Bublé at Christmas – Cyngerdd Dan Olau Cannwyll
-
Date
5 Rhagfyr 2025
-
Time
09:00 - 09:00
📍Cadeirlan Llanelwy, Gogledd Cymru
7pm
Bublé at Christmas – Cyngerdd Dan Olau Cannwyll

Gan Boujee Events
It’s beginning to look a lot like Christmas…
Mae hi’n dechrau teimlo’n Nadoligaidd…
Dewch i Gadeirlan drawiadol Llanelwy am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, hud a golau cannwyll.
Bublé at Christmas yw un o sioeau teyrnged gorau’r DU i’r dyn arbennig hwn gyda band byw o saith aelod.
Byddwch yn barod i gael eich swyno gan glasuron a ffefrynnau Nadolig Bublé – It’s Beginning to Look a Lot Like Christmas, Holly Jolly Christmas, Winter Wonderland, Haven’t Met You Yet, Feeling Good, a llawer mwy.
Wedi eich amgylchynu gan gannoedd o ganhwyllau’n chwincio ac acwsteg unigryw’r gadeirlan, dyma noson Nadoligaidd na ddylech chi ei methu.
🎟Archebwch rŵan i gael profiad bythgofiadwy fis Rhagfyr eleni – dyma Nadolig Boujee!!
Drysau ar agor: 7:00pm
Sioe yn dechrau: 8:00pm
Bydd bar trwyddedig ar gael drwy’r nos. Nodwch os gwelwch yn dda, dim ond bwyd a diod a brynir ar y safle a ganiateir. Er mwyn sicrhau fod pawb yn ddiogel ac yn gyffyrddus, bydd gweithwyr diogelwch hyfforddedig yn archwilio bagiau.
Polisi Tocynnau: Mae unrhyw docynnau a werthir yn derfynol. Ni ddarperir unrhyw ad-daliadau dan unrhyw amgylchiadau. Gallwch ail-werthu neu drosglwyddo eich tocyn yn breifat os nad ydych yn gallu mynychu mwyach. Nid oes gan Boujee Events restrau aros ac ni fyddant yn ail-werthu tocynnau.
Isafswm Oedran: 10+ (Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n mynychu dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae’n rhaid i bawb gael tocyn. Nid oes prisiau arbennig ar gael ar gyfer plant.)
Ymwadiad: Nid ydym yn gysylltiedig â Michael Bublé na’r rheolwyr. Mae’r cyngerdd hwn yn sioe deyrnged sy’n dathlu cerddoriaeth Michael Bublé.
Mae Seddi Hygyrch ar gael ar gais, anfonwch e-bost info@boujee-events.co.uk am ragor o wybodaeth. Nid ydym yn darparu tocynnau am ddim/gostyngol i gyfeillion cwsmeriaid.