Skip to content Skip to main navigation Skip to footer

Ble bynnag y boch yn y byd, ymunwch â ni i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol, Dydd Gŵyl Dewi.

Dewi Sant yw nawddsant Cymru.  Fe’i dethlir ar 1 Mawrth i nodi’r diwrnod y bu farw yn 589 OC. Cafodd ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi a daeth ei gysegrfa yn gyrchfan pererinion yn y Canol Oesoedd.  Yn draddodiadol, dyma pryd y byddwn yn dathlu ein nawddsant a Chymru drwy wisgo cenhinen.

Sefydlodd Dewi Sant ganolfannau crefyddol ar hyd a lled Cymru a Lloegr ac yna bu’n byw yn Nhŷ Ddewi yn ne orllewin Cymru, ble sefydlodd gymuned grefyddol, a dywedir ei fod yn gwneud gwyrthiau. 

Dydd Gŵyl Dewi hapus! I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, Gwnewch y Pethau Bychain. Dyma oedd geiriau enwog Dewi: gwnewch y pethau bychain. Pa ffordd well o ddathlu na dod â’r geiriau’n fyw drwy rannu hwyl a chyfeillgarwch.

Ble bynnag y boch yn y byd, ymunwch â ni i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol. Does dim angen gwybodaeth flaenorol am Gymru! Dewiswch un o’r Pethau Bychain a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio #PethauBychain.

 

Faint allwch chi eu gwneud a’u rhannu mewn 24 awr?

 

#1 Chwifio’r Ddraig

Mae gwledydd eraill yn gorfod goddef streipiau, ond mae gennym ni ddraig goch arwrol ar ein baner. Chwifiwch hi â balchder, ble bynnag y boch. Mae’n olygfa gyfarwydd ym mhob cwr o Gymru, ond beth yw hanes draig Cymru? Mae gennym atebion i rai o’ch cwestiynau am chwedl y Ddraig Goch.

#2 Gwisgwch genhinen

Ydy, mae ein cenhinen genedlaethol yr eitem ffasiwn fwyaf cŵl. Rhowch hi ar eich het neu siwmper i ddathlu ein nawddsant. Mae digonedd o chwedlau i egluro cysylltiad Cymru a’r genhinen. Dywedir fod Brenin Gwynedd yn y 7fed ganrif wedi gorchymyn ei fyddin i wisgo cennin er mwyn adnabod eu cyd-filwyr ar faes y gad. Ond beth bynnag fo’r tarddiad, rydym yn tyfu digon ohonynt ac maen nhw’n blasu’n fendigedig. 

#3 Cwtsh

Fel coflaid, ond yn llawer gwell. Mae’n lle diogel – yn gynnes, yn ofalgar ac yn tawelu meddwl.   Mae’n golygu cymaint i ni’r Cymry.

 

#4 Rhowch lwy

O ddifri, dyma arwydd cariad yng Nghymru. Rydym wedi bod wrthi yn cerfio ein llwyau caru ers blynyddoedd – bob un â’i neges unigryw ei hun. Yn ôl y traddodiad, os oedd dyn yn creu llwy garu i’w gariad, roedd yn dangos i’w theulu ei fod yn grefftwr.  Mae gan bob symbol llwy garu ei neges unigryw ei hun, o gariad tragwyddol y cwlwm Celtaidd i’r tro ar y coesyn sy’n arwydd o undod. Ewch i weld llwy garu hynaf Cymru yn Sain Ffagan, neu syrthio mewn cariad â llwyau caru mwy modern Ceini Spiller.

#5 Siaradwch Gymraeg

Dysgwch rywfaint o Gymraeg. Dechreuwch lif ar Duolingo, sgwrsio â ffrindiau neu ddilyn cwrs â learnwelsh.cymru. Mae llawer o ffyrdd o ymarfer eich Cymraeg. Oeddech chi’n gwybod mai’r Gymraeg yw’r iaith sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ar Duolingo? Mae apiau gwych eraill ar gael hefyd fel Say Something in Welsh. Neu beth am gyfuno eich dysgu â gwyliau a dilyn cwrs preswyl yng nghanolfan iaith hyfryd Nant Gwrtheyrn? Rhowch y byd yn ei le dros baned â siaradwr Cymraeg.

 

#6 Prynwch beint i Dewi

 

Wedi’r cyfan, rydym yn dathlu gŵyl Dewi. Mae Dafydd neu Dai yn cyfrif hefyd, yn ogystal â Non (i ddathlu mam Dewi Sant). Mae unrhyw un sy’n rhannu enw â sant yn haeddu eu dathlu, ac mae dros 80 o fragdai yng Nghymru, felly mae digonedd o gwrw gwahanol i ddewis.  Be gymeri di Dewi? Peint o Monty, Cwrw Cwtsh gan Tiny Rebel’s neu gwrw di-alcohol Drop Bear Beer? A beth am Non – wisgi Penderyn neu Jin Dyfi? Gwin Cymreig o Winllan Llaethliw neu Winllan Trefaldwyn i Dafydd? (Peint o ddŵr fyddai’r Dewi gwreiddiol wedi’i ddewis mae’n debyg). Dewiswch dafarn Gymreig glyd. Iechyd da!

 

#7 Rhowch flodau

Cennin pedr yn ddelfrydol. Dyma ein blodyn cenedlaethol ac rydym wrth ein boddau yn eu rhoi i bobl ar ddydd ein nawddsant.  Ymddengys mai yn ystod y 19eg ganrif y cyflwynwyd y cennin pedr fel ein blodyn cenedlaethol, yn lle’r hen genhinen druan.  Roedd David Lloyd George yn ei ffafrio, a chan ei bod yn ymddangos yn gynnar yn y gwanwyn fel symbol o optimistiaeth natur daeth yn ddewis naturiol i nodi Mawrth y 1af.

#8 Gwisgwch rywbeth o Gymru

Côt garthen, sannau llachar a jîns cŵl.  Gallwn ni’r Cymry ddangos steil cystal â neb. O sannau carthen Mabli Knitts i siwmperi ‘hapus’ Y Lein – mae yna eitem Gymreig i liwio pob cwpwrdd dillad. Neu i’r rhai bychain, mae siwmperi Clyd neu ddillad hwyliog llawn lliw Silibili.

#9 Dawnsiwch

O Bwncath i Bassey, Trwynau Coch i Tom Jones neu Maffia Mr Huws i’r Manics. Dewiswch alaw anfarwol o Gymru a dawnsiwch nerth eich traed! Mae alaw o Gymru i bawb a phob achlysur a dyma rai o restrau chwarae Spotify i chi fwynhau dawnsio iddynt. Neu am diwns newydd ffres, ewch ar restr chwarae Cymru Greadigol sy’n cael ei diweddaru bob mis.

#10 Bwytewch gaws

Mae ein cariad at gaws yma yng Nghymru yn dod yn syth o’r top. Mae ein Prif Weinidog wrth ei fodd â Chaws Caerffili ac mae llawer o gawsiau Cymreig anhygoel i chi roi cynnig arnynt.

#11 Plannwch goeden

Un goeden fechan ar y tro, gallwn wneud Cymru, a’r byd, yn lle ychydig bach yn fwy gwyrdd – a dyna ydyn ni’n ei wneud yng Nghymru wrth i ni blannu coeden ar gyfer pob aelwyd a chreu ein Coedwig Genedlaethol.

 

#12 Rhannwch gacennau cri

Neu enw arall arnynt yw ‘Picau ar y maen’ neu ‘Gacen Radell’ gan eu bod yn arfer cael eu coginio ar radell.  Cadwch lygaid ar y rhain wrth eu coginio – dim digon ac ni fyddant wedi coginio yn y canol a rhy hir, byddant yn rhy sych.  Rhowch gynnig arni drwy ddilyn y rysáit traddodiadol hwn neu gallwch brynu rhai â blas caws a chennin gan Mamgu Welshcakes, siocled oren gan Fabulous Welshcakes neu jam a hufen gan Bakestones.

#13 Ewch i ymweld â chastell

Ffaith anhysbys; Mae mwy o gestyll i bob milltir sgwâr yng Nghymru nag yn unman arall yn Ewrop, felly fyddwch chi byth yn bell oddi wrth un.

Mae ôl ein hanes yn amlwg yn ein tirlun sy’n gyforiog o fryngaerau o Oes yr Haearn, adfeilion Rhufeinig a chestyll gan dywysogion Cymreig a brenhinoedd o Loegr o’r Canol Oesoedd.  Mae gennym dros 600 o gestyll, felly ble bynnag y byddwch yng Nghymru, ni fyddwch yn bell oddi wrthynt. Os nad oes gennych amser i fynd i bob un, dyma ddetholiad o gestyll i ymweld â nhw.

#14 Gwisgwch eich het Gymreig

Gwisgwch het Gymreig — ein het draddodiadol — â steil.

Mae’n het dal a oedd yn arfer cael ei gwisgo gan ferched fel rhan o wisg draddodiadol Gymreig.  Mae’r het eiconig yn eicon ffasiwn unwaith eto diolch i ddychymyg artistiaid fel Meinir Mathias a Seren Morgan Jones.  Neu beth am wisgo fersiwn fodern o’r het Gymreig – het Mistar Urdd neu’r het fwced eiconig.