Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Coed Clocaenog

Dyma ein taith olaf gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.  Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o’r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn Coed Clocaenog.

Yn sydyn – distawrwydd di-dor. Persawr nodwyddau a mwsogl yn dew, a’r awel ysgafnaf yn cusanu croen gwlyb. O’r man hwn – y pwynt uchaf yng Nghoed Clocaenog – yng ngorllewin y sir, mae’r golygfeydd ar draws Dyffryn Clwyd at lle mae Bryniau Clwyd yn codi yn y dwyrain yn dwmpathau mawr, brith yn syfrdanol

Rydw i’n gorffwys yn erbyn cofeb Pincyn Llys a godwyd ym 1830, nid i frolio am frwydr, ond yn hytrach, i ddathlu plannu coedwig goniffer. Torrwyd y coed cyntaf yn byst a thrawstiau i’r ffosydd a phyllau glo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn ailblannu’r goedwig wedyn. Mae newid defnydd o dir yn aml yn achos gofid calon, a hynny’n wir am y coedwigoedd coniffer cynnar – pan oedd cartrefi a ffermydd yn cael eu meddiannu gan y Comisiwn Coedwigaeth. Collwyd gwlypdir a rhostir.

Yn y cyfamser, cafodd gwahanol gynefinoedd eu creu ac un mamal sydd wedi elwa o Goed Clocaenog yw’r wiwer goch. Symudodd y gwiwerod coch i mewn yn ystod y 1950au i fwydo ar hadau’r coed sbriws Sitca. Mae’r boblogaeth wedi goroesi yno, wedi’i gwarchod yn rhannol rhag gwiwerod llwyd (sy’n cario brech nad oes gan y cochion imiwnedd rhagddi) gan uchder a lleoliad ynysig Coed Clocaenog, wedi’u hamgylchynu i raddau helaeth gan dir amaeth a rhosydd. Gallai poblogaeth gynyddol o felaod y coed, un o ysglyfaethwyr y gwiwerod llwyd sy’n bwyta ar y ddaear ond sy’n gweld y gwiwerod coch yn rhy sionc i’w dal, fod o gymorth. Amser a ddengys.   

Rydych chi’n annhebygol o weld unrhyw wiwerod coch ar y daith hon. Er mor heddychlon yw lleoliad y gofeb (ac nad ydych chi efallai, wrth grwydro lonydd tawel a Choed y Fron Wyllt ar y ffordd, wedi gweld unrhyw bobl eraill o gwbl), dim ond crafu ymyl coedwig eang sy’n ymestyn ymhell i’r gorllewin ydych chi. Mae’r gwiwerod yn cuddio oddi mewn iddi. Ond mae’n braf gwybod nad ydyn nhw’n rhy bell.

Bws

Er mwyn cyrraedd pentref Clocaenog, mae angen i chi archebu’r bws Fflecsi o Ruthun ymlaen llaw. Mae ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30 a 2.30 felly cadwch y daith hon at ddiwrnod yn ystod yr wythnos. Lawrlwythwch yr ap oddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru (www.trc.cymru/fflecsi) neu ffonio 03002 340300 i archebu. Mae Rhuthun yn cael ei gwasanaethu gan yr X51 o Ddinbych a’r T8 sy’n rhedeg rhwng Caer a Chorwen.

Am fwy o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/cludiant-cyhoeddus.aspx

I gynllunio eich taith, defnyddiwch www.traveline.cymru/

Cofiwch fod tocyn 1bws am £6.50 yn gadael i chi deithio faint fynnwch chi o amgylch Gogledd Cymru yn defnyddio pob gwasanaeth.

Cerdded

Mae hon yn daith gerdded wych yn yr haf os ydych chi am ddianc rhag yr arfordir prysur a chwilio am gysgod dan y coed – ond gwell peidio â’i dewis mewn tywydd poeth iawn gan fod ambell lôn agored a dringfa serth arni. Mae’n daith 8 milltir siâp ffigwr wyth o amgylch dau goetir gwahanol; hen goetir hynafol Coed y Fron Wyllt a’r goedwig goniffer wrth gofeb Pincyn Llys. Mae’r ddau ddarn o goetir yn rhan o Goed Clocaenog yn ehangach, a fydd yn y pen draw yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru ar hyd a lled y wlad. Os ydych chi eisiau haneru’r daith, mae’r bws Fflecsi hefyd yn gwasanaethu Bontuchel ar gyrion Coed y Fron Wyllt. Mae’r ddau goetir wedi’u cysylltu gan lonydd tawel Sir Ddinbych.

  1. Dewch oddi ar y bws Fflecsi yn arhosfan bysiau pentref Clocaenog a dilynwch y lôn sydd ag arwydd am Bontuchel, gan fynd heibio i’r ysgol a’r eglwys. Lle mae’r nant yn llifo dan y ffordd, ewch heibio i Sŵn yr Afon a throi i’r dde ar hyd y lôn sy’n mynd gydag ymyl Coed Cooper.
  2. Yna, gadael y coed y tu ôl ichi wrth ddal i ddilyn y lôn a mynd heibio i’r fferm ar y chwith cyn troi i’r chwith wrth y gyffordd. Trowch i’r chwith eto pan mae’r ffordd yn fforchio, gan fynd heibio i Pengalltegfa. Arhoswch ar y ffordd, gan ddilyn arwyddion am Tyddyn Cook.
  3. Ar ôl pasio Tyddyn Cook, dilynwch arwyddion am y Gilffordd sy’n eich arwain i Goed y Fron Wyllt. Mae rhan helaeth o’r coed yn goetir hynafol, sy’n drwch o gân yr adar bach a llystyfiant o bob math. Os oes gennych amser a’ch bod eisiau gweld pentref Bontuchel, daliwch i fynd drwy’r coed ac allan ohonynt.
  4. Fel arall, trowch i’r dde a dilyn arwyddion y llwybr. Mae hwn yn goetir mor braf, oni bai bod amser yn brin, mae hi werth dilyn y daith gylchol a’r arwyddion sy’n mynd gyda’r nant. Fel arall, ewch yn syth am y maes parcio.
  5. Wrth adael y coetir, dilynwch Daith Clwyd i fyny lonydd gwledig tawel, serth yr holl ffordd at ymyl Coed Clocaenog, lle gwelwch chi arwyddion am y maes parcio.
  6. Dilynwch yr arwyddion at Gofeb Pincyn Llys, a mwynhewch y golygfeydd godidog. Sylwch eich bod chi bellach wedi gadael llwybr Taith Clwyd ac wedi ymuno â Llwybr Hiraethog.
  7. Dewch i lawr yn igam-ogam drwy’r coed coniffer ar Lwybr Hiraethog, a chadw ar y llwybr hwn wrth iddo adael y goedwig a dod â chi’n ôl i bentref Clocaenog.