calan Gaeaf yn y gornel fach hardd hon o Gymru.

Prif Ddigwyddiadau
Dyma rai o’r prif ddigwyddiadau yn Sir Ddinbych ar gyfer Calan Gaeaf 2025
Digwyddiad | Dyddiad(au) | Lleoliad | Beth i’w Ddisgwyl |
Llwybr Calan Gaeaf Arswydus, Castell Dinbych | Dydd Gwener, 31 Hydref 2025, 10:00–16:00 | Castell Dinbych | Llwybr brawychus gyda chrefftau. Anogir pawb i gyrraedd yn eu gwisgoedd ffansi! Mae siocled i’w ennill (y cyntaf i’r felin!) Cadw |
31 Diwrnod o Galan Gaeaf ym Mharc Gwyliau Golden Sands | 29 Medi – 2 Tachwedd 2025 | Bae Cinmel, Sir Ddinbych | Mis o ddathlu: cerfio pwmpenni, moddion a hud, Parti Tŷ Ysbrydion, clymliwio / peintio crochenwaith, sioeau llwyfan i’r teulu, antur arswydus yn y goedwig, a llawer mwy. Addas i deuluoedd ac ysbrydion/corachod. bychain. linc |
Chirk Castle Dark run for Hope House | 18 October | Chirk Castle | Dewch i gerdded, loncian neu redeg ein cwrs 5k*, ynghyd â cherddoriaeth, golau yn y tywyllwch, ffyn llachar a chynulleidfaoedd gwallgof – i gefnogi teuluoedd lleol sydd wirioneddol ein hangen ni. Cofrestrwch yma: |
Fright Night (St Kentigern Hospice Fire Walk Special | 25 Oct 2025 (6pm–9pm) | R N Williams St Asaph | Os ydych chi’n teimlo’n ddewr, beth am gerdded ar hyd y cerrig crasboeth a phrofi’r awyrgylch a’r adloniant brawychus yn ogystal ag ambell i syrpréis Calan Gaeaf! Cesglir arian i stkentigernhospice.org.uk |
Halloween fun at Ruthin Gaol | 26t of October to 2 Nov | Ruthin Gaol | Bydd drysau’r celloedd ar agor yng Ngharchar Rhuthun yn ystod gwyliau arswydus hanner tymor yr Hydref fel rhan o Wythnos Amgueddfeydd Cymru. 10:30 tan 4pm (mynediad olaf am 3pm). Dewch draw i weld y Carchar yn ystod Calan Gaeaf. Rhowch gynnig ar wneud crefftau Calan Gaeaf neu dilynwch un o’r llwybrau o amgylch y Carchar. Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad. Welwn ni chi yn y carchar, os ydych chi’n ddigon dewr… |

Mwy o Syniadau a Lleoliadau i’w Harchwilio Safleoedd Cadw – Mae nifer o’r safleoedd hanesyddol yn cynnal digwyddiadau Calan Gaeaf / hydrefol, straeon ysbrydion, teithiau arswydus ac ati. Mae’r Llwybr Calan Gaeaf
- Brawychus yng Nghastell Dinbych yn un enghraifft. Cadwch lygad allan ar wefan Cadw am unrhyw ddigwyddiadau funud olaf a gaiff eu hychwanegu. Cadw+1
- Tai ac amgueddfeydd hanesyddol – Mae’n bosibl y bydd digwyddiadau tymhorol cysylltiedig yn safleoedd hanesyddol Rhuthun. Hyd yn oed os nad ydynt yn ymwneud yn benodol â Chalan Gaeaf, gall crwydro o amgylch hen dai, gerddi, ac ati fod yn brofiad atmosfferig yr adeg hon o’r flwyddyn.
- Coedwigoedd a llwybrau cefn gwlad – Lliwiau hydrefol, dail yn disgyn, boreau tarthog ac ati. Mae llawer o dirweddau hyfryd yn Sir Ddinbych lle gallwch fwynhau crwydro drwy goedwigoedd neu lwybrau hardd gyda’r nosau.
- Dewiswch eich pwmpenni eich hunain ar ffermydd a pherllannau o amgylch Gogledd Ddwyrain Cymru, cadwch lygad allan ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Awgrymiadau ar gyfer Ymweld a Mwynhau’n Ddiogel
- Gwiriwch yr amseroedd a’r tocynnau ymlaen llaw – Mae’n bosibl y bydd yn rhaid archebu rhai digwyddiadau (megis y daith gerdded tân) ymlaen llaw, yn arbennig ar gyfer cyfranogwyr.
- Gwisgwch yn addas i’r tywydd – Mae hi’n gallu bod yn oer/gwlyb yng Nghymru ddiwedd mis Hydref, yn arbennig gyda’r nos. Lapiwch yn gynnes a chofiwch eich cotiau glaw a’ch esgidiau cryfion.
- Cludiant a pharcio – Mae’n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau mynediad a llefydd parcio yn brin mewn digwyddiadau poblogaidd. Ceisiwch gyrraedd yn gynnar, rhannu ceir a gwiriwch yr opsiynau cludiant lleol.
- Byddwch yn barod am rai pethau brawychus – Os ydych chi’n mynychu digwyddiad â phlant ifanc, gwiriwch pa mor “frawychus” yw’r digwyddiad ymlaen llaw (tai arswydus, teithiau ysbrydion, ac ati). Mae’n bosibl y bydd rhai profiadau’n fwy dwys nag eraill.