Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Colofn Eliseg

Dyma ein pumed taith gerdded gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru. Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 3 arall wedi’u cynllunio ar eich cyfer dros yr misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein  ardal brydferth ni.

Concenn itaque pronepos Eliseg edificauit hunc lapidem… – ac felly Concenn, gor-ŵyr Eliseg wnaeth adeiladu’r garreg hon…

Er gwaethaf ei Lydaweg disglair, mae Colofn Eliseg yn edrych braidd yn druenus y dyddiau hyn, wedi’i gyfyngu fel y mae gan ffens haearn ar garnedd gron o’r Oes Efydd sydd ei hun wedi’i amgylchynu gan ffens mewn cae o ddefaid.  Os byddwch yn troi eich llygaid gallwch ddehongli Abaty Glyn y Groes y tu hwnt i’r safle carafanau, ond yn fwy amlwg mae’r byrddau sy’n hysbysebu cinio rhost yng Ngwesty Abbey Grange gerllaw ar draws yr A542 ble mae’r traffig yn gwibio heibio’n gyson.  

Mae’r tri deg un o linellau o arysgrifau Llydaweg wedi erydu. Yn ffodus, roedd hynafiaethwyr fel Edward Lhuyd wedi copïo’r testun yn 1696 ac ysgrifennodd Thomas Pennant amdano ganrif yn ddiweddarach.   Rydym yn gwybod bod Colofn Eliseg yn weddillion yr hyn oedd yn arfer bod yn gofeb llawer uwch a adeiladwyd gan Cyngen (arweinydd lleol) yn y nawfed ganrif i anrhydeddu ei hen daid Eliseg, oedd wedi curo’r Eingl-Sacsoniaid mewn brwydr a’u danfon o’r rhan hon o Bowys. Mae’n bosib bod yr arysgrifau wedi eu bwriadu fel propaganda, i godi ysbryd neu i’w darllen yn uchel mewn man ble roedd arweinwyr yn cael eu penodi.

Roed y golofn druan wedi gweld dyddiau gwell. Cafodd ei ddymchwel, yn ôl y sôn gan ddelwddryllwyr Cromwell yn y 1640au, wnaeth dorri’r groes oddi ar y top. Er bod tirfeddiannwr wedi ailosod y golofn a ddifrodwyd (yn dilyn ymweliad Pennant) yn y ddeunawfed ganrif ar frig y twmpath Oes Efydd, ni ellir dianc rhag y ffaith ei fod nawr yn edrych mwy fel ffalws.

Mae’r daith aeafol hon yn adfer parch yr heneb. O’r Afon Dyfrdwy gynhyrfus, dringais i fyny a dros Gastell Dinas Brân (mewn strwythur cynharach ble wnaeth Eliseg fyw mae’n debyg), o dan Greigiau Eglwyseg – y creigiau sy’n cofleidio’r dyffryn mewn calchfaen ac o amgylch Foel Fawr.   Heb dwristiaid yr haf a dail, mae carreg yn hollbresennol yn y tirlun hwn, gyda Cholofn Eliseg yn ganolbwynt.  

Gwasanaeth Bws Mae Llangollen yn brif arhosfa ar wasanaeth T3 Traws Cymru sy’n rhedeg rhwng Y Bermo a Wrecsam sawl gwaith y dydd, saith diwrnod yr wythnos.   Mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth Cyngor Sir Ddinbych 192 o Felin-y-Wig drwy Corwen, yn rhedeg ddwywaith y dydd i bob cyfeiriad, dydd Llun i ddydd Gwener.   A’r gwasanaeth 64 Dyffryn Tanat o Lanarmon DC drwy Glyn Ceiriog, Y Waun a Froncysyllte, sy’n rhedeg chwech gwaith y dydd, dydd Llun i ddydd Sadwrn.  

Taith Gerdded

Mae’r daith gerdded gylchol 7 milltir hon yn cynnwys rhai ffyrdd a chamfeydd a thir anwastad gydag un rhan serth i fyny ac i lawr o Gastell Dinas Brân.   Yn fendigedig ar ddiwrnod oer yn y gaeaf, er gwaethaf y ffaith bod Abaty Glyn y Groes ynghau y tu allan i’r tymor ac yn dawel o’i gymharu â’r haf pan mae tagfeydd yn Llangollen. Gorau oll, mae’r gaeaf yn dod â chesig y ddrycin a choch yr adain i hedfan yn y coed drain sy’n glynu at sgri Creigiau Eglwyseg wrth iddynt lenwi eu boliau ar wledd o aeron.

  1. O’r safle bws, anelwch am y bont.   Bydd yr Afon Dyfrdwy gynhyrfus islaw yn dal eich sylw am amser.   Croeswch y ffordd a dilynwch yr arwyddion cyfeirio i Gastell Dinas Brân. 
  2. Os ydych eisiau osgoi disgyniad serth, cymerwch y llwybr o amgylch gwaelod yr allt i’r chwith.   Fel arall, dringwch i adfeilion anhygoel castell yr 13eg ganrif, a adeiladwyd ar gyfer tywysoges gogledd Powys.  
  3. Ymunwch â Llwybr Clawdd Offa ar ffordd dawel islaw Creigiau Eglwyseg.   Offa gyda llaw, wnaeth Eliseg ei ymladd i ffwrdd.   Mae’r tirlun hwn yn anhygoel.   Sylwer ar y sgarpiau calchfaen yn troelli i lawr a chesig y ddrycin a choch yr adain yn heidio i’r coed drain.  
  4. Gadewch Lwybr Clawdd Offa ar gyfer y ffordd i lawr ochr y gogledd orllewin i’r dyffryn.   Ewch heibio hysbysfwrdd Eliseg. 
  5. Yna cymerwch y chwith ar Daith Clwyd yn dilyn nant i mewn i’r coed.   Croeswch y nant wrth y bont droed a dros y caeau nes bydd Taith Clwyd yn cwrdd â’r ffordd.   Trowch i’r chwith yna i’r dde, yn dal i ddilyn yr arwyddion cyfeirio ar gyfer Abaty Glyn y Groes.
  6. Ar ôl mynd heibio planhigfa gonwydd islaw’r hen goed derw, dringwch gamfa yn y ffens a chymryd y tro serth i lawr i groesi Afon Eglwyseg ar bont droed i’r dde o’r maes carafanau.  Cadwch ar y llwybr â gwrychoedd nes byddwch yn cyrraedd y ffordd fawr. Gallwch weld Colofn Eliseg yn y cae ar y dde.  
  7. Wrth gyrraedd yr A542 trowch i’r dde a chymerwch ofal yn dilyn y ffordd am bellter byr iawn i Golofn Eliseg.   Pan fyddwch yn barod, dilynwch eich camau yn ôl ar Daith Clwyd.   Sylwch ar Abaty Glyn y Groes islaw’r coed ar y dde – nid yw’n agored yn y gaeaf.  
  8. Ble mae Taith Clwyd yn cwrdd â’r ffordd, trowch i’r dde tua’r gamlas yna dychwelyd i Langollen ar hyd llwybr tynnu’r gamlas. Os bydd gennych amser ar eich dwylo cyn dal y bws, mae Llangollen yn llawn mannau diddorol a chaffis bendigedig.   Mae’r Corn Mill yn cynnwys decin dros yr Afon Dyfrdwy.