Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Farchnad Artisan Rhuthun

Yr wythnos hon, aethom i Farchnad Artisan Rhuthun yn Neuadd y Dref a sgwrsio gydag un o’r prif drefnwyr, Bernadette O’Malley. Mae Bernadette yn Wyddeles a chafodd ei magu ar arfordir Gorllewin Iwerddon cyn symud i Lundain. Symudodd i Rhuthun gyda’i gŵr a’i merch ym mis Chwefror 2011.

 

Felly, Bernadette, beth wnaeth i chi ddechrau ymwneud â’r marchnadoedd artisan?

Ar ôl siarad gyda nifer o grwpiau yn Rhuthun am yr angen/awydd am farchnadoedd rheolaidd, ar ôl i’r marchnadoedd canoloesol ddechrau cael eu cynnal yn llai aml, ond doedd neb fel pe baent am gymryd y gwaith ychwanegol gan fod pawb yn rhy brysur yn barod. Yn 2019, penderfynais roi cynnig ar drefnu marchnad Nadolig gydag un o’r grwpiau lleol i weld beth yn union oedd y gwaith a pha mor llwyddiannus y gallai fod, gweithiodd pethau’n dda iawn ac roedd yn llawer o hwyl felly penderfynais fynd amdani.

Sut mae’r farchnad wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar?

Dechreuodd y farchnad gyntaf gyda 36 o stondinau a thyfodd yn gyflym i bron 70 o stondinau ym mhob digwyddiad ac rydym yn gweithio gyda Chyngor Tref Treffynnon bellach hefyd i gynnal marchnadoedd dros dro ar gyfer eu digwyddiadau mwy. Rwyf wrthi’n dechrau un yng Nghorwen hefyd. Yn ogystal, cawsom ein contractio gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn 2022 i gymryd rheolaeth dros Neuadd Marchnad Rhuthun. Rydym yn ei rhedeg yn annibynnol bellach o 8-4 o ddydd Iau i ddydd Sadwrn bob wythnos ac rydym yn cynnal digwyddiadau gyda’r nos hefyd gan gynnwys Sioe Drag Cabaret ar 23 Gorffennaf a Beatles Complete ar 11 Awst.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer dyfodol y farchnad?

Rydym yn gweithio gyda CSDd ar hyn o bryd i gymryd Neuadd y Dref Rhuthun a fydd yn cael ei throi’n Ganolbwynt Cymunedol i bobl o bob oedran a gallu. Y bwriad yw gweithredu cynllun Symudedd Siopau, lle gall pobl logi offer cymorth cerdded, o Sgwteri i faglau ac ati. Rydym hefyd yn bwriadu creu toiled Lleoedd Newid, sef toiled mwy i bobl anabl sy’n rhoi lle i lanhau hefyd.

Rydym am ddefnyddio’r llawr uchaf gwych sy’n cynnwys llawr dawnsio trwy gynnal digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau amrywiol eraill i bobl o bob oed. Rydym yn gobeithio cynnal clwb ar ôl ysgol ar y cyd â’r un a gynhelir gan y Tîm Ieuenctid a’r un newydd yn Eglwys Sant Pedr fel bod gan bobl ifanc fwy i’w wneud. Gobeithiwn gynnal cyfarfodydd Sefydliad y Merched, grwpiau Babis, grwpiau Cefnogaeth Dementia a bod yn gartref i Gôr Cyfeillgar i Ddementia Rhuthun, ymhlith pethau eraill!

Os bydd rhywun am gymryd rhan, sut mae modd cysylltu â chi?

Byddem yn gwerthfawrogi help gan unrhyw un sydd ag amser neu allu i helpu. Mae angen gwirfoddolwyr arnom ar gyfer ein cynlluniau mawr ar gyfer Neuadd y Dref, ond hyd yn oed unwaith y mis, byddai help gyda’n marchnad artisan yn wych, gyda gosod y lle, tacluso a bod yn farsial. Mae angen help arnom ar gyfer ein Strafagansa’r Nadolig ar 25 Tachwedd gan ein bod yn trefnu nifer o weithgareddau ar draws y dref, gan gynnwys groto Sion Corn am ddim a Bws Chwarae (chwarae meddal). Gall unrhyw un a hoffai helpu alw heibio Neuadd y Farchnad o ddydd Iau i ddydd Sadwrn neu anfon e-bost atom ar ruthin@artisanmarkets.wales

 

A oes unrhyw ddigwyddiadau arbennig y dylem wybod amdanynt dros y misoedd sydd i ddod?

 

  • Marchnad Artisan, dydd Sadwrn 29 Gorffennaf, 10-3.30, Ffordd Wynnstay, cefn Neuadd y Farchnad

 

 

  • Gŵyl Bwyd a Diod Rhuthun yng Ngharchar Rhuthun, 27 Awst (dydd Sul) 10-3.30

 

  • Marchnad Artisan, dydd Sadwrn 30 Medi, 10-3.30, Ffordd Wynnstay, cefn Neuadd y Farchnad

 

  • Marchnad Calan Gaeaf, dydd Sadwrn 28 Hydref, 10-3.30, Ffordd Wynnstay, cefn Neuadd y Farchnad

 

  • Strafagansa’r Nadolig, dydd Sadwrn 25 Tachwedd, 10-3.30    Neuadd y Farchnad, Eglwys Sant Pedr, Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre, Yr Hen Lys a mwy!

 

 

Mae llawer o gynlluniau cyffrous ganddynt. Mae Marchnadoedd Artisan Rhuthun yn cael eu cynnal bob wythnos yn Neuadd Marchnad Rhuthun, marchnad hanesyddol yng nghanol tref Rhuthun, Gogledd Ddwyrain Cymru. Cafodd Neuadd y Farchnad ei hadeiladu yn y 14eg ganrif ac mae wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd ers hynny. Mae Neuadd y Farchnad yn rhoi croeso cynnes i bobl ac mae’n addo profiad llawn mwynhad. Mae amrywiaeth eang o stondinau i’w harchwilio ac mae pob un yn cynnig rhywbeth unigryw.

Maen nhw ar agor ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn. Mae’r Caffi ar agor rhwng 8am a 4pm. Mae’r Farchnad ar agor rhwng 9am a 4pm.  Gallwch eu dilyn ar Facebook a chael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddigwyddiadau cyffrous sy’n cael eu cynnal yno.