Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Llwybr Tref Rhuthun

Mae awdur a cyn-chadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Simon Jenkins, yn disgrifio Rhuthun fel “un o drefi bychain mwyaf swynol Cymru”. Wrth ddilyn llwybr cylchol y dref fe welwch pam ei fod yn dweud hynny.

Lawrlwythwch y llwybr

Pellter: 1.5 miles / 2.4 km
Pa mor anodd yw’r llwybr?: Mae rhai rhannau serth ac ar i fyny
Walking time: 90 munud
Start point: Maes parcio Cae Ddôl LL15 1HN
Cludiant cyhoeddus: Traveline Cymru 0800 464 0000,
Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol 03457 484950

Ruthin Town Trail map

Cae Ddôl

1

Cae Ddôl

Mae’n siŵr eich bod chi ar bigau drain eisiau dechrau’r llwybr hwn o amgylch un o drefi bychain mwyaf diddorol a phrydferth Cymru. Ond
peidiwch â rhuthro i ffwrdd eto. Mae Cae Ddol, y parc bach hyfryd y tu ôl i chi, yn werth ei weld. Ewch am dro ar lan yr Afon Clwyd wrth iddi ymdroelli drwy’r dolydd dwˆ r naturiol. Gwyliwch yr hwyaid a’r elyrch ar y llyn. Ac os oes gennych chi blant, ewch â nhw i’r iard chwarae neu’r parc sglefrio.

Yna, unwaith yr ydych yn barod, ewch ymlaen i Heol Clwyd o’r maes parcio a throwch i’r dde.

Ruthin Gaol

2

Carchar Rhuthun

Mae’r “Cyweirdy”, lle roedd y crwydriaid a’r di-waith yn cael eu rhoi ar waith wedi bodoli ar waelod Stryd Clwyd ers 1654. Adeiladwyd yr adain arddull-Pentonville a digroeso yng nghefn y cwrt ym 1868, a dyma’r unig un ym Mhrydain sydd ar agor i’r cyhoedd. Gallwch archwilio’r holl dyllau a holltau iasol, a chanfod beth oedd y carcharorion yn ei fwyta (grual, grual a mwy o rual) a chlywed am y cosbau a ddioddefwyd ganddynt sy’n siwˆ r o godi ias arnoch. Gallwch hyd yn oed gael cipolwg yng nghell y dyn a gondemniwyd os ydych yn ddigon dewr.

Trowch i’r dde i Upper Clwyd Street a pharatowch eich hunain am ddringfa byr a serth.

The Old Courthouse

3

Yr Hen Lys
Barn

O’ch blaen mae Hen Lys Barn godidog gyda hanner ohono wedi’w wneud allan o bren. Adeiladwyd y llys tua 1421 i gymryd lle yr adeilad a losgwyd i’r llawr gan yr ymladdwr rhyddid Cymreig Owain Glyndwˆ r. Tydi’r crocbren ar y talcen gorllewinol heb gael ei ddefnyddio mewn dicter ers i offeiriad Ffransisgaidd gael ei grogi ym 1674.

Y tu allan ac yn ymyl Banc Barclays mae carreg anferth o’r enw Maen Huail lle yn ôl y sôn roedd y Brenin Arthur, ac yn sicr nid oedd yn syniad da cythruddo’r gwˆ r hwn, wedi dienyddio gwˆ r arall a oedd yn cyd-gystadlu ag ef am gariad merch.

Nantclwyd y Dre

4

Nantclwyd y Dre

Mae Stryd y Castell yn llawn tai cyfnod ysblennydd. Y gorau o’r rhain yw Nantclwyd y Dre, y tyˆ tref pren hynaf yng Nghymru. O tua 1435, bu dan feddiannaethbarhaol am fwy na pum canrif – cafodd y portsh flaen eiconig ei ychwanegu gan Eubule Thelwell ym 1693. Mae’r saith ystafell wedi’u hatgyweirio’n rhagorol yn dweud hanes “Saith Oes” Nantclwyd a’r bobl oedd yn byw drwy’r oesau. Cofiwch fynd am dro hamddenol o amgylch Gardd yr Arglwydd, a grybwyllwyd am y tro cyntaf ym 1282, ac a fu unwaith yn berllan a gardd cegin ar gyfer Castell Rhuthun sydd drws nesaf.

Ruthin Castle Gateway

5

Porth Castell
Rhuthun

Mae mwy i Gastell Rhuthun na’r hyn a welir ar yr olwg gyntaf. Dim ond smalio bod yn ganoloesol mae’r adeilad tywodfaen coch enfawr. Cafodd ei adeiladu ym 1826 a’i ymestyn ym 1848-52 gan yr un pensaer, Henry Clutton a ddyluniodd y porth a’r porthdy hwn mewn arddull Gothig ysblennydd. Ond mae rhywbeth llawer hyˆn oddi tano. Mae’r castell gwreiddiol yn dyddio’n ôl cyn belled â 1277. Cerddwch drwy’r porth ar y tir sydd bellach yn westy moethus (maent yn fwy na hapus i chi gael gweld) a throwch i’r dde i archwilio’r adfeilion atgofus.

Ewch yn ôl rhan o’r ffordd i lawr Stryd y Castell a throwch i’r dde ar Stryd y Llys.

Ruthin Library

6

Llyfrgell Rhuthun

Peidiwch â chael eich twyllo gan ddiben diniwed presennol yr adeilad. Dyma’r trydydd adeilad ar ein taith sy’n gysylltiedig â throsedd a chosb. Adeiladwyd y tyˆ ym 1785 i gadw cofnodion Brawdlys Mawr, a daeth yn lys yn ei rinwedd ei hun a chafodd y cyntedd trawiadol gyda’r colofnau Dorig eu hychwanegu yn y 1860au. Y tro diwethaf i’r llys gyfarfod yma oedd ym 1974, ond parhaodd fel Llys Ynadon tan 1986. Erbyn hyn y ddedfryd waethaf sy’n cael ei rhoi yw dirwy am ddychwelyd llyfrau’r llyfrgell yn hwyr.

Trowch i’r dde ar ddiwedd Stryd y Llys – neu i’r chwith (heibio’r siop lle cafodd anthem genedlaethol Cymru ei hargraffu am y tro cyntaf ym 1860) i gwtogi’r daith.

Ruthin Craft Centre

7

Canolfan Grefft
Rhuthun

Ar ddiwedd Stryd y Ffynnon, croeswch drosodd i’r rhes o fythynnod rheilffordd brics coch i ddilyn Rhodfa’r Orsaf. Croeswch y gylchfan i mewn i Lôn Parcwr, trowch i’r chwith i mewn i faes parcio’r ganolfan grefftau a mynd i mewn trwy’r cwrt.

Canolfan Grefft Rhuthun yw’r oriel gelf gymhwysol bwysicaf yng Nghymru. Mae’r waliau cerrig a tho sinc drosto yn adlais o Fryniau Clwyd sydd yn eu hunain yn gelfyddydwaith. Y tu mewn mae tair oriel, stiwdios gwneuthurwyr, siop a chaffi yn ogystal â rhaglen brysur o sgyrsiau, digwyddiadau a gweithdai. Felly, os ydych wedi’ch ysbrydoli gan y grefft, gallwch ddod yn ôl a gwneud crefft eich hun.
www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

Town and Market Halls

8

Neuadd y
Dref a Neuadd
y Farchnad

Gadewch y ganolfan grefftau drwy’r drws ffrynt, croeswch y brif ffordd i mewn i Troed y Rhiw a throi i’r dde ar Stryd y Farchnad.

Tan 1991 byddai ffermwyr lleol yn dod i’r dref ar gyfer marchnad da byw lle mae maes parcio Stryd y Farchnad bellach yn sefyll. Erbyn hyn maent yn cyfarfod y tu allan i’r dref. Ond gyferbyn mae Neuadd y Farchnad (sydd dan do) ac yn dal i fod ar agor rhan fwyaf o’r wythnos yn gwerthu celf, crefftau a chynnyrch lleol, gan gynnwys wyau buarth, porc cartref, jamiau, cyffeithiau a chacennau. Mae Neuadd y Farchnad a Neuadd y Dref yn enghreifftiau gwych o adeilad dinesig yn yr arddull Gothig Fictoraidd.

St Peter’s Church

9

Eglwys Sant Pedr

Yn Sgwâr Sant Pedr, trowch i’r dde heibio’r Myddelton Arms sy’n deillio o’r 17eg ganrif gyda’i ffenestri dormer a elwir yn “Saith Llygad Rhuthun”. Ewch drwy’r giatiau haearn gyr gwych a wnaed gan y brodyr Davies ym 1727, ac i mewn i’r fynwent â chi.

Adeiladwyd Eglwys Sant Pedr yn 1310, ac mae’n un o eglwysi nodweddiadol Sir Ddinbych sydd â dau gorff adeiladol yn perthyn iddo. Ychwanegwyd y toeau pren hyfryd sydd wedi’u haddurno yn gynnar yn y 16eg ganrif, ond codwyd y meindwr tal, sy’n ymddangos i’ch ddilyn chi wrth i chi gerdded o amgylch y dref, o ganlyniad i “adferiad” Fictoraidd. Mewn cornel dawel ger yr eglwys fe ddowch o hyd i’r elusendai a waddolwyd gan Gabriel Goodman ym 1590.

Tom Pryce Memorial

10

Coflech
Tom Pryce

Mae pawb yn hoffi clywed stori am fachgen lleol yn gwneud yn dda iddo’i hun – yn enwedig rhywun sydd byth yn anghofio’i wreiddiau. Roedd Rhuthun yng ngwythiennau Thomas Maldwyn Pryce. Un o’r gyrwyr rasio mwyaf talentog ei genhedlaeth, a chafodd ei ladd mewn ras pan redodd marshal diogelwch o flaen ei gar ym 1977 yn y Grand Prix yn Ne Affrica. Roedd Tom yn 27 mlwydd oed pan laddwyd ef. Cafodd y cerfwedd efydd gwych gan y cerflunydd lleol Neil Dalrymple ei ddadorchuddio ar 11 Mehefin 2009. Byddai wedi bod yn ben-blwydd ar Tom yn 60 oed.

Trowch i’r chwith i Mill Street gyferbyn â Charchar Rhuthun, cerddwch heibio’r felin o’r 13eg ganrif a throwch i’r dde wrth y pyst i ddychwelyd i faes parcio Cae Ddôl.