Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru 2023

Mae Treialon Cenedlaethol Cŵn Defaid Cymru 2023 yn dod i Lysfasi ar 10, 11 a 12 Awst 2023.

Cynhelir Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru bob Haf, gyda hyd at 150 o gŵn yn cystadlu i ennill un o 15 lle ar dîm Cymru i gystadlu yn erbyn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn y Treial Cŵn Defaid Rhyngwladol ym mis Medi.

Bydd treialon 2023 yn cael eu cynnal gan Goleg Llysfasi ac mae’r Pwyllgor Lleol, sy’n cynnwys trinwyr cŵn defaid lleol a chefnogwyr brwd, wedi bod yn cynllunio, trefnu digwyddiadau i godi arian ar gyfer y treialon.  Bydd y digwyddiad cyfan yn cael ei ariannu gan y Pwyllgor a dechreuwyd codi arian gyda gêm rygbi elusennol poblogaidd iawn ym mis Mai 2022 a gododd dros £5000 a’r gobaith yw y bydd yn ddigwyddiad blynyddol. Maent hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyllid ar ffurf grant gan Ffermydd Gwynt Clocaenog sydd wedi bod yn help enfawr wrth ganiatáu iddynt gyrraedd eu targed codi arian.

Mae sesiynau hyfforddi cŵn defaid hefyd ar gael i fyfyrwyr sy’n mynychu Coleg Llysfasi gyda’r prif  rai sy’n  rhedeg cŵn defaid – cyn-enillydd cenedlaethol a chyn-fyfyriwr Llysfasi, Arwyn Davies a mab Llywydd Cenedlaethol Cymru ac aelod o dîm treialon y Byd Cymru, Gethin Jones.

Mae’r digwyddiad yn un i bawb ei fwynhau. Yn annog y gymuned leol i ddod i gefnogi’r rhai sy’n rhedeg y cŵn, yn ogystal ag ymwelwyr â’r ardal sy’n gallu edmygu harddwch Dyffryn Clwyd. Mae’n gyfle unigryw i gael profiad o’r treialon sydd yn un o ddigwyddiadau  hanesyddol ein gwlad yn cael ei ddangos ar ei gorau, ac sy’n dal yn hanfodol i’r rhan fwyaf o ffermwyr yn eu bywydau bob dydd wrth weithio yn y diwydiant defaid. Gall teuluoedd fwynhau diwrnod llawn gyda bwyd, bar, fan hufen iâ a dros 30 o stondinau masnach.

Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth:

Instagram: @welshnationalsheepdogtrial2023

Facebook: @welshnational2023

Wefan: www.welshnationalsheepdogtrials.org.uk

 

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ysgrifennydd Lleol – Grace Baldry-Roberts ar 07780 986912 neu e-bostiwch.