Privacy Overview
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Always Active
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Beaches in North East Wales

Traethau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Rydym yn hynod o lwcus o’r arfordir hyfryd sydd gennym ni yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, yn ymestyn o Sir y Fflint i Sir Ddinbych. Y ffordd orau i fwynhau’r traethau hyn yw ar droed, ac mae Llwybr Arfordir Cymru. yn ei gwneud yn hawdd i bobl allu gwneud hynny. ‘Does dim i guro taith gerdded hir ar hyd yr arfordir, gyda gwynt y môr yn llifo drwy’ch ysgyfaint a sŵn y tonnau’n atseinio yn eich clust.

Dyma ychydig o gyngor ymarferol am y traethau hygyrch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Traethau’r Rhyl

Mae gan Y Rhyl bedwar traeth – Gorllewin y Rhyl, Canol y Rhyl, Dwyrain y Rhyl a Phwynt Sblash. Gellir dod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am sut i’w cyrraedd a’r cyfleusterau hanfodol gerllaw yma.

Prestatyn Beach

Traethau Prestatyn

Barkby Beach

Mae Traeth Barkby yn fwrlwm o weithgareddau ar gyfer cychod ac yno fe welwch Glwb Hwylio Prestatyn a llithrfa lansio cychod. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio llithrfeydd a lansio cysylltwch ag Adran yr Harbwr ar 01824 708400.

Ni chaniateir nofio yn yr ardal hon oherwydd bod cychod yn defnyddio’r llithrfa, ond mae’r traeth yn lle perffaith i fwynhau’ch hun, codi castell tywod neu fwynhau’r tywydd. I’r dwyrain o’r llithrfa a’r clwb hwylio mae ardal sy’n croesawu cŵn yn dechrau eto.

Traeth Canol

Y traeth canol yw’r prif draeth ym Mhrestatyn ac mae’n boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr. Gallwch gael mynediad at y traeth o feysydd parcio Dwyrain Nova a Gorllewin Nova. Mae achubwyr bywyd yn cael eu lleoli yn yr ardal yn ystod y tymor. Dyma’r unig draeth yng Ngogledd Cymru i ennill gwobr y Faner Las fawreddog.

Os ydych yn bwriadu mynd i nofio, cofiwch wirio baneri’r achubwyr bywyd i weld a yw’n ddiogel a chwiliwch am y lle gorau i nofio. Os ydych yn ansicr, gallwch siarad gyda’r achubwr bywyd a fydd yn barod i’ch helpu.

Mae cyfleusterau eraill sydd ar gael ar y Traeth Canol yn cynnwys cawod, caffis ac ardal chwarae.

Traeth Ffrith

Ym mhen gorllewinol Prestatyn, mae dau barth ar Draeth Ffrith. Mae’r cyntaf, Traeth Gorllewin Ffrith, yn ymestyn o’r Cwrs Golff at fynedfa Parc Hwyl Traeth Ffrith. Mae’r mynediad llethrog o’r promenâd yn nodi’r ardal hon sy’n ei gwneud yn llawer haws i bobl gael mynediad at y traeth. Mae’r traeth hwn yn ffurfio rhan o’n hardal sy’n croesawu cŵn ac mae croeso i chi fynd â’ch ci am dro yma ar unrhyw adeg.

Mae’r ardal i’r dwyrain o lithrfa Ffrith sy’n dechrau o Barc Hwyl Traeth Ffrith a heibio i Erddi’r Twr at faes parcio Gorllewin Nova yn ardal fwy poblogaidd sy’n arwain at y prif draeth yng Nghanol Prestatyn. Ni chaniateir cŵn yn Nwyrain Traeth y Ffrith o fis Mai tan fis Medi.

Twyni Gronant, ger Prestatyn

Tua thair milltir i’r dwyrain o’r dref, mae Gronant Dunes yn darparu ardal dawelach i bobl sy’n hoff o fyd natur ei archwilio. Mae’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hwn yn gartref i rywogaethau prin fel madfall y tywod, llyffant y twyni ac unig nythfa fridio Gogledd Cymru o forwennol fechan.

Traeth Talacre

Mae gan Talacre naws wyliau hwyliog sy’n atgoffa rhywun o’r dyddiau a fu. Yn adnabyddus am ei draeth hir, euraidd gyda thwyni tywod helaeth y tu ôl iddo, mae’n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r ardal o amgylch y traeth a’r twyni tywod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae’n gartref i rywogaethau prin, gan gynnwys llyffant y twyni. Mae goleudy eiconig coch a gwyn y Parlwr Du yn dirnod poblogaidd, ac er iddo gael ei ddadgomisiynu yn 1884, mae sibrydion yn parhau bod rhywun – neu rywbeth – yn dal i fod yno. Caniateir cŵn ar y traeth drwy gydol y flwyddyn.

Cadw’n ddiogel

Mae’r traeth yn lle gwych i fynd, ond gall fod yn beryglus. Gwiriwch pum awgrym Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub i gadw eich teulu a chithau yn ddiogel.