Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Woodland Skills Centre

Canolfan Sgiliau Coetir

Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetir wedi’i lleoli yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.

Mae gennym 50 acer o goetir gyda safleoedd Ysgol Coedwig parhaol, amrywiaeth o weithdai a dau adeilad fframiau pren gydag ystafell gyfarfod, canolfan adnoddau, cegin a thoiledau, inswleiddiad gwlân defaid, plastr calch, stôf goed a tho ffotofoltaidd, mae felly’n enghraifft wych o waith adeiladu cynaliadwy.

Rydym yn cynnal ystod o gyrsiau crefftau traddodiadol, cyrsiau byw yn y gwyllt, gwyliau teulu a chyrsiau ar gyfer grwpiau ieuenctid a chymunedol, yn ogystal â chyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar fel rhan o’n rhaglen iechyd a lles.

Warren Woods Ltd sy’n berchen ar y Ganolfan Sgiliau Coetir, cwmni dielw a menter gymdeithasol sy’n berchen i’r gymdeithas.

Contact

Canolfan Sgiliau Coetir, The Warren, Bodfari, Denbigh, LL16 4DT

Gallery