Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Syniadau am deithiau cerdded gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio yma. Rhif 5 a 6 – o amgylch y Rhyl

Daw ein cyfres nesaf o deithiau cerdded ar gyfer mis Mai gan staff gwych y Ganolfan Groeso yn Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl.

*sylwch, er gwaethaf gwaith hanfodol amddiffyn yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn yr haf hwn, mae’n dal ar agor i fusnes fel arfer

Mae Tony Vitti a Janette Tomes wedi bod yn gweithio yn y Ganolfan Groeso ers blynyddoedd felly mae ganddyn nhw brofiad helaeth o ateb cwestiynau twristiaid.

Y daith gyntaf yw taith Tony o’r Foryd i Ruddlan. Mae Tony wedi bod yn gweithio yn y Ganolfan Groeso ers dwy flynedd ar bymtheg. Mae o’n treulio llawer o amser yn crwydro yng nghefn gwlad ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes lleol. Mae Tony’n mwynhau ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol a thirweddau gwyllt rhai o fannau cudd gogledd Cymru.

“] Tony yng Nghanolfan Groeso’r Rhyl

“Cefais fy magu yng ngorllewin y Rhyl, ger yr harbwr. Y dyddiau hynny roedd rhaid i chi gerdded ar draws Pont y Foryd i fynd i’r harbwr ond heddiw gallwch ddefnyddio’r bont droed newydd, Pont y Ddraig, a agorodd yn 2013 ac sy’n rhan o adfywiad ehangach Harbwr y Foryd. Gyda’r nosau mae’n braf edrych ar oleuadau lliwgar y bont. Byddaf yn stopio yma am goffi cyn mynd i’r gwaith (yn enwedig pan fo’r tymor ymwelwyr ar ei anterth a’r diwrnod yn sicr o fod yn brysur). Rwy’n eistedd yma’n gwylio’r cychod pysgota’n mynd a dod. Os ydych chi’n ddigon lwcus efallai y gwelwch y bont yn agor ac yn cau i gychod talach. Mae Pont y Ddraig  yn croesi’r aber ac yn cysylltu’r Foryd â Phromenâd y Rhyl. Ger yr harbwr mae gwarchodfa natur o’r enw Trwyn Horton, caffi Hwb yr Harbwr a siop hurio beics. Croeswch y bont a cherddwch drwy barc manwerthu Cei Marina. Pan oeddwn i’n ifanc ffair Ocean Beach oedd fan hyn. Roedd fy nain a’i chwiorydd yn gweithio yma ar stondinau’n perthyn i f’ Ewyrth Mike a’m Modryb Pam.

Pont y Ddraig gyda’r nos

Croeswch Ffordd Wellington i Marine Lake a’r Rheilffordd Fach Agorodd y rheilffordd yn 1911 ac mae gen i atgofion melys o fynd ar y trên bach. Dŵr môr sy’n llenwi’r llyn ac mae’n lle poblogaidd i chwilio am grancod.

.

Marine Lake

Yn rhedeg ar hyn ymyl gorllewinol y llyn mae Westbourne Avenue, sy’n arwain at bont droed dros y rheilffordd. I osgoi grisiau gallwch ddilyn arwyddion llwybr beicio 84. Yr ochr arall i’r bont, ar y dde, fe welwch y fynedfa i Glan Morfa – coetir cymunedol gyda llwybrau’n arwain i’r llwybr ger yr afon.

.

Glan Morfa

Rydym am ddilyn y llwybr ger yr afon sy’n rhan o Lwybr Beicio 84 ac yn mynd ymlaen i Ruddlan. Roedden ni’n arfer rhedeg traws gwlad o’r ysgol ar hyd y llwybr yma, rhywbeth yr oeddwn i’n ei gasáu, ond heddiw ‘dwi wrth fy modd yn cerdded yma. Ffordd hyn dwi’n mynd i’r gwaith hefyd gan fy mod yn byw yn Rhuddlan ac yn gweithio ar y promenâd yn y Rhyl. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer pawb – mae’n wastad ac yn llydan felly bydd cerddwyr, beicwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn a phobl gyda phramiau i gyd yn gallu ei ddefnyddio heb unrhyw broblem. Yma ac acw mae gatiau ar y llwybr ond maen nhw’n llydan ac yn hawdd i’w hagor.

Castell Rhuddlan

Pan gyrhaeddwch Rhuddlan bydd gennych olygfa fendigedig o’r castell.  Mae’r castell yn un o rai cynharaf Edward I – dechreuwyd y gwaith o’i adeiladu yn 1277.

Wrth groesi’r bont dros yr afon fe welwch barc manwerthu bach lle mae sawl dewis o fwyd a diod, ac yn uniongyrchol dros y ffordd mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan. Mae fy ŵyr, Wilf, wrth ei fodd â’r warchodfa natur – mae’n un o’i hoff lefydd. Rydym yn bwydo’r hwyaid yma ac roedd Wilf wedi gwirioni’r llynedd pan welodd fod yr elyrch wedi dodwy chwech wy.

Wilf

Mae’r warchodfa natur yn gwbl hygyrch: mae yma ardd synhwyraidd, dau lyn (un ohonynt yn wych ar gyfer chwilio am greaduriaid) a digonedd o lefydd i eistedd a mwynhau’r golygfeydd, yn cynnwys llawer o fyrddau picnic os ydych wedi dod â chinio efo chi.

Gwarchodfa Natur Rhuddlan

Tua 2 filltir a ¾  ydi’r daith gerdded hon i gyd.  Mae’n cymryd tua awr heb stopio i edrych ar y golygfeydd (ar un pwynt gallwch weld tri chastell:  Rhuddlan,  Bodelwyddan a Gwrych!).

I fynd yn ôl i’r Rhyl, ewch yn ôl ar hyd yr afon, cerddwch drwy’r pentref ac ar hyd y briffordd neu ewch ar y bws. O Rhuddlan defnyddiwch wasanaeth 51 sy’n mynd yn syth i Orsaf Fysiau y Rhyl.

 

Our second offering is from Janette- Prestatyn To Dyserth Walk. Janette has worked at the Tourist Information Centre for eighteen years, and spends much of her time off out and about in north Wales. She particularly likes agricultural shows, with the Denbigh and Flint Show in August being one of the highlights of her year. 

 

“Mae fy nhaith i ar hyd yr hen linell rheilffordd sy’n rhedeg rhwng Prestatyn a Dyserth.  Mae’r daith yn dechrau yn Gas Works Lane ym Mhrestatyn, sef y lôn sy’n rhedeg rhwng Home Bargains a’r Orsaf Fysiau.  Y bws o’r Rhyl ydi’r Arriva 35/36 Arriva , sy’n rhedeg bob 30 munud ac yn cymryd tua 20 munud.

Mae rhan gyntaf y daith yn rhedeg y tu ôl i Lidl am bellter byr ac yn arwain at ffordd y mae’n rhaid ei chroesi  Mae’r llwybr yn rhedeg y tu ôl filfeddygfa a thrwy fynedfa wrth ymyl giât.  Mae ‘na arwydd yn dweud mai dyma’r llwybr cerdded o Brestatyn i Ddyserth.

Mae’n hawdd iawn cyrraedd y rhan yma o’r daith.  Mae hwn yn llwybr aml-ddefnydd. Mae’n rhedeg o dan ddwy bont lle gallwch ymuno neu adael y daith.  Mae’r llwybrau sy’n arwain at y bont gyntaf yn wastad, mae’r llwybrau sy’n arwain at yr ail bont i fyny allt.  Mae yna lwybrau eraill oddi ar y daith hon ond nid yw pob un yn addas ar gyfer pobl sy’n gwthio pram neu’n defnyddio sgwter symudedd.

Pan fyddaf yn cerdded ar y llwybr hwn byddaf yn gweld ac yn clywed llawer o wahanol fathau o  adar.  Mae yna hefyd doreth o flodau a phlanhigion sy’n blodeuo ar wahanol adegau o’r flwyddyn.  Mae’n arbennig o lliwgar yn yr hydref wrth i’r dail droi.

Wrth i’r llwybr fynd yn ei flaen mae’n gadael tref Prestatyn ar ôl ac yn mynd tua Gallt Melyd.  Mae mwy o gaeau i’w gweld rŵan a hyd yn oed ambell wiwer lwyd.   Mae’r llwybr yn agor allan yng Nghlwb Golff Gall Melyd lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa neu gael diod.  O’r fan hon gallwch weld dros y caeau golff tua’r  môr a’r mynyddoedd.

Yn agos iawn at y fan yma mae Y Sied – Hen Sied Nwyddau Gallt Melyd sydd erbyn hyn yn gaffi a chanolbwynt cymunedol.  Dyma le arall i gael diod ac eistedd a mwynhau’r olygfa.  Mae’r golygfeydd oddi yma’n eang ac mae’n werth stopio yma i edrych allan dros y môr tua Llandudno a Mynyddoedd y Carneddau.  Gallwch ddod oddi ar y llwybr rhwng y Clwb Golff a’r Sied a cherdded i lawr at y briffordd i ddal y bws (35/36).

Wrth adael y Sied mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd waelod Graig Fawr ac ymlaen tua Dyserth.  Wrth fynd rownd y gornel cewch y golygfeydd gorau ar y daith –  allan tua Llandudno, y Carneddau a Moel Siabod.  Gallwch ddod oddi ar y llwybr ychydig ar ôl hyn ond mae’r ffordd i lawr am y briffordd yn serth dros ben.

Mae gweddill y daith drwy goed a chaeau ac o dan ambell bont ac mae ‘na feinciau a lle gallwch eistedd am ychydig a gwrando ar yr adar.  Gallwch ddod oddi ar y llwybr ger un o’r pontydd lle mae arwydd at y rhaeadr yn Nyserth, mae hwn yn llwybr serth gyda grisiau i fynd i waelod y rhaeadr.  Mae ‘na ddefaid a cheffylau yn y caeau ar hyd y rhan yma o’r daith.  Mae pen y llwybr yn mynd dros nant sy’n bwydo’r rhaeadr a gallwch hefyd gerdded yn y goedwig yma.  Mae’r daith hon tua 2 filtir a 1/2, felly mae’n cymryd tua awr. Os byddaf yn dod ar y bws byddaf yn dod i ffwrdd ar y groesffordd yn Nyserth ac yn cerdded i fyny’r allt (bws 35/36).”

Rhaeadr Dyserth

 

Mae Canolfan Croeso y Rhyl yn siop un alwad ar gyfer tocynnau teithio, digwyddiadau a theatrau a gwybodaeth am lety a gwyliau. Dyma’r lle gorau i fynd am gyngor ar bob agwedd ar eich ymweliad ag ardal arfordirol Sir Ddinbych.  Bydd y staff wrth eu bodd yn eich helpu chi gydag:

– archebu llety ymlaen llaw neu tra  byddwch yma
– rhoi gwybodaeth i chi am lefydd i ymweld â nhw, pethau i’w gwneud, llefydd i fwyta
– cynllunio teithiau
– gwybodaeth a thocynnau ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol a lleol
– tocynnau ar gyfer bysiau National Express.

Maen nhw hefyd yn gwerthu mapiau, teithlyfrau, llyfrau a chrefftau.

Ffôn: 01745 355068 e-bost :rhyl.tic@denbighshire.gov.uk – wedi’i leoli yn Y Pentref, Rhodfa’r Gorllewin, y Rhyl LL18 1HZ

Oriau agor tan ddydd Mercher, 30 Mehefin

(Dydd Iau, 1 Mehefin, Ar Gau)

Dydd Llun 14.00-16.00

Dydd Mawrth, Mercher ac Iau 09.30 – 16.00

Dydd Gwener,  9.30 – 12.30