Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ywen Nantglyn

Dyma ein pedwerydd taith gerdded gan ein blogiwr gwadd, Julie Brominicks, awdur The Edge of Cymru. Maent i gyd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd gan bob un fap syml i chi ei ddilyn. Mae gennym 4 arall wedi’u cynllunio ar eich cyfer dros yr misoedd nesaf, felly cadwch lygad amdanynt ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym am eich ysbrydoli i archwilio ein  ardal brydferth ni.

Uwch fy mhen, mae gwibiadau adenydd rhwng canghennau bytholwyrdd sy’n hidlo golau’r haul fel y mae ffenestri lliw yn ei wneud. Chwiban dryw eurben a chlebran titw. Rwyf ddau fetr oddi ar y ddaear yn y goeden ond mae’r adar yn dal i fod mor bell uwch fy mhen yn y goron ac rwy’n hollol amherthnasol iddyn nhw.

Gyda boncyff sydd â chwmpas dros saith metr a choron drwchus, mae Ywen Nantglyn yn gawr sy’n ffynnu ar dir eglwys Sant Iago ac sy’n gwneud i’r eglwys ymddangos yn fechan yn ei hochr, ond dim ond o bosibl y mae’n ei rhagddyddio, er mor fawr yw’r demtasiwn i ragdybio hynny. Mae’r arfer o addoli coed cysegredig yn hŷn na Christnogaeth, ac ymddengys y gallai’r eglwysi cyntaf fod wedi cael eu hadeiladu ar safleoedd addoli Paganaidd cynharach, ond mae’n anodd dyddio coed ywen. Yn ei lyfr rhagorol ‘Trees of the Celtic Saints; The Ancient Yews of Wales’, mae Andrew Morton yn esbonio bod y pren rhuddin yn pydru gan ei gwneud yn amhosibl cynnal profion carbon a dendrocronoleg, tra bod y twf anhrefnus nodweddiadol yn ei gwneud yn anodd i fesur cwmpas y boncyff hyd yn oed.

Mae blynyddoedd lawer ers i’r rhuddin bydru o’r ywen hon, ond ar ryw adeg gosodwyd grisiau llechi a darllenfa yn gelfydd yn y boncyff gwag er mwyn, yn ôl y chwedl, caniatáu i’r arweinydd Methodistaidd John Wesley bregethu o’r goeden yn 1790. Os ydych yn ddigon ystwyth gallwch dynnu eich hun i fyny i ‘Ywen y Pulpud’ gan ddefnyddio’r canllaw, a mynd i mewn i galon y goeden.

Felly yma yn y galon rwy’n eistedd. Clywaf glebran colomennod, ac anadlaf yr arogl bytholwyrdd. Cyffwrdd â’r rhisgl llyfn rhosynnaidd a’r pennau banadl bach o dyfiant trwchus. Mae sawl coesyn aeddfed yn byrstio’n syth o’r bol – dwi’n cyfri o leiaf saith. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo fel pe bawn mewn coedwig. Mae’r bylchau rhyngddynt yn datgelu golygfeydd wedi’u gorchuddio gan ganghennau bytholwyrdd; slabiau o fwsogl ar do llechi’r eglwys, y cae bryniog hir a’i gloddiau. Y ddaear lle mae tomwellt o nodwyddau yn gwneud lle i laswellt mwsoglyd, beddau a fioledau. Mae’r portreadau gwyrddlas hyn, cân y nant a’r persawr yn cynllwynio i’m drysu. Pa mor hir ydw i wedi eistedd yn yr eglwys hon o adar? A dyna pryd mae’n fy nharo i – anferthedd amser. Rwyf wedi rhoi efallai awr o fy amser i’r goeden hon sydd wedi byw, cynnal a chysgodi yma ers canrifoedd.

Gwasanaeth Bws

Mae gwasanaethau bws yn rhedeg yn rheolaidd i Ddinbych o bob rhan o’r sir. Mae gwasanaeth 14 P&O Lloyd yn rhedeg rhwng Dinbych a’r Wyddgrug. Mae gwasanaeth 76 M&H yn rhedeg rhwng Dinbych a Rhuthun. Mae gwasanaeth 51 Arriva yn rhedeg rhwng y Rhyl a Dinbych. Sylwch fod gwasanaeth 76L (drwy Landyrnog) yn codi a gollwng teithwyr y tu allan i Eglwys St Marchell, tra bo modd dal gwasanaethau bws 76 eraill ryw ddwy funud i ffwrdd ar droed.

Gallwch gyrraedd Nantglyn o Ddinbych ar fws Fflecsi 77 – argymhellir eich bod yn archebu eich taith rhwng wythnos a diwrnod ymlaen llaw drwy lawrlwytho’r ap o fflecsi.wales neu ffonio 0300 234 0300.

I gael rhagor o wybodaeth am gludiant cyhoeddus yn Sir Ddinbych.

I gynllunio eich taith, defnyddiwch Traveline Cymru.

Cofiwch fod tocyn 1bws am £6.50 yn gadael i chi deithio faint fynnwch chi o amgylch gogledd Cymru yn defnyddio pob gwasanaeth.

Cerdded

Mae ywen ac eglwys ôl-ganoloesol Sant Iago, lle mae’r ywen yn tyfu yn ei mynwent, ar safle heddychlon ym mhentref bychan Nantglyn lle mae nant soniarus yn llifo drwyddo. Mae hon yn daith gerdded linellol 7 milltir o hyd.  Mae’n ddeiliog yn y gwanwyn ac yn cysylltu llwybrau ag arwyddbyst ar draws cefn gwlad agored gyda chamfeydd, lonydd a chaeau a all fod yn fwdlyd ac mae rhan fer ohoni yn mynd ar hyd y ffordd. Rwy’n argymell archebu bws Fflecsi o Ddinbych i Nantglyn a cherdded yn ôl. Dylai hynny roi digon o amser i chi hefyd ymweld ag Eglwys St Marchell ar Ffordd Rhuthun (sydd â choed ywen hefyd) lle mae awyrgylch heddychlon, ac sydd ar agor yn ystod golau dydd.

  1. O giât yr eglwys trowch i’r dde, yna i’r chwith wrth y groesffordd a thros y bont. Parhewch ar y ffordd gan fynd heibio i’r coed ar y chwith, yna dilynwch yr arwydd llwybr ceffyl i’r chwith.
  2. Cadwch ar y llwybr ceffyl, gan groesi nant i ochr y bryn ac o dan y goedlan dderw. Dilynwch y llwybr rhwng cloddiau a choed sy’n sefyll i fyny’r allt at lôn.
  3. Trowch i’r chwith i’r lôn o dan Foel Gesych ac yna bron yn syth i’r chwith i Gilffordd Clifford.
  4. Dilynwch y gilffordd i lawr yr allt, ar ddarn gwyrdd o lôn, yna gadewch hi i droi i’r dde i lôn werdd rhwng coed. Bydd yn mynd â chi i lawr heibio tŷ i lôn arall – dilynwch y lôn i’r ffordd.
  5. Trowch i’r dde ar y ffordd, sy’n mynd i fyny allt fechan. Ychydig yn nes ymlaen chwiliwch am arwyddion llwybr troed i’r chwith. Dilynwch y cyfeirbwyntiau sy’n eich arwain i lawr caeau, yna i’r dde ar hyd nant y byddwch yn ei chroesi ar y bont – gan osgoi’r twll!
  6. Daliwch i ddilyn yr arwyddion ag arwyddbyst ar draws y caeau, gan gadw glannau coediog y nentydd i lawr i’r dde oddi wrthych.
  7. Yn y pen draw mae’r cyfeirbwyntiau yn eich arwain i mewn i’r coed ac ar hyd ymyl y nant. Rydych nawr ar dir preifat, mae’r llwybr ychydig yn llithrig ond mae wedi’i nodi’n dda gan arwyddion ar goed. Pan ddowch at y bont droed newydd peidiwch â’i chroesi. Cadwch ar lan chwith y nant, gan ddilyn yr arwyddion i’r coetir ac yna i fyny’r cae i’r chwith ar hyd y ffens i ymuno â’r trac.
  8. Trowch i’r dde i’r trac a’i ddilyn o amgylch y chwarel a gardd furiog y tŷ preifat.
  9. Daliwch i ddilyn y llwybrau ag arwyddbyst ar hyd y caeau nes iddo ymuno â Thaith Clwyd. 
  10. Gallwch dorri allan i Ddinbych yn gynt os ydych yn brin o amser. Fel arall cadwch at Daith Clwyd sydd wedi’i nodi’n dda ar draws caeau i’r de o Ddinbych, nes cyrraedd Fferm Brwcws. Oddi yma cymerwch y llwybr i’r gogledd ac ar draws y ffordd i Eglwys St Marchell gyda’i choed yw – a mwynhewch yr heddwch.