Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Arddangosfa Gelf Dyffryn Dyfrdwy’n dod i Langollen

Mae arddangosfa newydd gyffrous yn agor yn Oriel Dory yn Llangollen ym mis Medi, sy’n eich gwahodd i gymryd golwg o’r newydd ar Ddyffryn Dyfrdwy a’r gweithiau celf mae’n eu hysbrydoli.

Mae tirlun Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i arlunwyr, beirdd a thwristiaid am ganrifoedd, yn eu denu i’r ardal ar hynt y golygfeydd godidog. Daeth yn ganolbwynt i weithgarwch artistig yn y 18fed ganrif; wedi’i ddarlunio ar gynfas gan arlunwyr enwog fel Richard Wilson, Paul Sandby a JMW Turner, ac wedi’i ddisgrifio’n hyfryd gan lenorion a beirdd yn cynnwys George Borrow, Thomas Pennant a William Wordsworth.

Yn dilyn y traddodiad hwn, mae prosiect Ein Tirlun Darluniadwy *  yn falch o gyflwyno arddangosfa o dros 60 o weithiau celf cyfoes sydd wedi’u hysbrydoli gan olygfeydd godidog Dyffryn Dyfrdwy.

Trwy luniau paent, cerddi, gosodiadau, ffotograffau, darluniau, tecstilau a hyd yn oed cardiau myriorama wedi’u comisiynu’n ofalus, bydd yr arddangosfa’n edrych ar ein cysylltiadau â’r tirlun, ac yn amlygu’r cydbwysedd unigryw rhwng harddwch naturiol arbennig a threftadaeth ddiwydiannol bwysig yr ardal.

Bydd yr arddangosfa ar agor yn Oriel Dory o ddydd Sadwrn 16 Medi tan ddydd Sul 8 Hydref 2023, a bydd yno hefyd raglen lawn o ddigwyddiadau, gweithdai celf a gweithgareddau i’r teulu. Am  fyw o manylion diweddaraf, ewch i: www.ahnebryniauclwydadyffryndyfrdwy.org.uk

Mae’r arddangosfa’n rhan o’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth prosiect Ein Tirlun Darluniadwy; “Mae treftadaeth artistig gref yn Nyffryn Dyfrdwy, ac mae golygfeydd godidog yr ardal yn parhau i ysbrydoli pobl greadigol heddiw. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ddathlu’r gweithiau celf arbennig ac amrywiol sydd wedi’u creu drwy brosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a’u rhannu nhw gyda’r gymuned trwy raglen o ddigwyddiadau rhyngweithiol, am ddim.  Rydyn ni’n ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am y cyllid o £1,382,400 sydd wedi ein galluogi i wneud y prosiect a threfnu’r arddangosfa hon.”

Horseshoe Falls near Llangollen
Horseshoe Falls near Llangollen

*Mae Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy yn canolbwyntio ar dirlun Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema o deithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn nodwedd yn yr ardal y mae’r gamlas, A5 Telford ac Afon Dyfrdwy yn torri ar ei thraws. Mae ymwelwyr wedi cael eu hysbrydoli gan y dyffryn hyfryd hwn i greu celf a barddoniaeth ers y ddeunawfed ganrif, ac mae’n parhau i ddenu twristiaid sy’n chwilio am olygfeydd godidog.

Dinas Brân Castle, Llangollen
Castell Dinas Bran 

Mae’r ardal hon o dan bwysau mawr, gyda nifer uchel o ymwelwyr yn cael eu denu at safleoedd sydd yn aml yn rhai bregus iawn. Mae’r cymunedau cyfagos, a ddatblygodd yn sgil y diwydiant a’i lluniodd, bellach yn pellhau oddi wrth y manteision mae’r tirlun yn eu cynnig. Dros bum mlynedd, bydd y prosiect yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn y gwaith o’i reoli a’i werthfawrogi, wrth ail-ddehongli’r ardal gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae prosiectau wedi cael eu datblygu o dan 3 thema – Gwarchod y Tirlun Hardd, Cael Mynediad at y Tirlun Hardd, Pobl a’r Tirlun Hardd.

Ariennir Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Prosiect partneriaeth yw hwn, a ddatblygwyd ar y cyd gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Swydd Amwythig, Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadw, Cadwyn Clwyd, Aqueducks (Cyfeillion Safle Treftadaeth y Byd) a Chyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.