Llwybrau Tref a Dinas
Mae Sir Ddinbych yn enwog am ei gefn gwlad godidog a’i lwybrau arfordirol prydferth. Ond peidiwch â chael eich hudo gan yr awyr agored yn llwyr nes eich bod yn anghofio am ein trefi marchnad bywiog a’n cyrchfannau glan y môr enwog.
Maent yn llawn siopau annibynnol a lleoedd gwych i fwyta ac yfed ynddynt. Dilyn ein llwybrau tref yw’r ffordd orau i’w harchwilio. Mae saith ohonynt i gyd – un ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos, a llwybr dinas o amgylch un o ddinasoedd lleiaf a’r mwyaf hanesyddol ym Mhrydain.
Cymerwch eich amser, mwynhewch yr awyrgylch a dilynwch eich trwyn. Mae’r teithiau cerdded yn hawdd ond mae llawer i’w weld, felly bydd angen o leiaf hanner diwrnod ar gyfer pob un.
