Eisteddfod 2025

Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw digwyddiad diwylliannol mwyaf Ewrop a bydd yn glanio yn Wrecsam yr haf hwn!
Mae’r ŵyl yn ddathliad bywiog o ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru a’r Gymraeg.
O Awst 2-9, 2025, daw’r Eisteddfod â diwylliant a chreadigrwydd i’r Maes yn Is-y-coed, pentref dim ond pum milltir o Ganol Dinas Wrecsam.
Tocynnau
Gwefan swyddogol yr Eisteddfod: Tocynnau (dolen gyswllt allanol)
Gallwch gael tocynnau ar gyfer diwrnodau unigol neu’r wythnos gyfan.
Beth i’w ddisgwyl
Iaith a diwylliant Cymraeg
Mae’r Maes yn lle gwych i brofi a rhoi cynnig ar y Gymraeg, gyda Maes D yn cynnig cymorth a chyngor cyfeillgar ar gyfer dysgwyr a phobl nad ydynt yn siarad yr iaith, ynghyd â chyfieithu ar y pryd a fydd ar gael mewn digwyddiadau allweddol.
Rhowch gynnig ar y Gymraeg!Fformat PDF 2.05 MB
Cerddoriaeth a pherfformiad
O gystadlaethau mawr a drama yn y Pafiliwn i draddodiadau gwerin yn Tŷ Gwerin a gigs hwyr yn y nos Maes B, mae cerddoriaeth fyw ac adloniant i fodloni pob chwaeth.
Celfyddyd a chreadigrwydd
Gallwch weld celf gyfoes Gymreig ac ystod amrywiol o arddangoswyr yn y Pentref Celf bywiog, lle bydd Y Lle Celf – wedi’i guradu eleni gan Tŷ Pawb – yn arddangos gwaith gan artistiaid blaenllaw o Gymru a rhai sy’n dod i’r amlwg.
Bwyd a diod
Mwynhewch amrywiaeth eang o fwyd stryd Cymreig, cynnyrch bwyd artisan, a diodydd gan fragwyr a distyllwyr lleol yn y Pentref Bwyd.
Hwyl i’r teulu a dysgu
Gyda gwyddoniaeth ymarferol yn y Pentref Gwyddoniaeth a chwarae creadigol yn yr awyr agored yn y Pentref Plant, mae digon i gadw diddordeb plant a theuluoedd ledled y Maes.
Ymlacio a mannau cymdeithasol
Gallwch ymlacio yng Nghaffi Maes B gyda cherddoriaeth acwstig ac awyrgylch hamddenol, perffaith ar gyfer darganfod artistiaid newydd neu gymryd seibiant.
Wrecsam ar y maes

Bydd Pentref Wrecsam, ein canolfan am yr wythnos, ar y Maes. Gallwch ddisgwyl perfformiadau byw, gweithgareddau ymarferol, a llwyth o wybodaeth am Wrecsam, beth sy’n digwydd y tu allan i’r Maes, gwasanaethau cyngor a mwy.
Cyfryngau cymdeithasol
Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Facebook (dolen gyswllt allanol)
Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Instagram (dolen gyswllt allanol)
Eisteddfod Genedlaethol Cymru: X – Twitter (dolen gyswllt allanol)
Digwyddiadau a chodi arian Eisteddfod Wrecsam

Llun gan: Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Tudalen digwyddiadau Eisteddfod Wrecsam: Facebook (dolen gyswllt allanol)
Yn rhoi llwyfan i ddigwyddiadau sy’n arwain at yr Eisteddfod, a bydd yn parhau i hyrwyddo digwyddiadau ffrinj sy’n digwydd yng nghanol dinas Wrecsam yn ystod yr ŵyl.
Digwyddiadau Eisteddfod – Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Yn ystod yr wythnos mae gan Gymdeithas yr Iaith nifer o gigs y gallwch ddod o hyd iddynt yma.
I orffen, os ydych chi’n ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr Eisteddfod a’r gwahaniaeth rhwng yr Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen a’r Genedlaethol yn Wrecsam, gallwch ei ddarllen i gyd fan hyn.
Geiriau a rhai lluniau wedi’u benthyg o wefan swyddogol yr Eisteddfod.