Privacy Overview
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Always Active
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ailagor Plas Newydd ar gyfer Tymor 2025

Mae adeilad hanesyddol Plas Newydd yn Llangollen yn barod i agor ei ddrysau am y tymor newydd a chynnig amrywiaeth gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Mae’r hen dŷ rhyfeddol hwn, lle trigai’r anfarwol Ferched Llangollen tua diwedd y ddeunawfed ganrif, yn ailagor unwaith eto ddechrau mis Ebrill.

Daliodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby ddychymyg cymdeithas yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Deuai llu o ymwelwyr i’r bwthyn bach diymhongar a weddnewidiwyd gan y Merched ar hyd y blynyddoedd yn ffantasi Gothig o wydr lliw a phren derw wedi’i naddu’n gain.  Cewch ddysgu mwy am eu hanes rhyfeddol a phrynu tocynnau i ymweld â’r tŷ rhwng 11am a 4pm, saith niwrnod yr wythnos. 

Gallwch gael te, fel y gwnaeth Wordsworth, Syr Walter Scott a Dug Wellington ers talwm, a mwynhau tamaid blasus i’w fwyta yn ystafelloedd te’r Hen Stabl rhwng 10am a 4pm bob dydd o Ebrill 1 ymlaen.

Plas Newydd House and Tearooms in Llangollen
Plas Newydd Llangollen

Mae gerddi Plas Newydd yn enwog am eu rhamant a’u hanes cyfoethog.  Roedd y Merched wrth eu boddau â byd natur a garddio, ac aethant ati i weddnewid y gerddi’n lle rhamantus, llawn planhigion lliwgar, llwybrau troellog, rhaeadrau ac addurniadau sy’n dal i gyfareddu ymwelwyr hyd heddiw.  Cewch grwydro’r gerddi’n rhad ac am ddim bob dydd, gydol y flwyddyn, o 8am nes mae hi’n nosi. 

Cadwch lygad am ddigwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, a hyrwyddir yn lleol ar dudalen Facebook Plas Newydd, Llangollen. Bydd tymor 2025 yn llawn o weithgareddau difyr fel gweithdai crefft, teithiau tywys a darlithoedd yn y gerddi, digwyddiadau hanesyddol, dramâu, perfformiadau a gweithgareddau i deuluoedd, gan gynnwys yr helfeydd trysor tymhorol sy’n arbennig o boblogaidd â phlant ac yn cynnig gwobrau newydd gwych. Eleni, bydd Plas Newydd hefyd yn cynnal yr wythnos gyntaf erioed i glodfori Gwaddol Merched Llangollen ym mis Mehefin, pan fyddwn yn cynnal llu o weithgareddau’n canolbwyntio ar y Merched, eu hanes unigryw a’r gwaddol y maent wedi’i adael inni.