Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweliad â Asynnod Moel Famau

Ddoe, fe fuom ni’n ymweld ag Asynnod Moel Famau ar odre Moel Famau.  Dyma fenter newydd i’r teulu sydd wedi byw yma am dair cenhedlaeth. Dechreuodd fel fferm odro, cyn troi’n felin lifio ac, yn ddiweddar, yn noddfa i asynnod bach.

Rhoddodd Mathew daith i ni o amgylch y safle ac eglurodd ychydig am y ffordd y daeth y syniad i fod. Roeddent yn gweld bod llawer yn ymweld â’r mynydd yn ystod y cyfnod clo – pobl oedd eisiau mwynhau’r awyr agored – ac fe wnaethant sylwi bod cyfle iddynt rannu’r ardal arbennig maent yn byw ynddi gydag ymwelwyr drwy gynnig cyfle i fod yn agos at yr asynnod.  Dewiswyd yr asynnod yn ofalus iawn o warchodfa yn Rhydychen. Y syniad gwreiddiol oedd prynu 4 ond fe wnaethant ddisgyn mewn cariad â nhw a dod â 6 adref yn y pen draw. Mae’n debyg bod asynnod yn anifeiliaid pwn ac maent yn tueddu i ffurfio parau. Maent yn gymeriadau triw ac yn llawer mwy cyfeillgar na’r alpacaod neu’r lamaod roeddent wedi’u hystyried i ddechrau.

Maent yn cynnig sesiwn i’w cyfarfod i bob oed unwaith y mis ac mae hon yn apelio at bawb, o blant bach i’r henoed.

Maent hefyd yn cynnig taith gerdded fer yn defnyddio ambell rwystr a thaith hirach dros 2 awr sy’n mynd â chi ar hyd y llwybr roedd ei daid yn arfer ei ddefnyddio i fynd â’r fuches odro i bori dros eu 40 acer o dir.  Maent hefyd yn cynnal partïon preifat a diwrnodau meithrin tîm. Mae’n debyg bod pawb yn hoffi asynnod gan eu bod yn aml yn mynd â’r asynnod i ddigwyddiadau lleol.

Mae’r busnes mor gynaliadwy â phosib’, yn defnyddio torion gwastraff o’r iard goed i adeiladu’r stablau a llwch llif dan yr asynnod.  Mae ganddynt dîm o wirfoddolwyr brwdfrydig sy’n cymryd eu tro’n gofalu am yr asynnod ac roeddent yn edrych yn hapus iawn wir yn eu cartref ar y mynydd. Roedd yr Ymddiriedolaeth Natur yn cefnogi eu busnes drwy eu helpu i blannu dolydd gwyllt o amgylch yr ardal ac roedd arlunydd lleol oedd wedi ymddeol wedi creu murlun anhygoel yn y stabl.

Ar hyn o bryd, mae Asynnod Moel Famau ar agor gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau, ac mae bwriad i ymestyn yr oriau’n fuan. Mae ganddynt hefyd gynlluniau am lety gwyliau ar y safle.

Eglurodd Mathew sut roedd ei ddiddordeb personol o gefnogi iechyd meddwl hefyd yn rhan o hyn i gyd ac roedd yn teimlo bod cael pobl i fwynhau natur a’r anifeiliaid yn ffordd wych o weithio ar iechyd meddwl cadarnhaol. Gwahoddon nhw ddau sefydliad sy’n cefnogi iechyd meddwl Nerth dy Ben a Sefydliad DPJ i’w diwrnod agored ym mis Mawrth, i greu dolen a chanolbwyntio ar iechyd meddwl a lles.

 

Cyfarfod yr asynnod

BESS
Mae Bess yn dod o Tecsas a hi yw’r asyn hynaf yma. Mae hi braidd yn ddireidus, ond mae’n ymddwyn ar ei gorau os siaradwch chi efo hi yn eich acen Americanaidd orau!
TILLY
Tilly yw’r ieuengaf o’r criw ac mae’n ferch i Polly. Llwyd yw ei lliw ac mae ganddi bersonoliaeth hynod ddireidus.
POLLY
Mam Tilly yw Polly. Mae ei natur yn garedig a hoffus ond mae wrth ei bodd yn cael sylw! Ei hoff beth yw cael ei chrafu.

Nansi &Rosie

BLODWEN
Blodwen yw prif aelod y criw. Brown yw ei lliw ac mae’n dawel ei natur, yn ddoeth ac yn cymryd ei hamser i fwynhau’r llwybr.
NANSI
Un goch yw Nansi a hi yw’r mwyaf swnllyd o’r criw. Mae hi bob amser yn arwain y ffordd ac wrth ei bodd yn cael tamaid.
ROSIE
Chwaer Polly a Modryb Tilly yw Rosie. Mae hi’n chwilfrydig ac wrth ei bodd ar y cwrs ystwythder ac yn anturio.

Rosie & Polly

Oeddech chi’n gwybod?

  • Mae asynnod yn gallu amrywio llawer iawn yn eu maint, o 26 i 68 modfedd.
  • Gall sŵn bref asyn deithio hyd at 60 milltir yn yr anialwch.
  • Mae gan asynnod systemau treulio eithriadol o effeithlon sy’n defnyddio 95% o’r hyn maent yn ei fwyta.
  • Nid yw asynnod yn hoffi bod mewn glaw am gyfnodau hir gan nad yw eu blew’n dal dŵr – mae’n well ganddynt dywydd braf.
  • Gall asynnod iach fyw’n 50 a hŷn.
  • Bydd asyn dall yn aml yn bondio gydag asyn sy’n gweld, a fydd yn ymddwyn fel tywysydd iddo.
  • Gall asynnod dawelu anifeiliaid eraill.
  • Mae asynnod yn anifeiliaid clyfar a chwilfrydig iawn.
  • Nid yw asynnod yn ’styfnig, ond efallai na fyddant yn awyddus i wneud rhywbeth sy’n anniogel – maent yn ystyried sefyllfaoedd cyn penderfynu beth i’w wneud.
  • Mae asynnod yn sionc iawn ac yn gallu croesi tir anodd.
  • Mae asynnod yn anifeiliaid cymdeithasol iawn ac yn ffurfio bondiau cryf – byddwch yn aml yn gweld parau o ffrindiau gorau o fewn gre.
  • Mae asynnod yn wahanol i geffylau o ran eu ffisioleg a’u ffyrdd o gyfathrebu, meddwl ac ymddwyn – mae’n well ganddynt asynnod eraill fel cyfeillion.

 

Felly, os ydych chi eisiau amser un-i-un gyda’u hasynnod, ewch i moelfamaudonkeys.co.uk/ am fwy o wybodaeth.