Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2023 4 – 9 Gorffennaf 2023

Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵyl gelfyddydol wythnos o hyd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, ac am 76 o flynyddoedd mae wedi dod â pherfformwyr ynghyd o bob rhan o’r byd i rannu eu hoffter o ganu, dawnsio a’r gair llafar.

Bydd Llangollen 2023 yn agor mewn steil ddydd Mawrth 4 Gorffennaf: Bydd Alfie Boe a’r grŵp sioe gerdd arbennig, Welsh of the West End, yn perfformio mewn cyngerdd gyda’r nos sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer Llangollen. Bydd Band Mawr Guy Barker yn perfformio Ddydd Gwener 7 Gorffennaf ac fe fyddant yn sicr o godi’r to gyda chwaraewyr jazz grymus a rhagorol. Bydd yr unawdwyr gwadd yn cynnwys: Tommy Blaize, Vanessa Haynes, Clare Teal a Giacomo Smith.

Ganol yr wythnos fe fydd ymrwymiad yr Eisteddfod i heddwch yn cael ei amlygu drwy ‘Y Blodau Gwyn: I Mewn i’r Goleuni, cyngerdd cerddoriaeth glasurol ar raddfa fawr, ddydd Mercher 5 Gorffennaf. Bydd corau sydd wedi eu cyfuno a NEW Sinfonia yn ymuno â pherfformwyr o Gymru, Bosnia a’r Wcráin mewn cyngerdd i gofio sy’n diweddu gyda neges o heddwch a gobaith. Dydd Iau 6 Gorffennaf bydd yr aml-offerynwyr Propellor Ensemble, sy’n feiddgar ac yn cymysgu ffurfiau, yn cyflwyno profiad theatrig y byddwch yn ymgolli ynddo a fydd yn cyfuno cerddoriaeth gyfoes, gwerin, dawns ac elfennau gweledol byw a deinamig; ac sydd wedi ei ysbrydoli gan ryfeddod y byd naturiol.

 

Bydd dwy rownd derfynol fyw anhygoel yn ffurfio’r penwythnos olaf, Côr y Byd a Sêr Yfory. Bydd y corau, ensembles dawns a sêr operatig gorau yn ymddangos Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf tra bydd y genhedlaeth nesaf o berfformwyr talentog yn cystadlu dydd Sul 9 Gorffennaf.

Urdd Eisteddfod

Mae safle awyr agored yr ŵyl wedi ei weddnewid ar gyfer 2023 gyda dogn bywiog yn ddyddiol o gerddoriaeth byd, gwerin a phoblogaidd, arddangosfeydd dawns, comedi, sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, gweithdai, bwyd stryd a chyfle i siopa ac adloniant ar gyfer y teulu, i gyd gyda blas rhyngwladol.

Mae safle’r ŵyl, sy’n ymgorffori’r Pafiliwn Brenhinol eiconig sydd â 4000 o seddi, yn 5 munud ar droed o ganol y dref, ac mae digon o le parcio ar y safle.

Llangollen Pavilion
Llangollen Pavilion

Mae yna ystod eang o brisiau/opsiynau o ran tocynnau; mae mynediad i’r maes yn dechrau ar £5 ac mae tocynnau’r Cyngherddau Nos yn costio £10-£48.  Gellir archebu tocynnau ar-lein: https://international-eisteddfod.co.uk/cy/ neu drwy ffonio: 01978 862 001 (Dydd Mawrth – Dydd Iau 9am-5pm).

Os ydych chi’n chwilio am rywle i aros yn ystod yr Eisteddfod- mae Parc Gwyliau Llandyn o fewn pellter cerdded a gallant gynnal carafanau, cartrefi modur a phebyll, gallwch gysylltu â nhw yma i archebu gwybodaeth neu eu ffonio ar 07961 663419.