Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Cartref y Môr-wenoliaid Bach yn barod am eu dyfodiad am yr haf

Mae safle nythfa adar enwog yn y DU yn barod i groesawu ei ddeiliaid blynyddol yn ôl.

Mae Twyni Gronant ar agor unwaith eto i groesawu dyfodiad y Môr-wenoliaid Bach y tymor hwn diolch i gefnogaeth Ceidwaid Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill.

Y mis yma mae’r tîm wedi bod yn gweithio i baratoi ardal y nythfa fridio fwyaf a ddarganfuwyd yng Nghymru ar gyfer dyfodiad ymwelwyr yr haf.

Mae ardal raeanog Twyni Gronant yn adnabyddus ar draws y byd ac yn cyfrannu at dros 10% o gyfanswm y niferoedd bridio yn y DU, ac yn atgyfnerthu nythfeydd eraill. Nythfeydd Gronant a’r Parlwr Du yw’r unig rai sy’n bridio yng Nghymru.

Tua diwedd y mis ac i mewn i fis Mai bydd y Môr-wenoliaid Bach yn tyrru i’r safle o arfordir gorllewinol Affrica i fridio cyn dychwelyd yn ôl am y De i’r cyfandir gyda’u cywion newydd. Y llynedd cofnodwyd 155 o adar ifanc ar y safle.

Am bron i ddau ddegawd mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi bod yn rheoli’r nythfa (ynghyd â’i nythfa gysylltiedig wrth y Parlwr Du), gyda chymorth Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych:  “Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y Môr-wenoliaid Bach a fydd yn cyrraedd safle’r nythfa. Diolch i gymorth ein gwirfoddolwyr gwych sydd wedi ymuno â ni ar y safle, rydym wedi bod yn paratoi ardal y nythfa gan osod ffens drydan, ffens raff allanol a chuddfeydd.

Mae ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km yn ymestyn ar hyd y traeth i amddiffyn yr adar rhag ysglyfaethwyr ar y tir. Bydd y rhain yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. 

Ychwanegodd Claudia: “Rydym wedi gwneud y gwaith hwn gan fod yr adar yn agored iawn i niwed gan aflonyddwch dynol ac maent hefyd mewn perygl gan ysglyfaethwyr yn yr awyr ac ar y ddaear. Bydd ein tîm o wardeiniaid yn bresennol unwaith eto o ddechrau mis Mai yn y Ganolfan Ymwelwyr i warchod yr adar, siarad â phobl sy’n ymweld â’r safle a hefyd casglu’r hysbysydd hollbwysig am y nythfa eleni.

Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:  “Ers bron i ddau ddegawd mae timau Cefn Gwlad, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, wedi bod yn gweithio’n galed iawn i warchod a chefnogi’r safle hwn i wneud y nythfa yn ardal o arwyddocâd gwirioneddol ar gyfer gwarchod poblogaethau’r Môr-wenoliaid Bach yn y dyfodol. Gallant i gyd fod yn eithriadol o falch o’r hyn y maent yn ei wneud i gynnal y nythfa brysur hon yn Nhwyni Gronant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu ymweld â safle’r nythfa, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 07785517398.