Gaeaf yn Rhuthun: Cymysgedd Hudolus o Hanes, Natur a Chynhesrwydd
Mae Rhuthun yn Sir Ddinbych, Gogledd Cymru yn dref marchnad ddymunol sy’n teimlo’n arbennig o hudolus yn y gaeaf. Mae’r strydoedd tawel, y toeau wedi’u gorchuddio ag eira a chorneli hanesyddol yn gwneud Rhuthun yn lle perffaith i arafu, crwydro a thretio’ch hun. Pa un a ydych chi’n hoff o hanes, cerdded neu eisiau ymlacio yn unig, mae gan Ruthun rywbeth i bawb. Mae’n amlwg bod y dref yn llawn hanes o edrych o’ch cwmpas ar ei phensaernïaeth amrywiol a hardd.
1. Ymlacio ac Ailgysylltu yn Sba Castell Rhuthun
Un o’r ffyrdd mwyaf moethus o dreulio diwrnod gaeafol yn Rhuthun yw drwy ymweld â Sba BAZAAR, sydd wedi’i leoli ar dir Gwesty Castell Rhuthun. Mae’r sba yn cynnwys tybiau poeth mewn coetir, cabanau thermol, ystafelloedd stêm ac ardaloedd therapi hamddenol.



- Beth am roi cynnig ar eu profiad coetir prynhawn sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r sba am 3 awr, cewch awr mewn twba poeth a the prynhawn hyfryd.
- Am drêt mwy, mae’r Diwrnod Sba Moethus yn cynnwys triniaeth 50 munud, triniaeth mwd (mud rasul), proseco, teisennau a chewch ddefnyddio ardal y sba i gyd.
- Yn ystod y nosweithiau oerach, mae’r pecyn ymlacio gyda’r nos yn arbennig o atmosfferig — stêm poeth, goleuadau tebyg i olau cannwyll ac awyr iach ffres y gaeaf y tu allan.
Nid pampro yn unig yw hyn – mae’n gyfle i adfer. Mae’n berffaith ar gyfer cyplau, teithwyr unigol neu ffrindiau sydd eisiau encil hamddenol.
Os ydych chi’n aros dros nos, dylech ystyried trefnu i aros yng Ngwesty Castell Rhuthun – am y naws yn ogystal â’r sba: waliau hanesyddol, gerddi’r castell a thanau braf. Maen nhw’n aml yn cynnig pecynnau gaeaf a Nadolig, fel y gallwch chi gyfuno ymlacio, cysur ac archwilio. Mae digon o leoedd eraill yn y dref i chi aros fel gwesty moethus y Manorhaus neu amrywiaeth o welyau a brecwast i dafarndai clyd. Os oes angen cymorth arnoch chi i archebu rhywle i aros, anfonwch neges at ein staff cyfeillgar yn y Ganolfan Groeso a byddan nhw’n fwy na pharod i’ch helpu chi.

2. Cerdded Bryniau’r Gaeaf: Moel Famau a Bryniau Clwyd
Mae gan Ruthun deithiau cerdded syfrdanol o hardd i’w cynnig yn ystod y gaeaf i unigolion sy’n hoff o natur. Mae Bryniau Clwyd, sy’n amgylchynu Rhuthun, yn disgleirio yng ngolau’r gaeaf, ac mae eira (os ydych chi’n lwcus) yn gwneud y bryniau hyd yn oed yn fwy prydferth.
- Taith Gylchol Moel Famau: Mae hwn yn llwybr cymedrol 5 km o hyd sydd â golygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt.
- Os ydych chi’n teimlo’n fwy anturus, gallwch chi ddewis teithiau cerdded hirach neu anoddach drwy Daith Clwyd, llwybr cerdded 122 milltir sy’n mynd drwy Ruthun.
Gall cerdded yn y gaeaf fod yn dawel ac yn gyfle i fyfyrio. Gwisgwch sawl haen o ddillad, dewch â fflasg Thermos gyda chi a threfnwch stopio mewn caffi clyd yn y dref ar ôl hynny.





3. Dysgu am Hanes Rhuthun
Mae Carchar Rhuthun yn hen garchar math Pentonville sydd wedi troi’n atyniad treftadaeth. Er nad yw ar agor ar gyfer ymweliadau dyddiol yn ystod y gaeaf, mae’r safle yn cynnal teithiau grŵp, nosweithiau paranormal a digwyddiadau arbennig.




Hyd yn oed os na ewch chi y tu mewn i’r adeilad, mae cerdded o gwmpas waliau’r hen garchar yn awyr iach ffres y gaeaf yn gallu teimlo’n atmosfferig – yn enwedig pan fo’r golau’n isel a chysgodion yn hir.






Mae Nantclwyd y Dre yn lle hanesyddol arbennig arall, ac mae’n un o’r tai â ffrâm bren hynaf yng Nghymru. Mae’r haenau o hanes y tu mewn—o ystafelloedd canoloesol i ysgoldai Fictoraidd—yn cynnig taith ddiddorol trwy amser. Mae’r safle ar gau ar gyfer ymweliadau dyddiol ond mae ar agor ar gyfer Dathliad Nadolig – Nadolig drwy’r oesoedd ar ddau benwythnos cyntaf mis Rhagfyr.

4. Celf a Chrefft a Siopa
Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn lle y mae’n rhaid i chi ymweld â hi. Mae’r ganolfan yn arddangos celfyddydau cymhwysol cyfoes — crochenwaith, tecstilau, gemwaith — ac mae ganddi oriel, gweithdai a chaffi.









Wrth grwydro o gwmpas y dref, cofiwch am y Llwybr Celf, sy’n cynnwys 10 “twll ysbïo” sydd â 22 o ffigurynnau cerfluniol wedi’u gosod mewn adeiladau, ar doeau ac ar furiau Rhuthun. Yn y gaeaf, mae’r strydoedd tawelach yn golygu ei bod yn fwy hudolus eu gweld nhw.
Mae gan Ruthun gyfoeth o siopau annibynnol ac un hudolus fel The Dreamatorium sy’n gwerthu llyfrau, addurniadau unigryw ac ysbrydoledig yn ogystal â chynnal gweithdai crefftau a gwerthu deunyddiau crefft.
5. Teithiau Cerdded Hardd a Llwybrau ar Lannau Afonydd
Y tu hwnt i’r bryniau, mae llwybrau cerdded hudol drwy goetiroedd ac ar lannau afonydd yn Rhuthun.
- Gallwch chi gerdded ar hyd Afon Clwyd sy’n cydgyfarfod ag Afon Clywedog, gan basio o dan furiau’r castell a thrwy ddyffrynnoedd tawel.

For a more rugged walk, head to Loggerheads Country Park, not far from Ruthin. The park features woodland valleys, cliff edges, and a historic mill — ideal for a winter ramble.
These walks are perfect for clearing the mind, watching winter wildlife, or simply soaking in the peace of the season
6. Discover Local Stories & Myths
Ruthin is full of legends. In St Peter’s Square, you’ll find Maen Huail, a historic stone linked to the legend of King Arthur beheading his foe Huail. It’s small but significant — and makes for a great photo spot, especially in the soft winter light.
Walking through the town, you’ll feel like you’re stepping through different eras — medieval, Victorian, and modern — all wrapped in history. If you would like to download the town trail for a more detailed history click here.
7. Enjoy Festive Cheer: Christmas Market & Events
If you visit in late November (29th) you’re in for a treat: Ruthin’s Christmas Extravaganza is an award Winning Artisan Market and one of the biggest handmade Christmas markets around, with stalls across historic venues.
Expect live music, festive food, craft stalls, and a community-driven festive spirit. It’s a wonderful way to support local makers, sip mulled wine, and soak up seasonal atmosphere.Mae’r teithiau cerdded hyn yn berffaith ar gyfer clirio’r meddwl, gwylio byd natur y gaeaf, neu ymgolli yn y tawelwch.
6. Darganfod Straeon a Hanesion Lleol
Mae Rhuthun yn llawn chwedlau. Yn Sgwâr San Pedr, mae Maen Huail, carreg hanesyddol sy’n gysylltiedig â chwedl y Brenin Arthur yn dienyddio ei elyn Huail. Mae’n fach ond yn bwysig ac mae’n lle gwych ar gyfer llun, yn enwedig yng ngolau mwyn y gaeaf.
Wrth gerdded drwy’r dref, byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n camu drwy wahanol oesoedd – canoloesol, Fictoraidd, a modern – sydd i gyd yn llawn hanes. Os hoffech chi lawrlwytho llwybr y dref i gael hanes mwy manwl cliciwch yma.
7. Mwynhau Hwyl yr Ŵyl: Digwyddiadau a Marchnad Nadolig
Os byddwch chi’n ymweld ddiwedd Tachwedd (29ain), ni chewch eich siomi: Mae Strafagansa Nadolig Rhuthun yn Farchnad Artisan sydd wedi ennill gwobrau ac mae’n un o’r marchnadoedd mwyaf sy’n gwerthu cynnyrch wedi’i wneud â llaw, sydd â stondinau ar draws lleoliadau hanesyddol.
Bydd cerddoriaeth fyw, bwyd Nadoligaidd, stondinau crefftau a digonedd o hwyl yr ŵyl yn rhan o’r digwyddiad. Mae’n ffordd wych o gefnogi gwneuthurwyr lleol, yfed gwin cynnes a mwynhau’r awyrgylch tymhorol.







8. Bwyd Da a Blasau Cymreig
Pan fyddwch chi’n barod am ychydig o fwyd, mae gan Ruthun ddewis hyfryd o gaffis, tafarndai a bwytai sy’n gweini bwyd lleol Cymreig.
- Cewch flasu prydau bwyd traddodiadol Cymreig.
- Cynhesu â siocled poeth neu baned o de mewn caffi hanesyddol.
- Ymweld â stondinau marchnad leol am fwyd artisan ac anrhegion wedi’u gwneud â llaw.
Awgrymiadau ar gyfer Ymweld yn y Gaeaf
- Gwisgwch yn gynnes: Byddwch chi’n cael mwy o fwynhad o’r teithiau cerdded os byddwch chi’n gwisgo haenau ychwanegol o ddillad, esgidiau sy’n dal dŵr a menig.
- Gwiriwch yr oriau agor: Efallai mai hyn a hyn o leoedd y bydd gan rai atyniadau fel Carchar Rhuthun a thai hanesyddol neu efallai bod angen archebu ymlaen llaw yn ystod y gaeaf i gael mynediad.
- Archebwch brofiadau’r sba ymlaen llaw: Gall penwythnosau yn ystod y gaeaf fod yn brysur yn sba Bazaar.
- Dewch â chamera: Mae haul isel y gaeaf, strydoedd rhewllyd a bryniau niwlog yn gwneud lluniau bendigedig.
- Byddwch yn barod am y tywydd: Gall cerdded drwy’r bryniau yn y gaeaf olygu llwybrau rhewllyd neu amodau gwyntog — gwiriwch y rhagolygon bob amser.