Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Bailey Hill Festival

Bryn y Beili

Mae Bryn y Beili yn gastell mwnt a beili, a’r gwaith cloddio helaeth yno wedi eu turio o esgair serth, rewlifol ar ben gogleddol bwrdeistref ganoloesol yr Wyddgrug. Mae bellach yn rhan o barc dinesig o’r 19eg ganrif, ac o ganlyniad bu gwaith addasu mawr ar y cloddio, er bod y ffurf gyffredinol i’w gweld yn glir.

Mae’r gofadail yn cynnwys mwnt mawr iawn gyda dau feili ochr yn ochr ar hyd y grib i’r de a thrydydd un posibl i’r gogledd. Mae’r mwnt yn codi i 12m uwchben y beili mewnol i gopa sydd tua 20m mewn diamedr, gyda chylch o arglawdd isel ysbeidiol allai fod yn cuddio gweddillion y muriau. Mae’r gofadail yn un bwysig yn genedlaethol oherwydd y gallai wella ein gwybodaeth am strwythurau amddiffynnol ac aneddiadau o’r canol oesoedd, ac mae’n debyg o fod yn llawn tystiolaeth o ddeunyddiau diwylliannol cysylltiedig. Roedd castell yr Wyddgrug yn safle pwysig ac yn ganolbwynt gweinyddol i Arglwyddiaeth y Mers, a’r cloddiau cymhleth ac arbennig yn dynodi’r statws hwn.

Cyfeirir ato gyntaf ym 1146, ac mae’n debyg ei fod yn dyddio i flynyddoedd cynnar concwest y Normaniaid, a chyfeiriadau diweddarach mewn dogfennau’n nodi fod sawl pennod o ddinistrio ac ailadeiladu wedi bod. Er gwaethaf tirlunio diweddarach, mae ardaloedd helaeth o’r safle o dan y ddaear ac mae yno botensial archeolegol sylweddol, a’r cofnod hanesyddol yn awgrymu y gallai fod sawl cyfnod o adeiladu gyda choed a cherrig.

Contact

Pwll Glas, Mold CH7 1RB