Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Nid clwb cyffredin ydi Clwb Pêl-droed Wrecsam. Fe’i sefydlwyd ym 1864, prin flwyddyn ar ôl i’r Gymdeithas Bel-droed gyfarfod am y tro cyntaf er mwyn ysgrifennu Rheolau’r Gêm, sy’n golygu mai Wrecsam yw’r trydydd clwb hynnaf yn y byd.

Dros y blynyddoedd mae’r clwb a’i gefnogwyr ffyddlon wedi profi’r gorfoledd o fuddugoliaethau, y rhwystredigaethau o foddi wrth y lan ac yur anobaith sy’n dilyn pob colled. Mae’r cefnogwyr wedi bloeddio cymeradwyaeth pob tro mae pêl yn taro cefn rhwyd y gwrthwynebwyr. Gyda’r tîm ar y blaen, mae’r cefnogwyr wedi bod ar bigau’r drain wrth gyfri’r eiliadau di-ddiwedd o amser sy’n cael ei ganiatáu am anafiadau cyn bloeddio ochenaid o ryddhad a gorfoledd ar y chwiban olaf. ‘Dyw’r cefnogwyr erioed wedi rhoi’r ffidil yn y to; hyd yn oed pan fod unrhyw obaith am fuddugoliaeth wedi hen fynd heibio.

Mae cefnogwyr Wrecsam wedi bod yn dyst i’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau sy’n gerrig filltir yn hanes pob clwb pêl-droed. Mae’r wefan yma yn nodi’r cerrig milltir yma ac yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am y digwyddiadau a hanes y clwb a’r Cae Ras.

Hanes

Contact