Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Pont Dyfrdwy

Dyma ein taith olaf ond un gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru.  Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein rhan brydferth o’r byd ychydig yn ddyfnach na hynny. Y tro hwn yn dilyn y Dyfrdwy o Gorwen i Gynwyd ac yn ôl eto.

Mae’n llyncu golau’r haul fel cwrw mewn gwydr peint a’i sŵn fel diod yn cael ei dywallt o botel (ond gall hefyd swnio fel hen beiriant golchi swnllyd ar adegau)dyna i chi’r Afon Dyfrdwy, yn mynd fel y gwynt o dan y bont. Mae cryfder iddi, wrth ehangu a phlygu ar hyd ei thaith, gan greu diemwntau ar y wyneb sy’n adlewyrchu siâp y pileri wrth iddi ruthro o dan y pontydd.

O’i tharddiad yn Eryri, drwy Lyn Tegid, i’r aber eang ar arfordir y gogledd, mae Afon Dyfrdwy yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn olygfa gyfarwydd yn Sir Ddinbych. Ar y daith gerdded hon rhwng Corwen a Chynwyd, mae’n byrlymu’n gyflym ac yn glir dros wely caregog. Mae canghennau’n plygu i’r afon fel bysedd main a chân yr adar i’w chlywed yn glir yn y coed helyg, y coed onn a’r coed derw ar y glannau.

Mae prosiect cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru (LIFEAfonDyfrdwy) wrthi’n adfer iechyd Afon Dyfrdwy. Mae mesurau’n cynnwys plannu coed ar hyd y glannau, ailgyflwyno misglod perlog dŵr croyw i’r afon, a chael gwared ar goredau i wella llwybr pysgod megis eog, sewin, llyswennod, penllwydion a thair rhywogaeth o lampreiod – y môr, yr afon a’r nant. Ar hyd y rhan hon rhwng Corwen a Chynwyd, mae ffensys ar gyfer anifeiliaid wedi cael eu gosod er mwyn lleihau’r maeth a’r dyddodion sy’n mynd i mewn i’r afon ac yn halogi a chymylu’r dŵr.

Rydw i’n hoffi gwylio’r afon o’r cilfachau ar gyfer cerddwyr sydd wedi’u hadeiladu i mewn i’r pontydd, yn enwedig o Bont Dyfrdwy yng Nghynwyd. Mae’n debyg yr adeiladwyd y bont hon yn y ddeunawfed ganrif – neu o bosib yn gynt – mae rhai yn credu mai hon oedd y bont a ddisgrifiwyd gan y gwerthwr hen lyfrau, Edward Lhuyd, ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Mae ei cherrig yn darparu cynefin i bryfaid cop, morgrug a bryoffytau. Rydw i weithiau’n meddwl fy mod yn edrych ar garreg ond wrth edrych eto rwy’n gweld mae haen o gen llwyd sydd yno. Megis coedwigoedd o gymylau bach, mae pennau hadau mwsogl yn dal gwlith y bore o’r afon sy’n byrlymu isod.

Bysiau

Mae Corwen yn ganolbwynt bysiau. Mae’r gwasanaeth T3 rhwng Y Bermo a Wrecsam yn galw bob dwyawr. (Mae ei amrywiad, y gwasanaeth T3c, yn galw heibio Llanuwchllyn, Llandderfel, Llandrillo a Chynwyd). Gallwch hefyd gyrraedd Corwen ar y gwasanaeth 76 o Rhuthun, y gwasanaeth T10 o Fangor a’r gwasanaeth T8 o Gaer.

I gael rhagor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/cludiant-cyhoeddus/cludiant-cyhoeddus.aspx  

I gynllunio eich taith, ewch i https://www.traveline.cymru/

Cofiwch fod tocyn 1bws am £6.50 yn eich galluogi i deithio’n ddigyfyngiad ledled Gogledd Cymru ar bob gwasanaeth.

Taith Gerdded

Mae’r daith gerdded gylchol 8 milltir hon yn ymlaciol yn yr haf, pan mae’r tywydd yn rhy boeth ar gyfer gweithgaredd heriol a chithau’n ysu am gael bod yng nghysgod y coed a’r dŵr gerllaw. Er bod y daith yn gymharol hawdd, mae’n cynnwys rhai camfeydd – mae un ohonynt wedi torri ac felly’n rhaid sgrialu rhywfaint! Mae’r daith gerdded yn mynd â chi i’r de o dref brysur Corwen i bentref tawel Cynwyd ar lan ddwyreiniol yr Afon Dyfrdwy ac yn ôl i Gorwen ar y lan orllewinol a thrwy Rhug. Os ydych eisiau cwtogi eich taith rhywfaint, mewn tywydd sych ac os yw’r afon yn ddigon isel, gallwch groesi’r afon yn lle mynd drwy Rhug. Mae’r daith gerdded ar hyd llwybrau coediog yn bennaf ac mae cyfleoedd i eistedd a chael tamaid i’w fwyta ac yfed yng Nghorwen, Cynwyd, a Siop Fferm Organig a Chaffi Rhug. Ar ben hynny, os ydych yn cynllunio ymlaen llaw, gallwch ymweld â thair eglwys ysblennydd ar y ffordd. Mae Eglwys Sant Mael a Sant Sulien yng Nghorwen ar agor bob dydd. Mae Hen Eglwys Plwyf Llangar, gyda’i muriau canoloesol ar agor yn achlysurol (gweler https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/hen-eglwys-plwyf-llangar)ac mae arnoch angen gwneud trefniadau gyda Cadw i ymweld â Chapel Hanesyddol Rhug sy’n golygu y byddai’n rhaid i chi wyro oddi ar eich llwybr. (https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/capel-y-rug). Cymrwch eich amser, ewch â diod ac efallai picnic, a mwynhewch yr afon.

  1. O’r orsaf fysiau, ewch i gyfeiriad y gorllewin drwy dref Corwen.
  2. Yn lle croesi Pont Corwen, gadewch y ffordd ond arhoswch ar Daith Clwyd, sy’n parhau at ymyl y dref dros gamfa ac ar lwybr yr hen reilffordd.  
  3. Hyd yn oed os nad yw Eglwys Llangar (â’i muriau canoloesol yn cynnwys sgerbwd gyda gwaywffon) ar agor, mae’n werth i chi ymweld â’r fynwent yno. Honnir bod yr enw yn deillio o Lan Carw Gwyn oherwydd i garw gael ei weld yn neidio o’r dryslwyn yn y man lle adeiladwyd yr eglwys.
  4. Parhewch ar hyd y llwybr sy’n dilyn hen lein rheilffordd y Great Western gynt rhwng Rhiwabon a’r Bermo nes i chi gyrraedd pentref Cynwyd, ac yna croeswch Bont Dyfrdwy.
  5. Ar ôl croesi’r bont, dringwch i lawr i ddilyn y llwybr ar ochr orllewinol y lan, gan gadw’n agos at y dŵr. Ewch dros neu drwy’r gamfa sydd wedi torri.
  6. Ewch tuag at y coed ar eich chwith ac fe welwch giât fferm Gwerclas. Yma, gallwch ymuno â’r trac fferm sydd yn bron ar unwaith yn cwrdd â lôn y gallwch ei dilyn at yr A5 ger Rhug…
  7. Neu, mewn tywydd sych iawn, gallwch gymryd y troad cyntaf ar y dde a phasio tŷ Hafod-y-cylch i lawr i’r rhyd. Croeswch y rhyd, a pharhewch ar hyd y lôn, a throi i’r dde i Daith Clwyd.
  8. Os nad ydych wedi croesi’r rhyd, cadwch ar y lôn dawel i Bont Melin Rhug, ac yna ar ôl cyrraedd yr A5 cadwch o fewn ffiniau Siop Fferm Organig a Chaffi Rhug. Dilynwch y llwybr wedi’i arwyddo drwy’r fferm, wrth iddo basio siediau a chychod gwenyn, ac ymuno â Thaith Clwyd.
  9. Os ydych wedi gwneud trefniadau ymlaen llaw i ymweld â Chapel Hanesyddol Rhug, trowch i’r chwith lle mae’r trac yn cwrdd ag un arall.
  10. Fel arall, cadwch ar Daith Clwyd. Ar ôl cyrraedd Pont Corwen, croeswch y ffordd a pharhewch ar hyd Taith Clwyd wrth i’r llwybr ddilyn glan yr afon. Mae’r rhan olaf o’r daith yn mynd â chi rhwng yr hen ffensys llechi a’r afon. Cadwch olwg am y gwelyau ranunculus sy’n blodeuo yn yr afon yma, yn gynnar yn yr haf.
  11. Yn olaf, cadwch ar Daith Clwyd wrth iddi ymuno â’r ffordd, croeswch yr afon ger Pont Lôn Las, a dychwelwch i orsaf fysiau Corwen.