Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Parc y Gorffennol – yr Hôb

Ar ein trip ymgyfarwyddo diweddar i fusnesau lleol, fe aethom ni i Barc y Gorffennol yn yr Hôb.

Gan ddefnyddio hen chwarel segur, mae Parc y Gorffennol yn brosiect treftadaeth a chadwraeth sydd wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd i greu atyniad treftadaeth cwbl unigryw ac adnodd cymunedol hanfodol. Mae wedi ei leoli yn nhirlun hynafol Cymru ac mae’r parc yn cynnwys 120 acer o harddwch naturiol eithriadol gyda choetiroedd a gwlypdiroedd, llyn gwych 35 acer a’r Afon Alun, yn ogystal â llwybrau cerdded hyfryd a chaeau eang. Mae’n cael ei arwain gan dîm arloesol o wirfoddolwyr gyda gweledigaeth dan arweiniad Paul Harston. Mae llawer mwy i’r lle hwn nag mae rhywun yn ei weld ar yr olwg gyntaf.

Gan ddefnyddio gwahanol botiau o gyllid, mae’r gwirfoddolwyr wedi llwyddo i greu ardaloedd o dirluniau o wahanol gyfnodau gan ddefnyddio ecoleg y cyfnod hwnnw ac wrth i chi ymlwybro drwy’r parc, fe welwch chi ardal bywyd gwyllt o dirluniau rhewlifol, cymaint o goed wedi’u plannu a 75,000 o fetrau sgwâr o ddôl blodau gwyllt. Roedd ganddynt gregyn wystrys a chwrel yn dyddio’n ôl i amser cyn oes yr iâ.

Mae ogof lle mae Arteology yn cynnal gweithdai i deuluoedd sy’n cynnwys creu paent Neolithig gyda saim, mygydau angladdau Eifftaidd-Rufeinig, a phopeth yn y canol. Roedd goleuadau neon yn cael eu defnyddio i ddangos y lluniau paent yn yr ogof.

Roedd yr olygfa wedyn yn datblygu’n dirlun y byddech chi’n disgwyl ei weld yn y ganrif gyntaf wrth i’r Rhufeiniaid gyrraedd, yn cynnig enghreifftiau botanegol hyfryd o flodau tegeirian gwyllt.  Anhygoel wedyn oedd teimlo ein bod yn mynd yn ôl mewn amser wrth weld caer Rufeinig gyda dau filwr yn gwylio wrth y porth. Seiri coed oedden nhw, oedd yn mwynhau ail-greu ychydig o hanes ar y penwythnos. Mae’r gaer sydd wedi’i hail-greu’n seiliedig ar gaer Rufeinig go iawn a gafodd ei darganfod yn Swydd Lanark yn 1938. Eglurodd Paul mai gweledigaeth ei dad oedd y gaer ac mae wedi cael yr enw anwes ‘Caer Egg’ ar ôl ei dad.

Eu nod nhw yw creu tirlun hynafol cyflawn, gyda chaer Rufeinig gwbl weithredol, llawn ei maint. Y gaer bren goncwestol gyntaf i gael ei hadeiladu ym Mhrydain ers bron i 2,000 o flynyddoedd.

Eglurodd Paul eu bod yn ddiweddar wedi cynnal gŵyl ail-greu Rufeinig ryngwladol o’r enw Auxilia, ac roedd y parc yn llawn ymwelwyr a gwersyllwyr a grwpiau ail-greu o bob cwr o Ewrop.

Mae llyn yn y parc hefyd, lle gallwch chi nofio a gwneud pob math o weithgareddau dŵr ac mae ganddynt hefyd le i chi allu llogi padlfyrddau a chanŵs, yn ogystal â chaffi gwych.

 

Ar ôl mwynhau pecyn cinio hyfryd gan Lovelies Delights yn yr Wyddgrug, fe aethom ni ar y bws i Garrog yn Nyffryn Dyfrdwy a dal y trên i’r orsaf newydd sbon yng Nghorwen, cyn mynd ar daith o amgylch Corwen gyda’n tywysydd Sarah. Am fwy o fanylion am ein hymweliad â Chorwen a’r orsaf newydd, darllenwch y blog blaenorol yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein teithiau ymgyfarwyddo neu rwydweithio gyda busnesau o’r un anian, cadwch lygad am newyddion ar ein Fforwm Twristiaeth nesaf yn Oriel House Llanelwy ym mis Hydref.