Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ffynnon Bueno Tea Hut, St Asaph

Cut Te Ffynnon Beuno

Dewch draw i fwynhau llonyddwch, heddwch a bwyd o safon yng Nghut Te Ffynnon Beuno. O’n cut bugail pwrpasol sydd wedi’i leoli ar flaen ein eiddo, gallwn gynnig ystod eang o fwydydd blasus. O gawl cartref a brechdan i datws pob gydag amrywiaeth o lenwadau poeth ac oer. Mae gennym stoc o gynnyrch gorau yng Nghymru megis hufen iâ Chilly Cow, porc peis a rholiau selsig JH Jones, creision safonol Jones, coffi Dwyfor a the Cymreig. Mae ein holl gwpanau a bowlenni untro yn bioddiraddiadwy ac yn cael eu compostio ar y safle fel rhan o’n ethos i leihau ôl-troed. Gallwch hefyd brynu amrywiaeth o gynnyrch arbennig sydd wedi’u creu yma yn Ffynnon Beuno – perffaith fel anrheg ar gyfer rhywun arbennig!

Beth am fwynhau eich bwyd wrth eistedd ar un o’n byrddau picnic, eistedd ger y nant neu gallwch logi hamper bicnic a mynd am dro drwy warchodfa natur Graig i fwynhau’r golygfeydd o’r copa.

Mae gennym drwydded i werthu alcohol ac rydym yn cynnal nosweithiau barbeciw rheolaidd dros yr haf, felly hoffwch ein tudalen Facebook i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf!

Cysylltwch

Bodfari Road, Tremeirchion LL17 0UE

Oriau agor

ORIAU'R GAEAF
Mae Cut Te Ffynnon Beuno ar agor o 11am – 3pm ar Ddydd Gwener AR GAU SADWRN I DDYDD IAU
ORIAU'R HAF
Mae Cut Te Ffynnon Beuno ar agor o 11am – 5pm o ddydd Gwener i ddydd Sul.

Delweddau