Darganfod Llanelwy: Mynd am Dro ar hyd Llwybr y Dref
Yn harddwch Dyffryn Clwyd, lle saif dinas fechan Llanelwy, fe gewch eich swyno gan yr hanes cyfoethog a’r ymdeimlad hyfryd o gymuned. Efallai fod pobl yn galw hon yn “ddinas leiaf Cymru” ond peidiwch â gadael i hynny eich twyllo chi – mae gan Lanelwy ddigonedd o bethau i’w cynnig, yn enwedig os ydych chi’n hoff o fynd am dro hamddenol a dysgu ychydig o hanes. Mae Llwybr Tref Llanelwy’n ffordd berffaith i ddarganfod trysorau’r ddinas.

Taith Drwy Hanes
Dyluniwyd y llwybr i bobl fynd am dro hamddenol o amgylch mannau pwysicaf Llanelwy. Ar hyd y ffordd, fe ddewch chi ar draws cymysgedd o hen hanes, golygfeydd digynnwrf a bwrlwm y trigolion lleol. Ni wnaiff y daith eich blino na’ch llethu–yn ddelfrydol i deuluoedd, rhodwyr hamddenol neu unrhyw un sy’n awyddus i gymryd eu hamser wrth ddarganfod cyfrinachau’r lle.
Uchafbwyntiau Hanfodol
Canolbwynt y llwybr yw’r Gadeirlan, yr eglwys gadeiriol hynafol leiaf ym Mhrydain. Mae’n gadeirlan fach â hanes helaeth ac fe’i hadeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Wrth fynd drwy’r pyrth fe welwch chi wydrau lliw ysblennydd, cilfachau tawel i fyfyrio a syniad gwirioneddol o dreftadaeth ysbrydol y ddinas.

✨ Afon Elwy
Mae’r llwybr hefyd yn troelli tuag Afon Elwy. Mae glan yr afon yn arbennig o hardd, yn enwedig pan mae’r haul yn tywynnu, gyda siffrwd braf y dŵr a’r adar yn canu. Mae’n lle bendigedig i gymryd seibiant, anadlu’n ddwfn a mwynhau’r olygfa.

✨ Strydoedd Hanesyddol a Straeon Cudd
Wrth ichi grwydro, fe ewch chi heibio bythynnod, tafarndai traddodiadol a mannau arwyddocaol sy’n rhoi syniad o hanes hir y ddinas. Cadwch lygad am blaciau a byrddau gwybodaeth sy’n dod â hanesion Llanelwy’n fyw–fe gewch chi siom ar yr ochr orau o’r holl hanes i’w ddatgelu yn y ddinas fach hon!
Pam Mynd am Dro ar y Llwybr?
Mae Llwybr y Dref yn fwy na rhywle i fynd am dro–mae’n ffordd o greu cysylltiad â Llanelwy ei hun. Fe deimlwch chi groeso’r gymuned agos-atoch yn y ddinas wrth weld harddwch naturiol Dyffryn Clwyd a dysgu rhywfaint o hanes Cymru ar hyd y ffordd.
Gallwch fwynhau’r daith yn eich ffordd eich hun hefyd: mynd am dro ar hyd y llwybr i gyd mewn ychydig llai nag awr neu gymryd eich amser, mynd am baned neu gael picnic ar lan yr afon.
Cadwch lygad am Feibl William Morgan o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Mae bedd Dic Aberdaron yn gorwedd yng nghornel dde-orllewinol y fynwent.

Obelisg H M Stanley, sy’n arddangos golygfeydd o’i fywyd dadleuol.

Chwedl yr eog a’r fodrwy – fe’i darlunnir yn ffenestri lliw’r gadeirlan.

Geiriau o Gyngor Cyn ichi Fynd
- Bachwch daflen llwybr y dref os gallwch chi–mae’n datgelu manylion cudd a gallwch lawrlwytho un yma.
- Gwisgwch esgidiau cyfforddus, yn enwedig os ydych chi’n bwriadu mynd am dro ar lan yr afon, lle mae’r llwybr yn gallu bod yn fwdlyd. Dim ond milltir o hyd yw’r llwybr ac mae’r llethr yn ysgafn ar y stryd fawr. Mae’r maes parcio i’r de o’r Gadeirlan, cod post LL17 0RD.
- Cymerwch eich amser yn y Gadeirlan–hon yw enaid y ddinas.
Yn Llanelwy hefyd y cynhelir Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ar 11-20 Medi. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Sylwadau i Gloi
Mae Llwybr Tref Llanelwy’n cynnig antur ysgafn sy’n ddelfrydol i bawb sydd wrth eu boddau’n crwydro o amgylch mannau difyr. P’un a ydych chi’n ymweld â gogledd Cymru neu’n un o’r brodorion yn ailddarganfod rhyfeddodau’r ddinas, bydd y daith fach hon yn creu hoffter mawr ynddoch chi at Lanelwy.