Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ymweld â Chorwen

Gan y bydd yr orsaf drenau newydd yn agor ym mis Mehefin fe aethom ni draw i Gorwen i weld beth arall sydd ar gael yno.

Tref farchnad ddeniadol fechan yw Corwen  wedi ei lleoli wrth droed Mynyddoedd y Berwyn ym mhen Gorllewinol Dyffryn Dyfrdwy, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ger Afon Dyfrdwy. Mae Corwen wedi ei lleoli mewn safle strategol yng Ngogledd Cymru. Mae hanes yn dangos bod y Rhufeiniad wedi bod yng Nghorwen, ac yna seintiau o’r chweched ganrif, byddinoedd yn llifo i mewn ac yn amddiffyn, porthmyn yn gyrru eu da byw a theithwyr y goets fawr Fictoraidd. Felly mae “Croesffordd i Gymru” wedi hen arfer croesawu teithwyr.  Erbyn heddiw mae gan Gorwen lawer i’w gynnig i’r ymwelydd â’r gofynion uchaf, mae’n dawelach na Llangollen sydd gerllaw.  Os ydych chi’n ffafrio lleoliad mwy tawel gyda llai o brysurdeb na’n trefi mwy enwog, yna fe fyddwch chi wrth eich bodd yng Nghorwen.  Gyda dau faes parcio am ddim – un wrth yr hen orsaf a’r llall y tu ôl i Ganolfan Fi a llawer o le ym maes Parcio Lôn Las fe ddewch chi o hyd i le parcio yn ddidrafferth. Mae Cyfnewidfa Bws Corwen yn sicrhau bod Corwen yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig er mwyn teithio Cymru yn gynaliadwy.

 

Fe wnaethon ni benderfynu parcio y tu ôl i Ganolfan Fi a cherdded i mewn i’r dref. O’n blaenau ni roedd adeilad diddorol hanesyddol o’r enw Corwen Manor.  Wyrcws i bobl dlawd â dyledion yn y gymuned a adeiladwyd yn ôl yn 1840 ydyw.  Yn gyferbyniad i’r bobl oedd yn byw yna, mae’n adeilad crand iawn a adeiladwyd ar ddyluniad croes.   Mae bellach yn siop grefftau ac offer pysgota ac ystafell de.  Fe gewch chi olwg aderyn os ddechreuwch i ddringo Pen y Pigyn.

Gyferbyn â Corwen Manor, mewn hen gapel y mae Amgueddfa Corwen, sy’n cael ei redeg gan grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig.  Mae yna arddangosfa ddiddorol am yr hen chwarel yng Nglyndyfrwy, yn ogystal â’r trên a’r arwr lleol, yn wir arwr Cymru, Owain Glyndŵr, gyda mannequin maint llawn wedi’i wisgo yn ei arfbais drawiadol.

Amgueddfa  Corwen 

Corwen Manor

Os ydych chi’n hoffi crwydro o amgylch y siopau, mae yna ddetholiad diddorol yng Nghorwen, yn ogystal â siop fwyd, siop flodau a siop cigydd a siop anrhegion hyfryd Pethau Tlws sy’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig.

Mae hi hefyd yn nefoedd i’r rhai sy’n caru pethau rhad, mae yna rywfaint o siopau ail law ar y sgwâr a siop hen bethau ac os hoffech chi edrych yn fwy trylwyr fe ddewch chi o hyd i Vintage Homes Styles Emporium  sydd wedi’i leoli dros ddau lawr, mae’n ofod enfawr sy’n llawn trysorau sy’n cael ei redeg gan Carol Styles. Mae’r stoc yn newid yn gyson ac mae’n llawn trugareddau diddorol gyda rhyw deimlad o farchnad Ffrengig y tu mewn.  Fe allwch chi hyd yn oed gael coffi tra byddwch chi’n chwilota ac mae croeso i gŵn.

Cerflun o Owain Glyndŵr

Ydym ni eisoes wedi sôn am Owain Glyndŵr? Fe ddylai Corwen fod yn falch iawn, a dwi’n siŵr ei fod yn falch o fod yn gartref i Dywysog Cymru a fu’n gwrthryfela yn erbyn tirfeddianwyr o Loegr a fu’n llywodraethu dros Gymru yn ôl yn yr 14eg Ganrif.  Mae o’n symbol o annibyniaeth Gymreig ac mae cerflun bendigedig o Owain a’i geffyl a’i gleddyf wedi’i godi mewn gwaedd o wrthryfel i’w weld ar sgwâr y dref yng Nghorwen.   Yn ôl llên gwerin lleol, taflodd Owain ei gleddyf mewn rhwystredigaeth o gopa Pen y Pigyn, safle uchel sydd yn edrych i lawr draws y dref.   Os edrychwch chi’n ofalus ar gefn Eglwys Sant Mael a Sullien fe welwch chi’r tolc a greodd y cleddyf.  Tra byddwch chi yn y fynwent, efallai y dewch chi ar draws cerrig rhyfedd naill ochr i’r llwybr. Cerrig penlinio yw’r rhain i ferched yn eu crinolinau o’r dyddiau a fu a charreg fedd eithaf barddol i yrrwr peiriant.

Mae hyn yn ein harwain ni’n dwt at y datblygiad newydd yng Ngorsaf Corwen.  Mae Corwen wedi bod yn aros am drên ers peth amser. O’r diwedd ar ôl blynyddoedd lawer o waith caled gan wirfoddolwyr a chwblhau prosiect Cronfa Lefelu i Fyny’r, mae’r orsaf newydd yn barod i groesawu ymwelwyr.. Bydd pedwar diwrnod o ddathliadau arbennig yn nodi agoriad swyddogol gorsaf Corwen yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.  Yr uchafbwynt fydd gweld trên stêm arbennig yn cyrraedd a fydd yn cludo nifer o westeion pwysig ar hyd y lein o Garrog i weld y seremoni agoriadol ffurfiol ddydd Gwener 2 Mehefin.  Bydd dydd Sadwrn a dydd Sul yn croesawu’r cyhoedd gyda ddigwyddiadau gala cyhoeddus, amserlen ddwys o wasanaethau a fydd yn cael eu tynnu gan stêm, disel a rheilgeir dros dri diwrnod, arddangosiadau arbennig a dadorchuddio model coffaol arbennig. Fe fydd agor yr orsaf yn dod â theithwyr trên yn ôl i ganol Corwen ar ôl seibiant o sawl degawd.  Mae rhagor o wybodaeth am y dathliadau sydd wedi’u cynllunio ar gael yma.

Llun o’r orsaf newydd yng Nghorwen gan Terry Pickthall

Petaech chi eisiau mynd am dro i gael golwg well o’r dref sydd eisoes â statws ‘Croesawu Cerddwyr’, beth am roi cynnig ar Lwybr y Dagr, i fyny at ardal o’r enw ‘Sexton’ lle dewch chi ar draws ffrwd dros gerrig camu hynafol neu fe allwch chi barhau i fyny Pen Y Pigyn, i fwynhau golygfeydd gwych o Gorwen a sylwi ar y gwrthrychau mawr a adawyd gan y cawr ar ei ffordd i fyny.

Pen y Pigyn

Os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol mae yna daith gerdded hyfryd o’r enw Liberty Hall (adfail o hen borthdy hela) sydd yn eich cymryd i fyny a dros rostir ac yn ôl i lawr i Gynwyd trwy goedwigoedd a rhaeadrau.  Yna fe allwch chi gerdded yn ôl i Gorwen ar hyd yr hen reilffordd sydd bellach yn llwybr hyfryd ger Afon Dyfrdwy. Gallwch lawrlwytho’r map a’r llwybr yma.

Gyferbyn â Phen y Pigyn mae Caer Drewyn a bryngaer hynafol o’r Oes Haearn.  Yn ôl pob tebyg, cafodd ei ddefnyddio gan y Rhufeiniad i dyfu gwinllannoedd, gan roi ei enw ‘Drewyn’, sydd wedi newid rhywfaint o ‘Drewin’.   Lleoliad rhagorol arall i weld y sêr ar noson dywyll unwaith y flwyddyn yn ystod ‘Perseid’ Awst cawod meteor  gallwch ymuno â Cheidwaid Cefn Gwald sydd yn trefnu teithiau cerdded dywysedig ac yn cynnig matiau rwber i chi orwedd arnynt i wylio’r awyr dywyll sydd wedi ennill gwobrau, a hyd yn oed mwynhau cyflenwad o siocled poeth a theisen.

Unigolyn yn cau careiau ei esgidiau ar fryngaer Caer Drewyn wrth i’r wawr dorri
Mae yn ddigonedd o lefydd diddorol i aros ynddynt yng Nghorwen  yn cynnwys Hen Fanc a Hen Orsaf Heddlu sydd bellach yn llety moethus.   Os ydych chi’n chwilio am gynnyrch lleol heblaw’r cigydd a delicatessen yn y dref, mae fferm a chaffi organig Rhug, ar y cyrion, sydd â chynnyrch hyfryd o safon sy’n cael eu hallforio i fwytai ar draws y byd am eu safon uchel, bwyty gyrru drwodd a Byrgyrs Bual.

Siop Organig Rhug

I’r rheini sydd â diddordeb mewn treftadaeth gyda rhywfaint o grefydd, mae yna ddwy enghraifft wych o’r rhain ar gyrion Corwen sydd bellach yn cael eu rhedeg gan Cadw.   Mae Capel Rhug ac Eglwys Llangar, yn wahanol iawn o ran steil a phresenoldeb, ond mae’r ddau yr un mor hyfryd.  Felly os ydych chi’n chwilio am ymweliad gydag ymdeimlad o hanes ac yn dymuno ymdrochi eich hun yn un o dirweddau a ddiogelir hyfrytaf Prydain, mewn llecyn tawelach, beth am ymweld â Chorwen.

Eglwys Llangar

 

Y tu mewn i Gapel Rhug