Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Alyn Waters Country Park

Parc Gwledig Dyfroedd Alun

Dyma barc gwledig gyda llwybrau cerdded gwych, gwarchodfa natur a lle chwarae i blant. Hwn yw’r parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam ac mae wedi ei leoli yn harddwch Dyffryn Alun ac ar hyn o bryd yn safle achrededig Baner Werdd. Mae yna amrywiaeth o lwybrau cerdded, gan gynnwys llwybrau yn y goedwig, ar laswelltir ac ar lan yr afon, i’ch helpu chi archwilio’r parc.

Mae Afon Alun yn rhannu’r parc yn ddwy ran. Mae ochr Gwersyllt yn cynnwys maes parcio am ddim, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, siop anrhegion a thoiledau gyda chyfleusterau newid babanod. Mae gan y Ganolfan Ymwelwyr ystafelloedd cynadledda a chyfarfod llawn offer y gallwch eu llogi ac arddangosfa barhaol ar hanes a bywyd gwyllt y Parc.

Mae ochr Llai hefyd yn cynnwys maes parcio, ond mae yma hefyd le chwarae plant a Gwarchodfa Natur Leol. Ceir rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer plant ac oedolion drwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â rhaglen addysg ffurfiol i ysgolion a grwpiau.

Cysylltwch

Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Ffordd yr Wyddgrug, Gwersyllt, Wrexham LL11 4AG (LL12 0PU ar gyfer ochr Llai)

Delweddau