Sioe Deyrnged Coldplay Dan Olau Cannwyll
-
Date
27 Medi 2025
-
Time
09:00 - 09:00

7pm
: LIVE IN TECHNICOLOUR – Sioe deyrnged Coldplay dan olau cannwyll gyda BAND BYW!
Gan Boujee Events
📍Cadeirlan Llanelwy, Gogledd Cymru
Mae’r noson yr ydych wedi bod yn aros amdani wedi cyrraedd o’r diwedd!
Camwch i mewn i Gadeirlan hyfryd Llanelwy am noson fythgofiadwy yng nghwmni Live in Technicolor, prif fand teyrnged Coldplay’r DU, a fydd yn dod â sŵn Coldplay’n fyw dan olau cannwyll.
Bydd y profiad cwbl unigryw hwn yn mynd â chi ar antur arbennig, neu ‘Adventure Of A Lifetime’ ddylen ni ei ddweud, a fydd yn cynnwys perfformiadau byw bythgofiadwy o rai o ganeuon gorau Coldplay, gan gynnwys Viva La Vida, Hymn For The Weekend, Yellow, The Scientist, A Sky Full Of Stars, a llawer mwy.
Dan olau tywyll cannoedd o ganhwyllau ac acwsteg unigryw’r gadeirlan, byddwch yn barod am baradwys llwyr!
🎟Archebwch eich tocynnau cyn gynted â phosib ar gyfer y sioe fyw heb ei hail hon!
Nid oes modd rhoi arian yn ôl am docynnau ar ôl eu prynu.
Mae unrhyw docynnau a werthir yn derfynol – ni ddarperir unrhyw ad-daliadau dan unrhyw amgylchiadau. Os nad ydych yn gallu mynychu, mae croeso i chi drosglwyddo neu ail-werthu eich tocyn yn breifat. Nodwch os gwelwch yn dda, nid oes gennym restrau aros ac ni fyddwn yn ail-werthu tocynnau ar ran mynychwyr.
Mae’n rhaid i fynychwyr fod yn 10 oed neu’n hŷn. Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu, ac mae’n rhaid i bawb gael tocyn. Ni ddarperir gostyngiad i blant.
Ymwadiad: Nid ydym yn gysylltiedig â Coldplay na’u rheolwyr. Mae’r cyngerdd hwn yn sioe deyrnged sy’n dathlu cerddoriaeth Coldplay.