Sbotolau ar Brestatyn
Dyma ganllaw cyflawn i Lwybr Tref Prestatyn, taith hunan-dywys hyfryd sydd yn 2 filltir o hyd, sy’n datgelu hanes cyfoethog a golygfeydd y dref arfordirol hon yng ngogledd Cymru.
🌿Trosolwg
- Pellter: ~2 filltir (3.2 km; Baddondy Rhufeinig yn ychwanegiad dewisol)
- Hyd: Tua 2 awr
- Anhawster: Yn hawdd gan fwyaf: dringfa fer ond serth drwy Hillside Gardens
- Man Cychwyn: Maes parcio Ffordd Llys Nant, Cod Post LL19 9LG
- Cludiant cyhoeddus: Yn hawdd ei gyrraedd ar drên neu fws
📍 Prif Uchafbwyntiau’r Llwybr
1. Parc Siopa Prestatyn
Cychwynnwch yn y maes parcio y tu ôl i Eglwys y Plwyf, cerddwch i lawr Ffordd Llys Nant. Arhoswch ger yr orsaf dân o’r 1900au cynnar a’r hen orsaf heddlu cyn mynd i grwydro o amgylch y parc siopa modern a’i “wal fyw” a gofod manwerthu llawn bwrlwm.

2. Hen Orsaf Reilffordd
Edrychwch ar un o bedwar adeilad rheilffordd yng ngogledd Cymru a ddyluniwyd gan Francis Thompson. Mae mes pres yn y palmant yn eich tywys i fyny tuag at Lwybr Clawdd Offa tuag at y Stryd Fawr.
3. Ffynnon Pochin
Mae’r gofeb yn dynodi dylanwad y cemegydd diwydiannol Henry Davis Pochin, a foderneiddiodd y dref gydag argloddiau môr, dŵr wedi’i bibellu, nwy a draeniau o 1869 ymlaen. Fe arferai gael ei leoli ar y blaendraeth, ond mae bellach wedi’i leoli ar y Stryd Fawr.
4. Eglwys Crist
Wedi’i sefydlu yn 1863 a’i ymestyn drwy’r 1900au, mae’r eglwys blwyf hefyd yn gofeb deimladwy – tu allan mae yna res o groesau carreg bychain sy’n coffau chwech o gôr-fechgyn a foddodd yn 1868.
5. Capel Rehoboth
Wedi’i adeiladu yn 1863 a’i ymestyn yn 1894, mae’r Capel Presbyteraidd Cymraeg yma wedi’i leoli ar Fforddlas drws nesaf i hen gwter garreg – gweddillion mwdlyd cynnar Stryd Fawr Prestatyn pan fyddai’n troi’n llif mewn tywydd gwlyb.
6. Cross Foxes
Yn dyddio’n ôl i 1664, dyma dafarn hynaf Prestatyn. Fe arferai twristiaid ffasiynol o Oes Victoria fynychu’r dafarn—yn cynnwys Hester Thrale yr awdur a chyfaill Samuel Johnson a ddisgrifiodd Prestatyn yn Saesneg fel ‘very romantic, truly solitary’.
7. Hillside Gardens a’r Lloches
Ar ôl troi mewn i Mount Ida Road a dringo drwy’r Gerddi, fe ddewch chi ar draws cerflun gwych o helmed, wedi’i foglynnu gyda dail derwen mes di-goes. Mae’n dathlu treftadaeth Rufeinig y dref a harddwch Coed Bishop gerllaw a Llechweddau Prestatyn. Mae dringfa serth a byr drwy’r gerddi yn datgelu cipolwg o Uplands, a adeiladwyd gan y dyfeisiwr ecsentrig Thomas Thorp yn 1912 i gynnwys arsyllfa cromen sy’n cylchdroi. Roedd yn sicr yn gwybod ble i ddod o hyd i’r golygfeydd gorau gan fanteisio ar banorama 180 gradd syfrdanol o arfordir gogledd Cymru, Ynys Môn ac Eryri yn y pellter.

8. Baddondy Rhufeinig (Ychwanegiad Dewisol)
Mae taith fer yn y car neu 1.5 milltir ar droed yn eich arwain at Faddondy Rhufeinig a adeiladwyd tua 120 OC gan yr Ugeinfed Lleng oedd wedi’i leoli yng Nghaer—a bellach mae wedi’i guddio o fewn ystâd dai fodern – Melyd Avenue. Archwiliwch arferion ymdrochi, crafelli hynafol a mwy i gael cipolwg rhyfeddol ar fywyd Brythonaidd-Rufeinig.

🚶 Llwybrau Estynedig i’w Hystyried
Llwybr Cylch Prestatyn i Ddyserth – llwybr cylch hirach hawdd (~6 km) ar hyd yr hen reilffordd sydd wedi’i drosi drwy Gallt Melyd a chefn gwlad, yn ddelfrydol i feicwyr a rhedwyr. Mae’n cymryd tua 1 awr 20 munud ac mae yna olygfeydd godidog a chaffi i gael tamaid a phaned. Peidiwch â methu’r pentrefi hanesyddol yma sydd i’r de. Mae yna gofeb mwyngloddio atmosfferig ac eglwys hynafol hardd yng Ngallt Melyd. Mae Dyserth yn enwog am ei raeadr 70 troedfedd o uchder a ras hwyaid ar Ŵyl y Banc mis Awst (gyda hwyaid plastig). Y ffordd berffaith o weld y cyfan? Ar droed neu feic. Mae Llwybr Prestatyn-Dyserth yn cynnig tair milltir heb draffig gan fwyaf ar hyd yr hen reilffordd a oedd yn gwasanaethu mwynglawdd plwm Talargoch yng Ngallt Melyd, gyda dargyfeiriad i syllu ar y Clive Engine House o 1860. Mae’n ffordd wych o gyfuno ychydig o hanes diwydiannol gyda golygfeydd syfrdanol o’r môr.

Gŵyl Gerdded Prestatyn – Ym mis Mai bob blwyddyn, mae teithiau tywys yn archwilio’r dref a thirweddau naturiol. Ond mae Prestatyn yn croesawu cerddwyr gydol y flwyddyn gan mai Prestatyn oedd y dref gyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Croeso i Gerddwyr. A does dim syndod. Mae reit ar y dechrau neu reit ar y diwedd, yn dibynnu ar sut rydych yn edrych arno, o Lwybr Cenedlaethol 177 milltir mawreddog Clawdd Offa. Mae ar drothwy Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sydd yn dechrau ar Lechweddau Prestatyn. Ac mae Llwybr Arfordir Cymru, heb sôn am Lwybr Beicio Cenedlaethol 5, yn rhedeg ar hyd y promenâd – anelwch am y dwyrain i gyrraedd Twyni Tywod Gronant sydd yn frith o fywyd gwyllt, www.prestatynwalkingfestival.co.uk

💡 Awgrymiadau i Fwynhau Prestatyn
- Gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus – mae’r Llechweddau yn fyr ond yn serth.
- Crwydrwch ar hyd y Stryd Fawr wedyn i fwynhau’r siopau annibynnol, yr hen bensaernïaeth, caffis a thafarndai.
- Dewch â dŵr, byrbrydau neu mwynhewch bryd o fwyd yn un o’r caffis lleol, a chofiwch dynnu lluniau o’r golygfeydd arfordirol.
- Mae teithiau tywys am ddim drwy raglen “You’ll Never Walk Alone”, yn ddelfrydol i gerddwyr cymdeithasol.
✨ Mae werth dod i ymweld
Mae Llwybr Tref Prestatyn yn cynnig taith fer ond gyfoethog drwy dreftadaeth lleol—o falchder bro Victoraidd i weddillion Rhufeinig—ynghyd â golygfeydd o’r môr a’r bryniau. Pa unai ydych chi eisiau cerdded yn hamddenol drwy’r dref neu’n dyheu am barhau ar hyd y llwybrau hirach, mae’r llwybr yma’n borth i hanes a thirweddau gogledd Cymru.
Mae gwybodaeth am draethau Prestatyn ar gael yma ond os ydych chi’n chwilio am adloniant dan do, fe allwch chi ymweld â’r Nova, un o atyniadau dan do mwyaf i ymwelwyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
- Ystafell ffitrwydd o’r radd flaenaf gyda 60 gorsaf
- Ardal chwarae meddal antur dan do ar dri llawr
- Caffi yn yr ardal Chwarae Antur
- Cwt y Traeth
- Ffatri Hufen Iâ
- Stiwdios aml-bwrpas / ystafelloedd digwyddiadau
- Pwll nofio 25m 4 lôn a phwll sblasio bychan

Os hoffech gyngor am lety, cludiant cyhoeddus, caffis neu fwytai, neu deithiau cerdded hirach, gall y Ganolfan Groeso agosaf yn y Rhyl helpu drwy ffonio 01745 355068.

Gallwch lawrlwytho Llwybr Tref Prestatyn yma.