Marchnad y Frenhines y Rhyl i gynnal digwyddiadau cyffrous ar gyfer y penwythnos agoriadol
I ddathlu’r agoriad mawr, ddydd Iau 10 Gorffennaf, bydd adeilad newydd Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn cynnal penwythnos llawn dop o ddigwyddiadau ac adloniant rhad ac am ddim, a fydd yn dechrau ar y diwrnod agoriadol, ddydd Iau 10 Gorffennaf, ac yn mynd tan ddydd Sul 13 Gorffennaf.
Marchnad y Frenhines o’r awyr
Bydd y Farchnad ar agor rhwng 10am-10pm bob dydd ar gyfer y penwythnos agoriadol, gyda gwerthwyr yn arddangos eu bwyd a diod blasus drwy’r penwythnos.
Gwerthwyr bwyd
Bydd amrywiaeth o adloniant rhad ac am ddim yn cael ei gynnal drwy gydol y penwythnos. Bydd y noson agoriadol yn cynnig noson o gerddoriaeth gan Mike Andrew fel Robbie Williams a’r artistiaid lleol Sarah Price a Marney Bailey o 7pm.
Nos Wener bydd y gerddoriaeth yn parhau gyda pherfformiadau byw gan y cantorion talentog lleol Jess Pallett, Joseph Leo, a Chris Fletcher o 7pm ymlaen.
Gan symud ymlaen i’r penwythnos, bydd Tabitha yn perfformio fel Whitney ar y dydd Sadwrn, a fydd yn canu amrywiaeth o ganeuon mwyaf poblogaidd Whitney Houston o 8pm ymlaen gydag ail set o ganeuon soul a motown i ddilyn.
I gloi digwyddiadau’r penwythnos agoriadol, bydd disgo ar gyfer y teulu yn cael ei gynnal ar y dydd Sul, yn cynnwys DJ Paul Maffia, a fydd yn digwydd rhwng 2pm a 5pm.
Bydd y Farchnad hefyd yn dangos Rowndiau Terfynol Wimbledon drwy gydol y penwythnos.
Ardal y bar
Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr. Bydd ardal tu allan y Farchnad yn cynnwys decin wedi’i godi a’i orchuddio a fydd yn rhoi lle i ymwelwyr fwyta tu allan.
Dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:
“Mae Marchnad y Frenhines wedi elwa o oddeutu £6.5m o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid Trawsnewid Trefi, ac mae’n falch iawn gen i weld y datblygiad yn y Farchnad, sef safle allweddol yn y broses o ailddatblygu canol tref y Rhyl.
“Mae’r safle bywiog newydd hwn yn cynnig amrywiaeth o siopau bwyd a manwerthu, ardal ddigwyddiadau a lle i fwyta y tu allan. Bydd yn creu swyddi, yn cynnyddu nifer yr ymwelwyr, ac yn rhoi bywyd newydd i ganol y dref.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Gan ddechrau ar y diwrnod agoriadol, mae rhestr anhygoel o ddigwyddiadau ac adloniant rhad ac am ddim wedi’i threfnu ar gyfer y penwythnos agoriadol ym Marchnad y Frenhines.
Mae’r safle wedi bod yn nodwedd annatod o’r Rhyl ers 1902, ac rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy at y bennod ddiweddaraf hon, ac i agor drysau’r Farchnad i’r cyhoedd.”
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr o Midland Events (Rhyl) Ltd:
“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd ar gael ar gyfer y penwythnos agoriadol. Mae gennym amrywiaeth dda o adloniant cyffrous ac am ddim, a fydd yn ategu at yr hyn sydd gan ein gwerthwyr i’w gynnig.
Edrychwn ymlaen at agor y drysau ar 10 Gorffennaf a gwahodd y cyhoedd i ddathlu’r penwythnos agoriadol gyda ni.”
Am y wybodaeth ddiweddaraf am Farchnad y Frenhines, dilynwch Farchnad y Frenhines y Rhyl ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.
Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.