Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Croesawu mis Ionawr: Tymor o Lonyddwch ac Adnewyddu’

Yn fuan ym mis Ionawr 2026, fe drawsnewidiodd gogledd-ddwyrain Cymru mewn i dirwedd gaeafol digyffro a thawel. Tra bod y rhybuddion eira a rhew diweddar wedi taro’r rhanbarth, mae’n hawdd curo’r felan ym mis Ionawr drwy fwynhau cymysgedd y sir o hud hanesyddol a harddwch naturiol ffres.

Dyma eich canllaw i brofi’r gorau o ogledd-ddwyrain Cymru y mis hwn.

1. Uchelfannau Rhynllyd a Muriau Hanesyddol

Mae mis Ionawr yn amser perffaith i fynd am dro iachusol drwy Fryniau Clwyd. Mae grug piws yr hydref wedi ildio i gopaon dramatig sydd yn aml â barrug.

  • Castell Dinbych Gan edrych i lawr dros y dref, mae’r gaer yma o’r 13 Ganrif yn cynnig golygfeydd panoramig o Ddyffryn Clwyd dan flanced o eira.

2. Bywyd Gwyllt ac Unigedd Arfordirol y Gaeaf

Mae’r arfordir yn parhau i ddenu pobl hyd yn oed yn y misoedd oerach.

Arfordir y Gogledd: Mae’r traethau yn y Rhyl Phrestatyn yn cynnig math gwahanol o harddwch ym mis Ionawr. Mwynhewch daith gerdded heddychlon ar hyd Llwybr Prestatyn – Dyserth, sydd yn eich arwain heibio Rhaeadr Dyserth trawiadol —yn aml ar ei fwyaf pwerus ar ôl glaw y gaeaf.

  • Natur Drwy’r Ffenestr: I’r rhai sy’n ffafrio pethau mwy hamddenol, mae prosiectau cymunedol lleol fel “Natur drwy’r Ffenestr” yn Ninbych yn parhau i gynnig sesiynau sy’n archwilio byd natur lleol drwy gydol y gaeaf.

Os ydi tywydd mis Ionawr ychydig bach yn rhy oer i chi, ewch dan do ac ymdrochi eich hun yn ein hanes. Megis Cadeirlan Llanelwy un o gadeirlannau lleiaf ond mwyaf hanesyddol y DU.

Neu Ganolfan Grefft Rhuthun Canolfan ar gyfer Celfyddydau Cymhwysol, sy’n arddangos y gorau o gelf gymhwysol gyfoes ac sydd ag arddangosiadau gan rai o artistiaid blaengar y byd, gofod manwerthu lle gallwch brynu darnau unigryw a chaffi dymunol a maes parcio am ddim.

  • Canolfannau Clyd: Cadwch lygad am ddiweddariadau Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer canolfannau cymunedol lleol a “mannau cynnes” sydd yn cynnal digwyddiadau drwy gydol misoedd y gaeaf.

4. Cynllunio eich ymweliad

  • Diogelwch tra’n Teithio: Gall mis Ionawr olygu tywydd ansefydlog; gwiriwch a ydi ffyrdd lleol wedi cau a’r wybodaeth ddiweddaraf am raeanu ar wefan Denbighshire Free Press cyn anelu am y bryniau.
  • Cludiant Lleol: Mae nifer o ardaloedd, yn cynnwys  Rheilffordd Llangollen yn cynnig ffordd arafach, olygfaol o weld Dyffryn Dyfrdwy.

Pa unai ydych chi eisiau cerdded mewn tawelwch yn Nyffryn Dyfrdwy neu fwynhau prynhawn clyd mewn caffi yng Nghorwen neu un o’r siopau ail law niferus lle gallwch brynu trysor unigryw i fynd adref gyda chi.

Mae mis Ionawr yn Sir Ddinbych yn amser i arafu, efelychu natur a gwerthfawrogi harddwch garw gogledd-ddwyrain Cymru, ond i’r rheini ohonoch chi a hoffai her newydd, fe allech chi bob amser gynyddu eich gwybodaeth o’r ardal drwy ymuno â’n Cwrs Llysgenhadon Twristiaeth am ddim, ac mae’r modiwlau’n delio â gwybodaeth helaeth.  I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Cynllun Llysgenhadon.

Denbighshire Tourism Ambassador logo