Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Tocyn tymor newydd ar gyfer yr ardd yn Nant Clwyd Y Dre

Yr wythnos hon rydym yn sgwrsio â Kate, rheolwr newydd Nantclwyd y Dre, un o’n hatyniadau treftadaeth mwyaf diddorol.

Mae Nantclwyd y Dre yn cynnig cyfle unigryw i archwilio mwy na 500 mlynedd o hanes, o’r cyfnod canoloesol i’r 20fed ganrif. Camwch drwy saith oes y tŷ rhestredig Gradd I hwn, sydd wedi’i adnewyddu’n hyfryd, wrth iddo ddatgelu bywydau ei breswylwyr drwy’r canrifoedd. Dechreuwch eich taith ym 1435 a dysgu am sut yr tyfodd yr adeilad o fod yn dŷ gwehydd i fod yn dŷ tref cyfreithiwr o’r 17eg ganrif ac yn ddiweddarach yn ysgol Fictoraidd i ferched ifanc. Y tu allan i’r tŷ mae Gardd yr Arglwydd yn llecyn gwyrdd hyfryd yng nghanol Rhuthun. Mae ganddynt gamera ystlumod sy’n rhoi cyfle gwych i weld y glwyd arbennig o ystlumod pedol lleiaf, ystlumod hirglust ac ystlumod lleiaf. Mae’r siop anrhegion yn llawn cynnyrch gan gynhyrchwyr lleol, yn cynnwys dewis o jamiau a siytni wedi’u gwneud gyda ffrwythau wedi’u cynaeafu o Ardd yr Arglwydd. Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn lleoliad unigryw ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil neu i adnewyddu addunedau priodas.

Nantclwyd y Dre House and the Lord’s Gardens

Dechreuodd Kate yn ei swydd newydd ym mis Awst 2022 ac roedd ganddi lawer o fentrau cyffrous i sôn amdanynt. Wrth i ni gyrraedd roedd Gweithdy Gwydr Lliw newydd ddarfod ac roedd y dosbarth wedi cynhyrchu darnau hyfryd mewn cyfnod byr iawn o amser. Dywedodd Kate ei bod yn trefnu un arall ar gyfer mis Medi felly cadwch lygad ar sianelau cyfryngau cymdeithasol Nantclwyd y Dre os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno.

Yn gyntaf, y tocyn tymor newydd ar gyfer yr ardd  – mae’n £10 ar gyfer oedolion, £6 i gonsesiynau a £15.00 i deulu am y tymor sy’n golygu y gallech fwynhau’r gerddi pryd bynnag y mynnwch yn ystod oriau agor. Mae hyn yn werth da iawn am arian ac yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a fyddai’n gallu dod am bicnic, neu yn wir gallai unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn yr ardal ddod i eistedd neu i fwyta eu cinio yma ymysg y blodau hardd a mwynhau’r heddwch. Mae’r ardd yn wirioneddol fendigedig gydag ymdeimlad heddychlon braf oherwydd bod wal o’i chwmpas sy’n gwneud y lle oddi mewn, lle ceir golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd, yn dawel a di-gynnwrf.

Mae Diwrnod Natur Bioamrywiaeth wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sul, 30 Gorffennaf sy’n sicr o fod yn orlawn o weithgareddau i’r teulu yn ogystal â 30 o stondinau.  Am fwy o wybodaeth ewch i’w tudalen Facebook yma.

 

Eglurodd Kate hefyd am y bartneriaeth sydd wedi’i datblygu gyda Chastell Rhuthun gerllaw i gynnig gwyliau treftadaeth tan ddiwedd mis Awst.  Gallwch aros yn y castell a chael mynediad am ddim i Nantclwyd y Dre neu Garchar Rhuthun.

Ar y cyd â Chyfeillion Nantclwyd y Dre a Jill Britten o Gwlangollen bydd cyfres o arddangosiadau yn yr ardd yn ystod misoedd yr haf. Bydd y rhain wedi’u cynnwys yn y pris mynediad i’r ardd a byddant ar y thema clytio a thrwsio yn lle gwario fel y mwg. Gan hyrwyddo cynaliadwyedd a hefyd gan adlewyrchu hanes y tŷ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gall ymwelwyr wylio a cymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â thecstilau a garddio i ddysgu am ffyrdd gwahanol o ailddefnyddio eitemau a fyddent fel arall yn mynd i safle tirlenwi.

Gall ymwelwyr iau fod yn “Archwilwyr Ifanc” gyda llwybrau a bagiau benthyg wedi’u dylunio’n arbennig i’w helpu i ddysgu mwy am hanes a natur Nantclwyd y Dre.

Yn olaf, dywedodd Kate wrthym am eu cais llwyddiannus am gyllid Treftadaeth y Loteri a fydd yn mynd tuag at fodelau a gwisgoedd newydd a sain arbennig i helpu i drochi’r ymwelydd yn ddyfnach byth yn hanes y tŷ.

Nantclwyd y Dre, Ruthin
Nantclwyd y Dre, Ruthin

Mae Nantclwyd y Dre ar agor ar ddydd Iau, Gwener a Sadwrn.  Prisiau tocynnau yw £7 i oedolyn, £6 i gonsesiynau ac £20 i deulu. Mae tocynnau ar gyfer yr ardd yn unig yn £3 i oedolion a £2 i blant neu gellir defnyddio’r tocyn tymor ar gyfer ymweld a’r ardd.