Camu i Mewn i Hanes: Crwydro Llwybr Tref Rhuddlan
Mae llwybr tref Rhuddlan dair milltir yn unig o arfordir Gogledd Cymru ac mae’n llwybr cerdded hyfryd 2 filltir o hyd (3.2 km) sy’n dwyn ynghyd hanes, pensaernïaeth, natur a swyn barddol—ac mae’r rhain i gyd yn rhan o daith gerdded hamddenol drwy amser.

Roedd Rhuddlan yn symbol o orthrwm ar un adeg ond erbyn heddiw mae’n falch iawn o’i gastell. Mae’n dal i sefyll uwchben y dref a’r afon. Roedd Rhuddlan yn ganolog i stori Cymru – ym 1284, gwnaeth Edward I gyflwyno’r gyfraith yma am 250 o flynyddoedd ar ôl trechu’r Cymry ac yma y cyflwynodd ei fab fel ‘Tywysog cyntaf Cymru’.

Highlights & LaUchafbwyntiau a Thirnodau
- Senedd-dŷ
Dechreuwch yng nghornel y Stryd Fawr a Stryd y Senedd. Er gwaethaf ei enw, mae’n debyg mai llys canoloesol oedd yr adeilad, nid senedd-dŷ go iawn. Mae’n debyg bod ei ddrws o’r 13eg ganrif sydd bellach wedi’i lenwi a’i ffenestr o’r 14eg ganrif wedi dod o Gastell Rhuddlan. Caiff ei gofio’n hanesyddol fel y safle lle gwnaeth Edward I ddeddfu Statud Rhuddlan ym 1284, deddf a luniodd llywodraethu yng Ngogledd Cymru hyd at Ddeddf Uno 1536. - Eglwys y Santes Fair
Mae taith gerdded fer drwy borth mynwent Fictoraidd yn eich tywys chi at yr eglwys ysblennydd hon â dau gorff, a adeiladwyd tua 1300 ac a ehangwyd dros y canrifoedd canlynol. Y tu mewn, fe welwch chi destunau Cymraeg o’r 17eg ganrif wedi’u peintio ar y waliau a slab canoloesol prin wedi’i ysgythru o Archesgob Edessa. Mae mawsolëwm caerog o 1820 yn ychwanegu elfen Gothig at hanes pensaernïol yr eglwys. - Y Bont ac Afon Clwyd
Trowch i lawr yr allt i weld golygfa eiconig a ddarluniwyd gan Turner—castell, eglwys a phont mewn cytgord perffaith. Mae’r bont dywodfaen bresennol yn dyddio’n ôl i 1595, a chafodd elfen haearn ei ychwanegu yn y 19eg ganrif. O’r fan hon, cewch fwynhau golygfeydd syfrdanol o’r ceiau hynafol ar hyd glan yr afon. - Ceiau Hynafol
Ar un adeg yr oedd glannau’r afon hon yn Rhuddlan yn brysur tu hwnt – roedd warws, craen a glanfa gerrig yn rhan o’r porthladd erbyn y 19eg ganrif. Roedd y porthladd yn ganolfan fasnach leol ar gyfer grawn, pren a phlwm hyd nes i’r rheilffordd gyrraedd ym 1848. - Gwarchodfa Natur Rhuddlan
Mae llwybr arall yn arwain at hafan 11 erw i fywyd gwyllt ar safle’r hen orsaf reilffordd—sydd bellach yn gartref i las y dorlan, dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, dolydd blodau gwyllt, a cherfluniau cyfareddol. Mae hefyd yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 84 ac yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. - Castell Rhuddlan
Y penllanw: adeiladwyd y gaer gonsentrig drawiadol hon gan Edward I rhwng 1277–1282, a chafodd ei dylunio gan y saer maen meistrolgar James o San Siôr. Mae’n cynnwys beili siâp deimwnt, ffosydd, a nifer o waliau amddiffynnol, ac yr oedd yn rhan o’r “cylch haearn” o gestyll Edward. Roedd ei hadeiladu yn golygu troi cwrs Afon Clwyd hyd yn oed! - Tomen Twtil
Cewch weld caer mwnt a beili Normanaidd a adeiladwyd yn y 11eg ganrif—rhagflaenydd castell carreg cadarn Edward drwy’r ddringfa fer a mwdlyd hon i fyny Twtil. Mae’r golygfeydd yn odidog. - Brodordy yn Fferm yr Abaty a Banquet House
Gallwch fynd oddi ar y llwybr i ddarganfod safle priordy y Brodyr Du o’r 13eg ganrif; mae gweddillion y ddelw wedi’u gosod yn wal yr ysgubor. (Mae’r fferm yn breifat ond gallwch chi weld y ddelw yn glir o’r lôn.) Nid nepell i ffwrdd, gallwch weld olion y ffos ganoloesol a oedd yn amddiffyn y fynachlog. - Banquet House
Ewch yn ôl i’r dref drwy Abbey Road ac fe ddewch ar draws Banquet House (tua 1672). Does neb yn gwybod beth oedd ei bwrpas gwreiddiol; gallai fod wedi gwasanaethu fel elusendy. Mae’r bwa cerfiedig a’r ffenestri myliynog yn bos hanesyddol.
- Amddiffynfeydd Ffos a Chynllun y Dref
Gwnaeth Edward I gynllunio Rhuddlan gan ddefnyddio cynllun grid; mae olion ei ffos amddiffynnol wreiddiol yn dal i fodoli ar ymylon gogleddol y dref sy’n eich atgoffa o’i gorffennol caerog. Mae’r cwestiwn ynghylch a fyddai’r ffos wedi bod yn ddigon i wneud i chi deimlo’n ddiogel rhag byddin wyllt y Cymry yn fater arall. Gall bwrdd arddangos ar Stryd Gwindy ddweud rhagor wrthych chi.
Hanfodion y Llwybr
- Pellter a pha mor anodd yw’r llwybr: Tua 2 filltir; taith gerdded hawdd ond mae llwybr Twtil yn gallu bod yn fwdlyd.
- Amser: Cynlluniwch hyd at 2 awr, mwy os byddwch chi’n mynd oddi ar y llwybr ac os byddwch chi’n tynnu lluniau.
- Man Cychwyn: Maes parcio Stryd y Senedd, cod post: LL18 5AL. Mae bysiau a rheilffyrdd lleol yn cysylltu drwy’r Rhyl.
I gael profiad hirach, ewch ar daith gerdded gylchol Rhuddlan–Bae Cinmel: llwybr gwastad 7.3 milltir hardd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, lonydd ar lan yr afon, a choetir sy’n cynnig golygfeydd godidog o Eryri.

Gerllaw
Eglwys Bodelwyddan – a elwir yn lleol yn ‘Yr Eglwys Farmor’, campwaith y diwygiad Gothig Fictoraidd.


Bryn Prestatyn a dechrau llwybr Clawdd Offa ac
Eglwys Gadeiriol Llanelwy – eglwys gadeiriol leiaf Prydain ond hefyd yr eglwys sy’n gartref i’r Beibl Cymraeg cyntaf erioed, lle mae gweddïau wedi cael eu cynnig bob dydd ers 1,450 o flynyddoedd.

Un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru. Eiddo rhestredig Gradd 1, sydd wedi bod yn gartref i’r Arglwydd Langford a’i deulu ers dros 500 o flynyddoedd. Mae’r neuadd yn llawn treftadaeth, mae ganddi ffasâd trawiadol ac mae wedi’i hamgylchynu â gerddi eang, parcdir a choetiroedd. Mae gan y teulu gasgliad helaeth, o Ogledd Cymru i’r Aifft Hynafol a thu hwnt, ac mae’r teithiau tywys yn cynnig profiad hollgynhwysol, sy’n datgloi cyfrinachau gorffennol cyfoethog.

Pam mae’n werth mynd ar hyd Llwybr y Dref
Swyn lleol: Mae caffis cyfeillgar a siopau annibynnol yn ychwanegu gwresogrwydd a chymeriad at y daith gerdded.
Cyfoeth o hanes dan draed: Mae dros 1,000 o flynyddoedd o hanes Cymru, Normanaidd, a hanes yr oesoedd canol yn dod ynghyd mewn un lle.
Golygfeydd anhygoel: O fynwentydd eglwysi hyfryd a phontydd hanesyddol i giât drawiadol y castell—mae pob lleoliad fel darlun ar gerdyn post.
Mae’n hygyrch i bawb: Llwybrau gwastad, byd natur a threftadaeth—i gyd ar gael hyd yn oed os ydych chi’n brin o amser neu egni.