Anturiaethau’r hydref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Tirweddau euraidd, treftadaeth gyfoethog a blasau lleol
Pan fo’r bryniau’n troi’n gopr ac yn aur, y coetiroedd yn frith o ddail crensiog a’r nosweithiau’n eich denu i gaffi neu dafarn groesawgar, daw Gogledd Ddwyrain Cymru i’w anterth. O deithiau cerdded hamddenol drwy’r goedwig a golygfannau dan awyr eang i gestyll llawn awyrgylch, anturiaethau ar lan y gamlas a bwyd tymhorol, mae digon o ffyrdd i fwynhau gwyliau hydrefol adfywiol.
Cerddwch drwy liwiau tanbaid
Gwisgwch eich esgidiau cerdded a dilynwch y tymor i’r coed. Mae Parc Gwledig Loggerheads ger yr Wyddgrug yn lle perffaith am dro yn yr hydref, gyda llwybrau coediog, tirwedd galchfaen a dewisiadau i wahanol alluoedd. Am daith dawelach drwy’r goedwig, ewch i Goed Clocaenog, lle mae coed conwydd, hen goed derw, mwsogl a dail wedi cwympo yn creu awyrgylch hynod heddychlon. Os yw’n well gennych olygfeydd agored, dewiswch ran addas o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Lwybr Clawdd Offa, a gwyliwch y golau cyfnewidiol yn symud dros y bryniau.

Ewch am dro ar hyd llwybr y gamlas
Daw llonyddwch arbennig i Gamlas Llangollen yn yr hydref. Ewch am dro wrth ymyl y dŵr o Langollen, gwyliwch yr adlewyrchiadau dan y coed sy’n hongian dros y lan, neu ymwelwch â Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte i fwynhau un o olygfeydd mwyaf cofiadwy’r rhanbarth. O amgylch y Waun, mae’r gamlas, y draphont ddŵr a’r draphont reilffordd yn greu golygfa drawiadol, ac mae llwybrau cyfagos yn cynnig cyfleoedd hawdd i ymestyn eich diwrnod yn yr awyr agored. Cadwch blant yn agos a byddwch yn arbennig o ofalus wrth ymyl dŵr ac ar groesfannau agored.
Camwch i mewn i ganrifoedd o straeon
Mae diwrnod oerach neu law mân yn esgus perffaith i ddarganfod treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. Crwydrwch strydoedd canoloesol Rhuthun a darganfod straeon Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre. Dringwch i Gastell Dinbych am olygfeydd eang, ewch am dro ymhlith adfeilion Castell Dinas Brân uwchben Llangollen, neu dreuliwch amser yng Nghastell y Waun ac Erddig ger Wrecsam. Mae amseroedd agor tymhorol yn amrywio, felly gwiriwch yn uniongyrchol â phob lleoliad cyn cychwyn.

Manteisiwch ar ddiwrnodau niwlog
Mae tywydd yr hydref yn rhan o’r antur. Ar ddiwrnodau gwlypach, porwch siopau annibynnol yn yr Wyddgrug, Rhuthun, Llangollen neu Wrecsam, ymwelwch ag amgueddfa neu oriel, a mwynhewch berfformiad theatr. Gall teuluoedd gadw llygad am lwybrau hanner tymor, sesiynau crefft, gweithgareddau Calan Gaeaf a digwyddiadau treftadaeth. Mae’r rhaglenni’n newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae’n werth gwirio rhestrau lleol ychydig cyn eich ymweliad.
Dyma rhai pethau sydd yn digwydd yn lleol.
| Llwybr Calan Gaeaf Brawychus yng Nghastell Dinbych Dyddiad ac Amser: 31 Hydref 2026, 10:00yb – 4:00yp Lleoliad: Castle Hill, Dinbych, Sir Ddinbych, LL16 3NB Disgrifiad: Llwybr Calan Gaeaf arswydus sy’n addas i’r teulu cyfan, crefftau iasoer, paentio wynebau gan Stardust Face Painting, a gwobrau siocled (tra bo stoc ar gael). Anogir pawb i wisgo gwisgoedd. |
| Geeks & Treats: Y Dial – Anghenfilod, Chwedlau a Chynnwrf Dyddiad ac Amser: 31 Hydref 2026, 11:00yb – 4:00yp Lleoliad: Marchnad y Frenhines, Y Rhyl, Sir Ddinbych Disgrifiad: Gorymdaith gwisgoedd am 2:00yp, llwybr tric-neu-drît, gemau thematig, cyfleoedd ffotograffig brawychus, a masnachwyr gemau bwrdd. Cost: £2 y plentyn (£1 yn unig os ydych mewn gwisg) Hefyd ar ddydd Sul 25 Hydref Hocus Pocus – Mae’r Gwrachod yn Ôl Sioe ffilm Calan Gaeaf ysblennydd i’r teulu cyfan. Gwobrau am y Gwisgoedd Calan Gaeaf Gorau O 4:00yp ymlaen |
| Pwmpenni Moel Famau Llain bwmpenni wych sy’n cael ei rhedeg gan deulu ac sydd wedi’i lleoli ar lethrau hardd Moel Famau. Gallwch dynnu’r pwmpenni’n syth o’r planhigion eich hun. Mae amrywiaeth enfawr o siapiau a lliwiau ar gael, ynghyd â gemau gardd hwyliog a chacennau pwmpen cartref blasus. Da gwybod: Ar agor ar benwythnosau yn unig yn ystod mis Hydref; ni chaniateir cŵn ar y llain. Llwybr Brawychus Newydd a Dychweliad After Dark! Ar agor ar gyfer tymor Calan Gaeaf ddydd Iau 29 Hydref, dydd Gwener 30 Hydref a dydd Sadwrn 31 Hydref, gyda llwybr newydd sbon sy’n addas i deuluoedd ac wedi’i thema ar Galan Gaeaf, ynghyd ag oriau agor hwyr tan 8:00yh (mynediad olaf am 7:00yh) ar gyfer yr ymwelwyr dewr hynny sydd am fynd ar hyd y llwybr yng ngolau torch. |
| Calan Gaeaf gyda’r Hwyr – Castell y Waun Dyddiad ac Amser: 31 Hydref, 6:00yh – 8:00yh Ydych chi’n ddigon dewr i gamu i mewn i Gastell y Waun ar ôl iddi nosi? Profiad trochi unigryw y tu allan i oriau arferol sy’n dathlu llên gwerin a thraddodiadau Cymru, gyda mymryn o hud Calan Gaeaf. Mae Calan Gaeaf, sy’n golygu “Diwrnod Cyntaf y Gaeaf”, yn nodi dechrau hanner tywyllach y flwyddyn, cyfnod pan gredid fod y ffin rhwng byd y byw a byd yr ysbrydion yn teneuo. Wrth i’r nos ddisgyn, mentrwch o Home Farm i’r castell, gan archwilio rhai o fannau mwyaf atmosfferig a dirgel Castell y Waun. Rhwng 6:00yh ac 8:00yh, byddwch yn cwrdd â chymeriadau chwedlonol o fytholeg a llên gwerin Cymru, gan gynnwys Puck, y Ddynes Wen, yr Hwch Ddu Gwta, a llu o dylwyth teg direidus sy’n gallu newid eu ffurf. O amgylch pob cornel, disgwyliwch yr annisgwyl wrth i berfformwyr proffesiynol, goleuadau awyrgylch a seinweddau trochi ddod â hen chwedlau yn fyw. Yn iasol, yn drochiol ac yn llawn syrpreisys, mae hwn yn brofiad hollol unigryw. Bydd Caffi’r Cwrt ar agor drwy gydol y noson yn gweini amrywiaeth o fwyd a diod, a bydd Siop y Cwrt hefyd ar agor i ymwelwyr. Anogir gwisgo gwisgoedd a chymryd rhan yn ysbryd Calan Gaeaf. |
| Trên Calan Gaeaf ar Reilffordd Llangollen Dyddiad ac Amser: 31 Hydref 2026 Lleoliad: Yr Orsaf, Abbey Road, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 8SN Taith trên arbennig gyda’r nos yn llawn digwyddiadau ysbrydol ac ambell syndod brawychus ar hyd y lein. Profiad Calan Gaeaf cyffrous i’r teulu cyfan. |
| Siop Fferm Swans, Treuddyn Caeau casglu pwmpenni eich hun (Pick Your Own). Ar agor ar ddyddiadau amrywiol drwy gydol mis Hydref.Mae cŵn yn cael dod i’r safle. |


Taste the season
After a walk, reward yourself with the flavours of the borderlands. Warm up over soup, Welsh rarebit or a Sunday lBlaswch y tymor
Ar ôl taith gerdded, mwynhewch flasau’r gororau. Cynheswch gyda chawl, caws pob Cymreig neu ginio dydd Sul; chwiliwch am gawsiau, bara, cyffeithiau a diodydd crefft lleol; ac ewch i siopau fferm, marchnadoedd a chaffis annibynnol. Yn aml, mae bwydlenni’r hydref yn gwneud y gorau o ffrwythau’r berllan, gwreiddlysiau a chynnyrch tymhorol arall—tanwydd delfrydol ar gyfer eich antur nesaf.
Cynlluniwch ddiwrnod allan yn yr hydref
- Gwiriwch ragolygon y tywydd, oriau golau dydd, amseroedd agor a manylion digwyddiadau cyn teithio.
- Gwisgwch haenau diddos ac esgidiau cadarn; gall llwybrau fod yn wlyb, yn fwdlyd neu’n llithrig.
- Dewiswch lwybr sy’n addas i’ch grŵp ac ewch â map, dŵr a ffôn wedi’i wefru.
- Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo’n ymarferol, a chefnogwch gaffis, siopau ac atyniadau lleol.
- Peidiwch â gadael unrhyw ôl, cadwch gŵn dan reolaeth a dilynwch y Cod Cefn Gwlad.
Barod i grwydro? Gwisgwch yn gynnes, cymerwch eich amser a gadewch i Ogledd Ddwyrain Cymru eich synnu. Boed i chi ddod am dro drwy’r goedwig, diwrnod allan i’r teulu, blas ar gynnyrch lleol neu benwythnos o hanes ac antur, mae’r hydref yn cynnig ffordd dawelach—ac eithriadol o liwgar—o brofi’r rhanbarth
Lluniau gan DCC, Swans Farm Shop a Moel Fammau Pumpkins