Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Pont Y Ddraig Harbour Bridge, Rhyl

Pont y Ddraig

Am ffordd i gau’r bwlch… agorwyd y bont wrthbwys newydd eiconig yn Harbwr y Rhyl yn hydref 2013.

Mae ei dau wely deciau 32 metr yn rhychwantu Afon Clwyd – nes bo cwch angen hwylio heibio. Maent yn codi i’r awyr fel pe bai trwy hud. Neu yn fwy cywir, diolch i bedwar pwmp hydrolig y tu mewn i’r tŵr canolog.

Mae’n flodyn mawr metel sy’n agor a chau. Mae’n sioe o beirianneg a fydd yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ac yn bwysicach fyth ar gyfer beicwyr a cherddwyr brwd, dyma’r ddolen goll sy’n cysylltu dau sector di-draffig o Lwybr Beicio Cenedlaethol 5. Rŵan gallwch reidio 15 milltir oddi ar y ffordd o draeth Barkby ym Mhrestatyn yr holl ffordd drwy’r Rhyl ac i Gonwy gerllaw. Cadwch lygad am gerddwyr ar eich ffordd dros y bont gan fod y bont hefyd yn cario Llwybr Arfordir Cymru.

Ar yr ochr arall, o haf 2014, fe welwch sgwâr cyhoeddus newydd, adeilad cei sy’n cynnwys caffi ac arddangosfa a chyfleusterau llawer gwell ar gyfer hwylwyr.

Oherwydd bod y Rhyl yn dal i fod yn harbwr gweithredol, bydd y cei estynedig, y llithrfa newydd a’r iard gychod yn ei gadw’n fwrlwm o fywyd ac yn creu canolbwynt ar gyfer y twyni a’r traethau cyfagos.

Heb os byddwch am ddod oddi ar eich beic a stopio i orffwys ac amsugno’r awyrgylch. Efallai y cewch eich temtio hyd yn oed i fynd ar drip pysgota mecryll, lledod, chwyrnwr, draenog y môr, morlas neu benfras. Wedi’r cyfan, gallech bob amser eu cario nhw adref.

Cysylltwch

Pont y Ddraig, Hortons Nose Lane, Y Rhyl

Delweddau