Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Crwydro i mewn i’r hydref: 9 Taith Gerdded Swynol Trwy Sir Ddinbych

Mae rhywbeth hudolus am yr hydref yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae’r aer yn ffres, y coed yn fflamio â browngoch ac aur ac mae cefn gwlad yn disgleirio’n dawel a diamser sy’n gwneud i chi fod am wisgo sgarff, paratoi fflasg o de a chrwydro. Sir Ddinbych, â’i eglwysi hynafol, bryniau niwlog ac afonydd llawn hanesion, yw’r lle perffaith i grwydro – a diolch i’r cyswllt bysiau, gallwch adael eich car adref a gadael i’r tymor eich arwain.

Roeddem am amlygu wyth taith gerdded i’w mwynhau’r hydref hwn o’n llyfryn, ‘8 Taith Gerdded Gynaliadwy’.

1. Ffynnon Santes Tegla, Llandegla

Taith gerdded gylchol lle mae dail yn arnofio ar hyd Afon Alyn a gwrychoedd yn disgleirio â mwyar diwedd yr hydref. Wedi’i chuddio mewn llwyn gwern, mae’r ffynnon hynafol yn teimlo’n ddiamser – pwll sgwâr sydd wedi adlewyrchu canrifoedd o dymhorau. Wrth i chi gerdded yn ôl trwy’r lonydd tawel, bydd arogl mwg coed yn cario o’r pentref ac mae’r caffi cymunedol yn lle delfrydol am ddiod i gynhesu.

2. Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Yma, mae golau’r hydref yn dal tywodfaen coch tywyll un o eglwysi cadeiriol lleiaf Prydain. Mae llwybrau glan yr afon ar hyd Afon Elwy yn frith o ddail euraidd, ac mae tawelwch heddychlon yr eglwys gadeiriol yn cynnig gwrthgyferbyniad i’r hanes gwyllt mae wedi’i ddioddef. Dewch â’ch taith gerdded i ben gyda phaned o de a chacen yn un o gaffis cysurus y ddinas – defod berffaith i’r hydref.

3. Moel Tŷ Uchaf, Llandrillo

Yn uchel uwchben y dyffryn, mae cylch cerrig o’r Oes Efydd yn cadw golwg. Mae’r llwybr rhostir 5 milltir yn daith i mewn i hanes – ac yn yr hydref, mae’r rhedyn yn troi’n lliw copr gloyw, mewn cyferbyniad â’r cerrig hynafol. Mae’r tawelwch yma’n teimlo’n euraidd hefyd, a dim ond y gwynt a chri bwncath uwchben ac efallai dafad fusneslyd sy’n torri’r distawrwydd.

4. Ywen Nantglyn

Ym mhentref bach Nantglyn, mae ywen hynafol, sy’n hŷn nag atgof ei hun, yn sefyll yn y fynwent. Gallwch ddringo’r grisiau i mewn i’w chalon wag a dychmygu’r pregethau fyddai wedi cael eu traddodi o’r lle cysegredig hwn gan anadlu’r arogl bytholwyrdd. Yna crwydrwch yn ôl tua Dinbych trwy lonydd a chaeau, lle mae dail yr hydref yn crensian dan draed.

5. Colofn Eliseg, Llangollen

Efallai nad yw gweddillion croes goffa, neu yn hytrach y piler sydd i’w weld erbyn hyn mewn cae o ddefaid yn swnio’n rhy gyfareddol, ond mae ei stori yn gyfoeth o chwedlau. Yn yr hydref, mae’r bryniau cyfagos – Castell Dinas Brân a chreigiau calchfaen Eglwyseg — yn disgleirio â golau llwydfelyn. Mae socanod eira ac esgyll cochion dan adain yn heidio i’r llwyni drain, â’u trydar yn cyd-fynd â’ch camau.

6. Coed Clocaenog

Taith gerdded hydrefol i rai sy’n caru coetir. O dderw hynafol Coed y Fron Wyllt i’r conifferau uchel o gwmpas cofeb Pincyn Llys, dyma le o ysblander tawel. Mae’r aer yn drwch gydag arogl pîn, mwsogl tamp a dail wedi cwympo. Efallai na welwch chi’r gwiwerod coch ond mae gwybod eu bod nhw yno, yn siffrwd yn y canopi, yn ychwanegu ychydig o hud.

7. Pont Dyfrdwy, Corwen

Yma, mae Afon Dyfrdwy yn troi a phefrio, gan gludo hwyliau newidiol y tymor. Ar lan yr afon, mae derw yn gollwng dail euraidd i mewn i’r dŵr a phontydd cerrig mwsoglyd yn gwneud i chi oedi. Mae’r daith yn cysylltu Corwen a Chynwyd, ac mae digonedd o leoedd fel Siop Fferm Organig a Chaffi Rhug lle gallwch orffwys a mwynhau diod poeth ar hyd y ffordd. Mae rhannau o’r daith gerdded wedi’u gwella’n ddiweddar felly mae’n hygyrch i bawb.

8. Penycloddiau, ger Bodfari

I’r rhai sy’n crefu am awyr eang, mae’r fryngaer hon yn berffaith. Mae’r copa sy’n cyrraedd 440m yn cynnig golygfeydd arbennig yn yr hydref – Bryniau Clwyd yn disgleirio’n efydd, copaon Eryri wedi’u brigo’n wyn yn y pellter, a’r môr yn disgleirio i’r gogledd. Yma, mae’r gwynt yn ffres ac iachus ond nid oes lle gwell i deimlo rhyddid gwyllt y tymor a dychmygu bywyd anheddwr cynnar fel y bu un tro yn byw yma.


Pam yr Hydref yn Sir Ddinbych?

Gan ei bod yn dawelach erbyn hyn, gallwch fwynhau cyflymder mwy araf, ac mae pob llwybr yn teimlo fel stori. Mae ffynhonnau hynafol, eglwysi cadeiriol ag ôl tywydd, cerrig o’r Oes Efydd a rhagfuriau Oes yr Haearn wedi’u gwasgaru ar draws y bryniau a’r dyffrynnoedd. Ac yn yr hydref, maen nhw ar eu gorau: rhedyn yn fflamio, afonydd yn canu’n uwch a’r awyr iach ffres. Mae modd mwynhau Sir Ddinbych ym mhob tymor felly beth am drefnu gwyliau gartref yma er mwyn cael blas ar rai o’n lleoedd unigryw i aros a’n bwydydd tymhorol?

Felly llenwch fflasg, gwisgwch eich esgidiau cerdded a daliwch y bws i gefn gwlad arbennig Sir Ddinbych. P’un a fyddwch chi’n crwydro’n dawel ar hyd glan afon neu’n dringo trwy’r gwynt at fryngaer , bydd y teithiau cerdded hyn yn eich cyfareddu gydag ysbryd diamser a lliwiau’r hydref. 🍂✨

Gallwch lawrlwytho’r teithiau cerdded hyn yma i gael disgrifiad mwy manwl ac i weld pa lwybr bws a argymhellir, gallwch gael fersiwn brint yn uniongyrchol o’n Canolfannau Croeso yn Llangollen neu’r Rhyl.