Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Diwrnodau Agored Plas Uchaf yng Nghorwen

Ymunwch â ni yn y Diwrnod Agored Tirnod cyntaf ym Mhlas Uchaf Dydd Sadwrn 7 – Dydd Sul 8 Medi, 10am-4pm. Rydym yn agor yr adeilad hwn fel rhan o Ddrysau Agored Cadw. Archwiliwch yr adeilad a darganfod mwy am ei hanes a’i adfer.

Bydd y ty hwn ar agor ar yr un penwythnos â diwrnodau agored Dolbelydr taith tua 40 munud mewn car.

Tŷ neuadd sylweddol a adeiladwyd tua 1400 ac sydd wedi’i leoli ar ochr bryn isel yn nyffryn Dyfrdwy, ardal sy’n llawn golygfeydd, bywyd gwyllt a hanes. Ychydig iawn o dai o’r oes hon sydd wedi goroesi yng Nghymru ac mae ansawdd y gwaith ym Mhlas Uchaf yn eithriadol.

Saif Plas Uchaf ar ochr bryn isel yn nyffryn Dyfrdwy, ger Corwen yng nghanol cefn gwlad Gogledd Cymru. Mae o fewn cyrraedd hawdd i Eryri. Mae siop fferm Rhug gerllaw yn cynnig llawer o gynnyrch lleol, Cymreig ac organig o ansawdd uchel.

Mae Llyn Tegid syfrdanol 20 munud mewn car o Blas Uchaf. Mwynhewch y golygfeydd godidog ar Reilffordd Llyn Tegid, neu gymryd rhan mewn rhai chwaraeon dŵr os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.